Rhagolygol

RHAN 3LL+CADDYSG GYMRAEG

Addysg drochi hwyrLL+C

23Addysg drochi hwyr yn y GymraegLL+C

(1)Yn yr adran hon, ystyr “addysg drochi hwyr“ yw addysg ddwys yn y Gymraeg—

(a)ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol sy’n 7 oed o leiaf ac sy’n mynychu neu yn dymuno mynychu ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu ysgol categori “Dwy Iaith”, a

(b)sy’n trochi plant yn y Gymraeg er mwyn eu galluogi i elwa’n llawn o addysg mewn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu ysgol categori “Dwy Iaith”.

(2)Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)annog cynnydd yn y galw yn ei ardal am addysg drochi hwyr a‍ chynnydd mewn cyfranogiad ynddi;

(b)gwneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r personau canlynol ynghylch yr addysg drochi hwyr sydd ar gael yn ei ardal—

(i)plant o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal,

(ii)rhieni plant yn ei ardal,

(iii)plant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ond sy’n byw y tu allan i’w ardal,

(iv)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a

(v)unrhyw bersonau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol;

(c)cymryd pob cam rhesymol i ddarparu addysg drochi hwyr sy’n ateb y galw amdani yn ei ardal.

(3)Pan fo corff llywodraethu ysgol wedi cael gwybodaeth (yn rhinwedd is-adran (2)(b)(iv)) am yr addysg drochi hwyr sydd ar gael yn ardal yr awdurdod lleol y mae’r ysgol wedi ei lleoli ynddi, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod disgyblion yr ysgol a’u rhieni yn ymwybodol—

(a)o’r addysg sydd ar gael, a

(b)sut i gael mynediad at yr addysg honno.

(4)Gweler hefyd adran 14(1)(d) mewn cysylltiad â gwneud darpariaeth ynghylch addysg drochi hwyr yng nghynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)