Rhagolygol
(1)Rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr sy’n cynnwys y materion canlynol—
(a)categori iaith pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, fel a nodir yng nghynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol a gymeradwywyd o dan adran 15 neu 16;
(b)cofnod o bob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod sydd wedi ei hesemptio dros dro, o dan adran 18 neu 19, rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg, a’r dyddiad y daw’r esemptiad i ben;
(c)categori iaith arfaethedig ysgolion yn ei ardal y gwneir cynigion ar eu cyfer o dan adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1) (cynigion i sefydlu ysgolion prif ffrwd);
(d)categori iaith arfaethedig ysgolion arfaethedig nad ydynt wedi eu cynnwys yn y gofrestr o dan baragraff (c) ond sydd o ddisgrifiad a nodir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (3).
(2)Yn adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1), ar ôl is-adran (2), mewnosoder—
“(3)Gweler adran 22(1) o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc[ ]) am ddarpariaeth ynghylch cofrestr o gategorïau iaith arfaethedig ysgolion y gwnaed cynigion yn eu cylch o dan yr adran hon.”
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach am gofrestr a gynhelir o dan is-adran (1) mewn cysylltiad ag—
(a)y materion sydd i’w cynnwys yn y gofrestr;
(b)ffurf y gofrestr;
(c)sut a phryd i gyhoeddi’r gofrestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)