RHAN 3ADDYSG GYMRAEG

Ysgolion arbennig

20Ysgolion arbennig cymunedol: cynlluniau a dynodi categori iaith

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol lunio cynllun mewn perthynas â’r Gymraeg (“cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol”) sy’n nodi—

(a)

y swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol;

(b)

os yw’r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol, y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir;

(c)

cynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd—

(i)

yn hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol;

(ii)

yn hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr ysgol;

(d)

os yw’r ysgol yn darparu swm o addysg Gymraeg neu addysg feithrin Gymraeg sy’n cyfateb i’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu “Dwy Iaith”, gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—

(i)

i gefnogi dysgu eu plant;

(ii)

i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol, gan gynnwys ynghylch—

(a)

hyd ac amseriad cynllun;

(b)

ymgynghori ar gynllun;

(c)

cymeradwyo cynllun;

(d)

adolygu a diwygio cynllun.

(3)

Ni ddynodir categori iaith i ysgol arbennig gymunedol yn unol â’r Rhan hon, oni bai bod corff llywodraethu’r ysgol yn dymuno i gategori iaith gael ei ddynodi (“dynodiad gwirfoddol”).

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas â dynodiad gwirfoddol, gan gynnwys darpariaeth sy’n cymhwyso’r Rhan hon gydag addasiadau.