RHAN 1HYBU A HWYLUSO DEFNYDD O’R GYMRAEG
4Adolygu safonau’r Gymraeg
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r safonau a bennir o dan adran 26 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) gyda golwg ar benderfynu a oes angen diwygio—
(a)
un neu ragor o’r safonau sy’n ymwneud â gwella neu asesu sgiliau’r gweithlu o ran y Gymraeg er mwyn—
(i)
hwyluso cyflawni targed a bennir o dan y Rhan hon, neu
(ii)
adlewyrchu’r Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6;
(b)
un neu ragor o safonau hybu’r Gymraeg er mwyn hwyluso cyflawni targed a bennir o dan y Rhan hon.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn rhan o’r adolygiad yn is-adran (1);
(b)
cwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cyhoeddi’r Cod o dan adran 7 am y tro cyntaf.