Rhagolygol

RHAN 4LL+CCYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Cynlluniau lleolLL+C

34Adolygu a diwygio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysgLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol adolygu ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yn gyson, a’i ddiwygio os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried—

(a)bod awdurdod lleol yn annhebygol o gyflawni targed sy’n gymwys iddo yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, a

(b)bod angen diwygio cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol yn unol â hynny.

(3)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod lleol—

(a)yn nodi eu bod yn ystyried bod awdurdod lleol yn annhebygol o gyflawni targed sy’n gymwys iddo yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg.

(4)Pan fo awdurdod lleol yn cael cyfarwyddyd o dan is-adran (3) ond yn penderfynu peidio â diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, rhaid i’r awdurdod lleol roi rhesymau i Weinidogion Cymru dros beidio â gwneud hynny.

(5)Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg o dan is-adran (1) neu mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (3), rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft.

(6)Mae adrannau 30 i 33 a gweddill yr adran hon yn gymwys i gynllun diwygiedig yn yr un modd ag y maent yn gymwys i’r cynllun gwreiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)