RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG
Y Fframwaith Cenedlaethol
26Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.
(2)
Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a)
cymryd pob cam rhesymol i gyflawni targedau a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg mewn perthynas â’i ardal;
(b)
ar gais Gweinidogion Cymru, ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru er mwyn—
(i)
eu galluogi i gyflawni’r hyn sy’n ofynnol o dan adran 24(6) ac adran 25(2)(a);
(ii)
pennu targedau o dan adran 24(5), neu adran 24(7).