RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Cynlluniau lleol

30Cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

(1)

Rhaid i bob awdurdod lleol lunio cynllun (“cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg”) sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol—

(a)

yn hybu a hwyluso, yn ei ardal—

(i)

addysg Gymraeg, a

(ii)

defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion;

(b)

yn cyflawni’r ddyletswydd a osodir arno o dan adran 26(2)(a) (cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau a osodir gan Weinidogion Cymru yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg).

(2)

Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg hefyd, i’r graddau y mae rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gwneud hynny’n ofynnol, nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg i hybu a hwyluso—

(a)

addysgu’r Gymraeg, a

(b)

addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,

mewn perthynas â phlant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn ddisgyblion mewn ysgolion.

(3)

Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg nodi, yn benodol, y camau y bydd yr awdurdod lleol yn eu cymryd—

(a)

i arfer ei swyddogaethau addysg—

(i)

er mwyn gwella’r ddarpariaeth o addysg Gymrae‍g yn ei ardal,

(ii)

er mwyn gwella’r broses o gynllunio darpariaeth addysg Gymraeg yn ei ardal,

(iii)

er mwyn cynyddu nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n cael addysg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” yn ei ardal,

(iv)

er mwyn cynyddu nifer yr ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” yn ei ardal, a

(v)

er mwyn sicrhau bod digon o ymarferwyr addysg yn gweithio yn ei ardal,

at ddiben cyflawni targedau a osodir arno yn rhinwedd adran 24(5);

(b)

i hybu a darparu gwybodaeth am yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg‍” yn ei ardal;

(c)

i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 23 mewn cysylltiad ag addysg drochi hwyr yn ei ardal;

(d)

i hwyluso dilyniant o ran addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng—

(i)

addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol,

(ii)

ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir, a

(iii)

addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol.

(4)

Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg hefyd gynnwys—

(a)

gwybodaeth am yr ymarferwyr addysg sy’n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol;

(b)

adroddiad ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r cynllun blaenorol (yn achos pob cynllun ac eithrio’r un cyntaf).

(5)

Wrth lunio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)

rhoi sylw i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b)

ymgynghori ar ddrafft o’r cynllun â’r canlynol—

(i)

ei awdurdodau lleol cyfagos;

(ii)

pennaeth pob ysgol a‍ phennaeth pob ysgol feithrin a gynhelir y mae’n eu cynnal;

(iii)

corff llywodraethu pob ysgol a‍ chorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir y mae’n eu cynnal;

(iv)

pennaeth pob sefydliad addysg bellach yn ei ardal;

(v)

mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal, y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, ac os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(vi)

Prif Arolygydd ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(vii)

yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol;

(viii)

Comisiynydd y Gymraeg;

(ix)

y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(x)

Mudiad Meithrin Cyf (rhif y cwmni 02164058);

(xi)

personau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.