RHAN 3ADDYSG GYMRAEG
Addysg drochi hwyr
23Addysg drochi hwyr yn y Gymraeg
(1)
Yn yr adran hon, ystyr “addysg drochi hwyr“ yw addysg ddwys yn y Gymraeg—
(a)
ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol sy’n 7 oed o leiaf ac sy’n mynychu neu yn dymuno mynychu ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu ysgol categori “Dwy Iaith”, a
(b)
sy’n trochi plant yn y Gymraeg er mwyn eu galluogi i elwa’n llawn o addysg mewn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu ysgol categori “Dwy Iaith”.
(2)
Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a)
annog cynnydd yn y galw yn ei ardal am addysg drochi hwyr a chynnydd mewn cyfranogiad ynddi;
(b)
gwneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r personau canlynol ynghylch yr addysg drochi hwyr sydd ar gael yn ei ardal—
(i)
plant o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal,
(ii)
rhieni plant yn ei ardal,
(iii)
plant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ond sy’n byw y tu allan i’w ardal,
(iv)
cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a
(v)
unrhyw bersonau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol;
(c)
cymryd pob cam rhesymol i ddarparu addysg drochi hwyr sy’n ateb y galw amdani yn ei ardal.
(3)
Pan fo corff llywodraethu ysgol wedi cael gwybodaeth (yn rhinwedd is-adran (2)(b)(iv)) am yr addysg drochi hwyr sydd ar gael yn ardal yr awdurdod lleol y mae’r ysgol wedi ei lleoli ynddi, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod disgyblion yr ysgol a’u rhieni yn ymwybodol—
(a)
o’r addysg sydd ar gael, a
(b)
sut i gael mynediad at yr addysg honno.
(4)
Gweler hefyd adran 14(1)(d) mewn cysylltiad â gwneud darpariaeth ynghylch addysg drochi hwyr yng nghynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion.