RHAN 4CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG
Y Fframwaith Cenedlaethol
24Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio fframwaith (“Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg”), sy’n nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn gweithredu cynigion strategaeth y Gymraeg mewn perthynas ag—
(a)
addysg Gymraeg,
(b)
darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol,
(c)
dysgu Cymraeg gydol oes, a
(d)
caffael y Gymraeg.
(2)
Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at “strategaeth y Gymraeg” yn gyfeiriad at y strategaeth ar hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 1 am yr hyn y mae rhaid ei gynnwys yn y strategaeth).
(3)
Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi, yn benodol, y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg drwy—
(a)
cynyddu’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir;
(b)
gwella’r ddarpariaeth o addysgu’r Gymraeg;
(c)
hybu addysg Gymraeg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg”, er mwyn cynyddu nifer y disgyblion sy’n mynychu’r ysgolion hynny;
(d)
annog dilyniant o ran addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng—
(i)
addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol,
(ii)
ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir, a
(iii)
addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol.
(4)
Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi, yn benodol, y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer personau o bob oed yng Nghymru i ddysgu Cymraeg ac i gynnal a gwella eu gallu yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i’r canlynol—
(a)
drwy ofal plant i’r rheini sydd o dan oedran ysgol gorfodol;
(b)
drwy addysg feithrin;
(c)
drwy addysg drydyddol;
(d)
yn y gweithle ac yn y gymuned.
(5)
Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd osod targedau ar awdurdodau lleol sy’n adlewyrchu unrhyw darged cenedlaethol yn strategaeth y Gymraeg a bennir o dan adran 1(1)(c).
(6)
Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gynnwys—
(a)
asesiad o’r addysg Gymraeg a ddarperir ar y pryd ymhob awdurdod lleol;
(b)
dadansoddiad o’r swm o addysg Gymraeg y mae ei angen ymhob awdurdod lleol er mwyn cyflawni unrhyw darged a osodir.
(7)
Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg osod targedau pellach sydd i’w cyflawni gan awdurdodau lleol at ddiben gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol yn ardal pob awdurdod lleol.
(8)
Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd osod targedau ar yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gweler Rhan 5) sy’n adlewyrchu unrhyw darged yn strategaeth y Gymraeg yn ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso’u cynnydd, gan gynnwys targedau—
(a)
i gynyddu nifer y bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol sy’n dysgu Cymraeg;
(b)
i wella gallu yn y Gymraeg ymhlith pobl sydd dros oedran ysgol gorfodol sy’n dysgu Cymraeg (drwy gyfeirio at y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6).
(9)
Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, ar gyfer achosion gwahanol, neu ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol.
(10)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adrannau (3) i (8) er mwyn diwygio’r hyn y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y Fframwaith Cenedlaethol, neu y caniateir ei gynnwys ynddo.
(11)
Yn is-adran (1)(b), ystyr “darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol” yw—
(a)
addysgu’r Gymraeg mewn addysg drydyddol yng Nghymru, a
(b)
addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.