RHAN 1HYBU A HWYLUSO DEFNYDD O’R GYMRAEG
3Cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg
(1)
At ddibenion adrannau 1 a 2, mae nifer y siaradwyr Cymraeg i’w gyfrifo ar sail data a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, ond wrth gyfrifo nifer y siaradwyr rhaid ystyried unrhyw ddata perthnasol sy’n deillio o gyfrifiad a gynhelir yn unol â Deddf Cyfrifiad 1920 (p. 41).
(2)
At ddibenion adrannau 1 a 2, mae pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg i’w benderfynu—
(a)
o ran personau sy’n 17 oed a throsodd, ar sail hunanasesiad;
(b)
o ran plant sydd o dan 17 oed, ar sail hunanasesiad neu asesiad rhiant neu ofalwr y plentyn.
(3)
O ran plant sydd o dan 17 oed, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
pennu dull o benderfynu pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg at ddibenion adrannau 1 a 2, a
(b)
pennu a yw’r dull hwnnw i’w ddefnyddio yn ogystal â’r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b) neu yn lle’r asesiadau hynny.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi canllawiau ar asesiadau o dan is-adran (2)(a) a (b).
(5)
Wrth lunio canllawiau o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r Cod a lunnir o dan adran 6.
(6)
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (4)—
(a)
wrth i’r data y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu casglu, a
(b)
wrth i’r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(a) a (b) gael eu cyflawni.