RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Y Fframwaith Cenedlaethol

28Ymgynghori a chyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol

(1)

Wrth‍ lunio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)

pob awdurdod lleol;

(b)

yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gweler Rhan 5);

(c)

Comisiynydd y Gymraeg;

(d)

Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e)

y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(f)

y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhif y cwmni 07550507);

(g)

unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b)

gosod y Fframwaith Cenedlaethol gerbron Senedd Cymru.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg cyntaf gerbron Senedd Cymru o dan is-adran (2)(b) cyn 31 Gorffennaf 2028.