RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Y Fframwaith Cenedlaethol

29Adrodd ar y Fframwaith Cenedlaethol

(1)

Rhaid i’r adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gynnwys gwybodaeth am weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.

(2)

Rhaid i’r cynllun blynyddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nodi sut y byddant yn gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.