RHAN 3ADDYSG GYMRAEG
Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg
16Adolygu a diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg
(1)
Rhaid i gorff llywodraethu ysgol adolygu ei gynllun cyflawni addysg Gymraeg o leiaf unwaith cyn diwedd y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano.
(2)
Caiff corff llywodraethu ysgol ddiwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn unol â’r adran hon (ond gweler adran 17 am ddarpariaeth bellach os yw’r corff llywodraethu yn bwriadu newid categori iaith yr ysgol).
(3)
Wrth adolygu neu ddiwygio’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (gweler adran 30).
(4)
Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gyflwyno drafft o gynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig yr ysgol i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol.
(5)
Wrth gyflwyno’r drafft, rhaid i’r corff llywodraethu ddarparu crynodeb o’r diwygiadau a gynigir a’r rhesymau drostynt.
(6)
Caiff yr awdurdod lleol—
(a)
cymeradwyo’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig fel y’i cyflwynwyd,
(b)
cymeradwyo’r cynllun cyflawni diwygiedig ag addasiadau y cytunwyd arnynt â’r corff llywodraethu, neu
(c)
gwrthod y cynllun cyflawni diwygiedig a rhoi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu i ailystyried.
(7)
Os yw awdurdod lleol yn gwrthod cynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig, o ran y cyfarwyddyd o dan is-adran (6)(c)—
(a)
rhaid iddo rhoi rhesymau dros y penderfyniad;
(b)
rhaid iddo bennu erbyn pryd y mae rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol—
(i)
cyflwyno drafft pellach o’r cynllun cyflawni i’r awdurdod lleol, neu
(ii)
hysbysu’r awdurdod lleol nad yw bellach yn cynnig diwygio ei gynllun cyflawni;
(c)
caiff ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r ysgol ymgynghori â’r personau a restrir yn adran 14(2)(b) os nad oes ymgynghoriad o’r fath wedi digwydd.
(8)
Mae is-adrannau (5) i (7) yn gymwys i gynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig a gyflwynir mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (6)(c) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gynllun cyflawni diwygiedig a gyflwynir o dan is-adran (4).
(9)
Rhaid i gorff llywodraethu ysgol—
(a)
cyhoeddi’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir, fel y’i diwygiwyd;
(b)
cymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion a nodir yn rhinwedd adran 14(1)(e), (f), (g), (h) ac (i)yn y cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir, fel y’i diwygiwyd.