RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG
Cynlluniau lleol
34Adolygu a diwygio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg
(1)
Rhaid i awdurdod lleol adolygu ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yn gyson, a’i ddiwygio os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.
(2)
Mae is-adran (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried—
(a)
bod awdurdod lleol yn annhebygol o gyflawni targed sy’n gymwys iddo yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, a
(b)
bod angen diwygio cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol yn unol â hynny.
(3)
Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod lleol—
(a)
yn nodi eu bod yn ystyried bod awdurdod lleol yn annhebygol o gyflawni targed sy’n gymwys iddo yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;
(b)
yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg.
(4)
Pan fo awdurdod lleol yn cael cyfarwyddyd o dan is-adran (3) ond yn penderfynu peidio â diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, rhaid i’r awdurdod lleol roi rhesymau i Weinidogion Cymru dros beidio â gwneud hynny.
(5)
Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg o dan is-adran (1) neu mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (3), rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft.
(6)
Mae adrannau 30 i 33 a gweddill yr adran hon yn gymwys i gynllun diwygiedig yn yr un modd ag y maent yn gymwys i’r cynllun gwreiddiol.