RHAN 5YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL
Amcan a swyddogaethau’r Athrofa Dysgu Cymraeg
39Hwyluso a chefnogi dysgu Cymraeg gydol oes
(1)
Amcan yr Athrofa Dysgu Cymraeg yw cefnogi pobl i ddysgu Cymraeg, a hwyluso’u cynnydd, fel bod rhagor o bobl (o bob oedran) yn dysgu’r iaith.
(2)
Er mwyn cyflawni’r amcan hwn, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg—
(a)
rhoi cyfeiriad ac arweiniad strategol i ddarparwyr dysgu Cymraeg;
(b)
darparu, neu hwyluso darpariaeth, deunyddiau dysgu Cymraeg;
(c)
cynllunio ar gyfer datblygu’r gweithlu addysg at ddiben gwella dulliau addysgu’r Gymraeg;
(d)
gwneud trefniadau i ddarparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg—
(i)
i’r gweithlu addysg,
(ii)
yn y gweithle, a
(iii)
i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol;
(e)
gwneud trefniadau i wella lefelau gallu yn y Gymraeg—
(i)
ymysg y gweithlu addysg,
(ii)
yn y gweithle, a
(iii)
ymysg dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;
(f)
dylunio a datblygu darpariaeth dysgu Cymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol, neu hwyluso gwaith dylunio a datblygu o’r fath;
(g)
datblygu a chynnal cwricwlwm cenedlaethol dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;
(h)
casglu a chyhoeddi data, o leiaf unwaith bob 12 mis, ar ddysgwyr Cymraeg sydd dros oedran ysgol gorfodol.
(3)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (2)(c), (d)(i) ac (e)(i), rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw i’r asesiad sydd yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg yn rhinwedd adran 25(2)(a) (asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y mae ei angen mewn awdurdodau lleol).
(4)
Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg hefyd—
(a)
cydlynu a chomisiynu ymchwil ar addysgu neu ddysgu Cymraeg;
(b)
rhoi cyngor i unrhyw berson ar addysgu neu ddysgu Cymraeg;
(c)
rhoi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas ag addysgu neu ddysgu Cymraeg;
(d)
gwneud unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso’u cynnydd, os yw’n ystyried bod hynny’n briodol er mwyn cyflawni targed a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg o dan adran 24(8).
(5)
At ddiben diwallu gwahanol anghenion pobl sydd dros oedran ysgol gorfodol ac sy’n dysgu (neu sy’n dymuno dysgu) Cymraeg, rhaid i’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg a ddylunnir ac a ddatblygir yn unol ag is-adran (2)(f)—
(a)
cynnwys amrywiaeth o lefelau a gweithgareddau dysgu;
(b)
cynnwys amrywiaeth o leoliadau dysgu a dulliau astudio;
(c)
cael ei threfnu yn y fath fodd fel ei bod yn hwyluso cynnydd dysgwyr drwy’r gwahanol lefelau dysgu.
(6)
Rhaid seilio’r cwricwlwm cenedlaethol dysgu Cymraeg y cyfeirir ato yn is-adran (2)(g) a’r lefelau dysgu y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) ac (c) ar—
(a)
y lefelau cyfeirio cyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1, a
(b)
y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6.
(7)
Yn y Rhan hon—
ystyr “darparwr dysgu Cymraeg” (“Welsh language learning provider”) yw person a ariennir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg i ddarparu addysgu Cymraeg i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996.