RHAN 3ADDYSG GYMRAEG
Cofrestr
22Cofrestr categorïau iaith ysgolion
(1)
Rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr sy’n cynnwys y materion canlynol—
(a)
categori iaith pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, fel a nodir yng nghynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol a gymeradwywyd o dan adran 15 neu 16;
(b)
cofnod o bob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod sydd wedi ei hesemptio dros dro, o dan adran 18 neu 19, rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg, a’r dyddiad y daw’r esemptiad i ben;
(c)
categori iaith arfaethedig ysgolion yn ei ardal y gwneir cynigion ar eu cyfer o dan adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1) (cynigion i sefydlu ysgolion prif ffrwd);
(d)
categori iaith arfaethedig ysgolion arfaethedig nad ydynt wedi eu cynnwys yn y gofrestr o dan baragraff (c) ond sydd o ddisgrifiad a nodir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (3).
(2)
“(3)
Gweler adran 22(1) o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc[ ]) am ddarpariaeth ynghylch cofrestr o gategorïau iaith arfaethedig ysgolion y gwnaed cynigion yn eu cylch o dan yr adran hon.”
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach am gofrestr a gynhelir o dan is-adran (1) mewn cysylltiad ag—
(a)
y materion sydd i’w cynnwys yn y gofrestr;
(b)
ffurf y gofrestr;
(c)
sut a phryd i gyhoeddi’r gofrestr.