Rhagolygol

RHAN 3LL+CADDYSG GYMRAEG

Cynlluniau cyflawni addysg GymraegLL+C

14Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolionLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol lunio cynllun cyflawni mewn perthynas â’r Gymraeg (“cynllun cyflawni addysg Gymraeg”)—

(a)sy’n nodi categori iaith ar gyfer yr ysgol (gan ystyried y swm o addysg Gymraeg a ddarperir ar y pryd gan yr ysgol);

(b)sy’n nodi’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol ar yr adeg y llunnir y cynllun cyflawni;

(c)sy’n esbonio sut y bydd y corff llywodraethu yn sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni’r ddyletswydd o dan adran 10(6) (darparu’r swm o addysg Gymraeg a bennir ar gyfer categori iaith yr ysgol);

(d)sy’n nodi’r camau y bydd y corff llywodraethu yn eu cymryd i hybu addysg drochi hwyr yn unol ag adran 23(3);

(e)sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu—

(i)ar y swm o addysg Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith, a

(ii)ar gynnal y swm hwnnw o addysg Gymraeg, a chynyddu’r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;

(f)sy’n nodi, os yw’r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol—

(i)y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir ar yr adeg y llunnir y cynllun cyflawni;

(ii)cynigion y corff llywodraethu ar y swm o addysg feithrin Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano;

(iii)cynigion y corff llywodraethu ar gynnal y swm hwnnw o addysg feithrin Gymraeg, a chynyddu’r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;

(g)sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu, at ddiben cyflawni nod dysgu Cymraeg yr ysgol, ar sut y bydd yn—

(i)hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol;

(ii)hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr ysgol;

(iii)hwyluso gwelliant parhaus yn addysg Gymraeg yr ysgol;

(h)sy’n nodi, os yw’r ysgol yn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu “Dwy Iaith”, gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—

(i)i gefnogi dysgu eu plant;

(ii)i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol;

(i)sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu ar gyfer paratoi am y newid, os yw’n bwriadu cynyddu’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol gyda golwg ar newid ei chategori iaith (gweler adran 17).

(2)Wrth lunio’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol—

(a)rhoi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (gweler adran 30);

(b)ymgynghori â’r canlynol—

(i)pennaeth yr ysgol (os nad yw’r person hwnnw yn aelod o’r corff llywodraethu);

(ii)disgyblion cofrestredig yr ysgol;

(iii)rhieni’r disgyblion cofrestredig;

(iv)staff yr ysgol;

(v)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

(vi)unrhyw bersonau eraill a bennir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae pob cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn cael effaith am gyfnod o dair blwyddyn ysgol, ac mae—

(a)cyfnod y cynllun cyflawni cyntaf yn dechrau â’r flwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a

(b)cyfnod pob cynllun cyflawni dilynol yn dechrau â’r flwyddyn ysgol sy’n dechrau yn union ar ôl i’r cynllun cyflawni blaenorol ddod i ben.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio hyd y cyfnod y mae cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn cael effaith amdano;

(b)gwneud darpariaeth am ffurf a chynnwys cynllun cyflawni.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i ysgol arbennig gymunedol (ond gweler adran 20).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)