RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG
Cynlluniau lleol
35Rheoliadau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â chynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol—
(a)
ffurf a chynnwys cynllun;
(b)
amseriad llunio cynllun;
(c)
y broses ymgynghori wrth lunio cynllun drafft;
(d)
gweithdrefn cymeradwyo cynllun;
(e)
sut a phryd i gyhoeddi cynllun;
(f)
adrodd ar weithredu’r cynllun.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd wneud darpariaeth i alluogi dau neu ragor o awdurdodau lleol i lunio cynllun lleol strategol Cymraeg mewn addysg ar y cyd, a chaiff unrhyw reoliadau o’r fath wneud darpariaeth sy’n cymhwyso adrannau 30 i 34 gydag addasiadau at y diben hwnnw.