RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Y Fframwaith Cenedlaethol

27Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach am gynnwys, adolygu a diwygio

(1)

Wrth lunio neu ddiwygio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, rhaid i Weinidogion Cymru nodi’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, yn unol ag adran 24(3) a (4)‍ ac adran 25, dros gyfnodau o 10 mlynedd.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd pob cyfnod o 5 mlynedd, adolygu a diwygio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg er mwyn diweddaru’r camau hynny.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, cyn diwedd pob cyfnod o 5 mlynedd, adolygu’r targedau a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg yn unol ag adran 24(5) a (8) a gosod targedau newydd os ydynt o’r farn bod angen gwneud hynny.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd—

(a)

diwygio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, gan gynnwys ei ddiwygio er mwyn—

(i)

addasu cam sy’n bodoli eisoes heb newid y cyfnod y mae’n gymwys iddo;

(ii)

ychwanegu cam y maent yn bwriadu ei gymryd dros weddill y cyfnod y mae camau eraill y Fframwaith Cenedlaethol yn gymwys iddo;

(iii)

dileu cam;

(b)

llunio Fframwaith Cenedlaethol newydd (a gellir cyflawni gofynion is-adran (2) a (3) drwy wneud hynny).

(5)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, mae adrannau 26 ac 28(1) a (2) yn gymwys fel y maent yn gymwys i lunio’r Fframwaith Cenedlaethol.

(6)

O ran y cyfnod o 5 mlynedd yn is-adrannau (2) a (3)—

(a)

mae’r cyfnod cyntaf yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gerbron Senedd Cymru am y tro cyntaf, a

(b)

mae pob cyfnod dilynol yn dechrau drannoeth y diwrnod y mae’r cyfnod 5 mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(7)

Mae is-adran (6) yn gymwys i Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg newydd fel y mae’n gymwys i’r Fframwaith Cenedlaethol cyntaf.