RHAN 1LL+CHYBU A HWYLUSO DEFNYDD O’R GYMRAEG

Rhagolygol

3Cyfrifo nifer y siaradwyr CymraegLL+C

(1)At ddibenion adrannau 1 a 2, mae nifer y siaradwyr Cymraeg i’w gyfrifo ar sail data a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, ond wrth gyfrifo nifer y siaradwyr rhaid ystyried unrhyw ddata perthnasol sy’n deillio o gyfrifiad a gynhelir yn unol â Deddf Cyfrifiad 1920 (p. 41).

(2)At ddibenion adrannau 1 a 2, mae pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg i’w benderfynu—

(a)o ran personau sy’n‍ 17 oed a throsodd, ar sail hunanasesiad;

(b)o ran plant sydd o dan‍ 17 oed, ar sail hunanasesiad neu asesiad rhiant neu ofalwr y plentyn.

(3)O ran plant sydd o dan 17 oed, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)pennu dull o benderfynu pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg at ddibenion adrannau 1 a 2, a

(b)pennu a yw’r dull hwnnw i’w ddefnyddio yn ogystal â’r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b) neu yn lle’r asesiadau hynny.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi canllawiau ar asesiadau o dan is-adran (2)(a) a (b).

(5)Wrth lunio canllawiau o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r Cod a lunnir o dan adran 6.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (4)—

(a)wrth i’r data y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu casglu, a

(b)wrth i’r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(a) a (b) gael eu cyflawni.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)