Rhagolygol
(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir lunio cynllun mewn perthynas â’r Gymraeg (“cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg”) sy’n nodi—
(a)y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol feithrin;
(b)cynigion y corff llywodraethu—
(i)ar y swm o addysg feithrin Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg yn cael effaith amdano, a
(ii)ar gynnal y swm hwnnw o addysg feithrin Gymraeg, a chynyddu’r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;
(c)cynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn—
(i)hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol feithrin;
(ii)hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr ysgol feithrin;
(d)os yw’r ysgol feithrin yn darparu swm o addysg feithrin Gymraeg sy’n cyfateb i’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu “Dwy Iaith”, gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—
(i)i gefnogi dysgu eu plant;
(ii)i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol feithrin.
(2)Wrth lunio’r cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg rhaid i’r corff llywodraethu roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol feithrin (gweler adran 30).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau cyflawni addysg feithrin Gymraeg, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)hyd ac amseriad cynllun;
(b)ymgynghori ar gynllun;
(c)cymeradwyo cynllun;
(d)adolygu a diwygio cynllun.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)