Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol sydd wedi ei hesemptio yn unol ag adran 18(3)(a)—
(a)yn llunio ail gynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol, a
(b)yn parhau o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer ysgol categori iaith “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.
(2)Rhaid i’r ail gynllun cyflawni addysg Gymraeg a gyflwynir i’r awdurdod lleol o dan adran 15(1) nodi —
(a)pam na chafodd y cynigion y cyfeirir atynt yn adran 18(2)(b) eu gweithredu, neu pam nad oedd y cynigion hynny wedi llwyddo;
(b)pam, ym marn y corff llywodraethu, nad yw’n rhesymol ymarferol o hyd i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg;
(c)cynigion pellach y corff llywodraethu ar gyfer sicrhau y gall yr ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg (o leiaf);
(d)erbyn pa ddyddiad y bydd y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (c) wedi eu gweithredu, dyddiad sydd heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o dair blynedd y mae’r cynllun cyflawni drafft yn cael effaith amdano;
(e)gwybodaeth am y gefnogaeth y mae ei hangen ym marn y corff llywodraethu er mwyn i’r ysgol allu darparu’r isafswm o addysg Gymraeg.
(3)Os yw’r awdurdod lleol (yn unol ag adran 15) yn cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ar gyfer ysgol sy’n nodi’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)—
(a)mae corff llywodraethu’r ysgol wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg tan y dyddiad a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(d);
(b)bernir mai’r categori iaith “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” a ddynodir yn gategori iaith yr ysgol tan y dyddiad a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(d);
(c)rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(c), erbyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-adran (2)(d);
(d)rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu’r canlynol i Weinidogion Cymru—
(i)y rhesymau pam y mae cynllun cyflawni yr ysgol wedi ei gymeradwyo;
(ii)gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth sydd wedi ei chynnig i gorff llywodraethu’r ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)