RHAN 3ADDYSG GYMRAEG

Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg

18Isafswm o addysg Gymraeg: esemptiad dros dro

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol—

(a)

yn llunio neu’n diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg cyntaf yr ysgol, a

(b)

o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg sy’n ofynnol ar gyfer ysgol categori iaith “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg” (gweler adran 10(2)(c)).

(2)

Rhaid i gynllun cyflawni addysg Gymraeg drafft yr ysgol a gyflwynir i’r awdurdod lleol o dan adran 15(1) neu 16(4) nodi—

(a)

y rhesymau pam, ym marn corff llywodraethu’r ysgol, nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg;

(b)

cynigion y corff llywodraethu ar gyfer sicrhau y gall yr ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg (o leiaf);

(c)

erbyn pa ddyddiad y bydd y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) wedi cael eu gweithredu, dyddiad sydd heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o dair blynedd y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano;

(d)

gwybodaeth am y gefnogaeth y mae ei hangen ym marn y corff llywodraethu er mwyn galluogi’r ysgol i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg.

(3)

Os yw’r awdurdod lleol (yn unol ag adran 15 neu 16) yn cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ar gyfer ysgol sy’n nodi’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)—

(a)

mae corff llywodraethu’r ysgol wedi’i esemptio rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg tan ddiwedd y cyfnod o dair blynedd y mae’r cynllun cyflawni cyntaf yn cael effaith amdan‍o;

(b)

bernir mai’r categori iaith “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” a ddynodir yn gategori iaith yr ysgol ar gyfer y cyfnod hwnnw;

(c)

rhaid i’r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(b) erbyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-adran (2)(c).