Rhagolygol

RHAN 4LL+CCYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Y Fframwaith CenedlaetholLL+C

24Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu CymraegLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio fframwaith (“Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg”), sy’n nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn gweithredu cynigion strategaeth y Gymraeg mewn perthynas ag—

(a)addysg Gymraeg,

(b)darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol,

(c)dysgu Cymraeg gydol oes, a

(d)caffael y Gymraeg.

(2)Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at “strategaeth y Gymraeg” yn gyfeiriad at y strategaeth ar hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 1 am yr hyn y mae rhaid ei gynnwys yn y strategaeth).

(3)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi, yn benodol, y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg drwy—

(a)cynyddu’r‍ swm o addysg Gymraeg a ddarperir;

(b)gwella’r ddarpariaeth o addysgu’r Gymrae‍g;

(c)hybu addysg Gymraeg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg‍”,‍ er mwyn cynyddu nifer y disgyblion sy’n mynychu’r ysgolion hynny;‍

(d)annog dilyniant o ran addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng—

(i)addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol,

(ii)ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir, a

(iii)addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol.

(4)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi, yn benodol, y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer personau o bob oed yng Nghymru i ddysgu Cymraeg ac i gynnal a gwella eu gallu yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i’r canlynol—

(a)drwy ofal plant i’r rheini sydd o dan oedran ysgol gorfodol;

(b)drwy addysg feithrin;

(c)drwy addysg drydyddol;

(d)yn y gweithle ac yn y gymuned.

(5)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd osod targedau ar awdurdodau lleol sy’n adlewyrchu unrhyw darged cenedlaethol yn strategaeth y Gymraeg a bennir o dan adran 1(1)(c).

(6)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gynnwys—

(a)asesiad o’r addysg Gymraeg a ddarperir ar y pry‍d ymhob awdurdod lleol;

(b)dadansoddiad o’r swm o addysg Gymraeg y mae ei ange‍n ymhob awdurdod lleol er mwyn cyflawni unrhyw darged a osodir.‍

(7)Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg osod targedau pellach sydd i’w cyflawni gan awdurdodau lleol at ddiben gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol yn ardal pob awdurdod lleol.

(8)Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd osod targedau ar yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gweler Rhan 5) sy’n adlewyrchu unrhyw darged yn strategaeth y Gymraeg yn ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso’u cynnydd, gan gynnwys targedau—

(a)i gynyddu nifer y bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol sy’n dysgu Cymraeg;

(b)i wella gallu yn y Gymraeg ymhlith pobl sydd dros oedran ysgol gorfodol sy’n dysgu Cymraeg (drwy gyfeirio at y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6).

(9)Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, ar gyfer achosion gwahanol, neu ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adrannau (3) i (8) er mwyn diwygio’r hyn y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y Fframwaith Cenedlaethol, neu y caniateir ei gynnwys ynddo.

(11)Yn is-adran (1)(b), ystyr “darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol” yw—

(a)addysgu’r Gymraeg mewn addysg drydyddol yng Nghymru, a

(b)addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)