RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Cynlluniau lleol

33Cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

(1)

Rhaid i awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’w gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg gael ei gymeradwyo, ei gyhoeddi a’i anfon—

(a)

at gorff llywodraethu pob ysgol ‍a chorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir y mae’n eu cynnal;

(b)

at bennaeth pob sefydliad addysg bellach yn ei ardal;

(c)

mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal—

(i)

at y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, at y corff crefyddol priodol.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg a gymeradwyir.