Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol yn cynnig diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol at ddiben newid categori iaith yr ysgol.
(2)Ni chaniateir newid categori iaith ysgol—
(a)o gategori “Dwy Iaith” i gategori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”;
(b)o gategori “Prif Iaith – Cymraeg” i gategori “Dwy Iaith” neu gategori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”.
(3)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol ymgynghori â’r personau a restrir yn adran 14(2)(b) cyn cyflwyno cynllun cyflawni diwygiedig drafft i’r awdurdod lleol o dan adran 16(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)