RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG
Y Fframwaith Cenedlaethol
25Y Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach ar y gweithlu addysg
(1)
Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ar gael ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru at ddiben gwella gallu yn y Gymraeg (drwy gyfeirio at y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6).
(2)
Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd—
(a)
cynnwys asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y mae ei angen ymhob awdurdod lleol at ddibenion cyflawni unrhyw darged a osodir o dan adran 24(5) a (7), a
(b)
nodi’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd, ar sail yr asesiad hwnnw, er mwyn sicrhau bod nifer yr ymarferwyr addysg sy’n gweithio yng Nghymru yn ateb y galw.