RHAN 3ADDYSG GYMRAEG
Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg
19Isafswm o addysg Gymraeg: esemptiad pellach
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol sydd wedi ei hesemptio yn unol ag adran 18(3)(a)—
(a)
yn llunio ail gynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol, a
(b)
yn parhau o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer ysgol categori iaith “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.
(2)
Rhaid i’r ail gynllun cyflawni addysg Gymraeg a gyflwynir i’r awdurdod lleol o dan adran 15(1) nodi —
(a)
pam na chafodd y cynigion y cyfeirir atynt yn adran 18(2)(b) eu gweithredu, neu pam nad oedd y cynigion hynny wedi llwyddo;
(b)
pam, ym marn y corff llywodraethu, nad yw’n rhesymol ymarferol o hyd i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg;
(c)
cynigion pellach y corff llywodraethu ar gyfer sicrhau y gall yr ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg (o leiaf);
(d)
erbyn pa ddyddiad y bydd y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (c) wedi eu gweithredu, dyddiad sydd heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o dair blynedd y mae’r cynllun cyflawni drafft yn cael effaith amdano;
(e)
gwybodaeth am y gefnogaeth y mae ei hangen ym marn y corff llywodraethu er mwyn i’r ysgol allu darparu’r isafswm o addysg Gymraeg.
(3)
Os yw’r awdurdod lleol (yn unol ag adran 15) yn cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ar gyfer ysgol sy’n nodi’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)—
(a)
mae corff llywodraethu’r ysgol wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg tan y dyddiad a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(d);
(b)
bernir mai’r categori iaith “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” a ddynodir yn gategori iaith yr ysgol tan y dyddiad a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(d);
(c)
rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(c), erbyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-adran (2)(d);
(d)
rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu’r canlynol i Weinidogion Cymru—
(i)
y rhesymau pam y mae cynllun cyflawni yr ysgol wedi ei gymeradwyo;
(ii)
gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth sydd wedi ei chynnig i gorff llywodraethu’r ysgol.