RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Cynlluniau lleol

31Cyfnod cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

(1)

Mae pob cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yn cael effaith am gyfnod o 5 mlynedd, ac mae—

(a)

y cyfnod cyntaf o 5 mlynedd yn dechrau ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a

(b)

pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dilyn yn dechrau drannoeth y diwrnod y mae’r cyfnod 5 mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(2)

Ond rhaid i bob cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg nodi’r camau y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd yn unol ag adran 30(3) dros gyfnod o 10 mlynedd.