RHAN 3ADDYSG GYMRAEG
Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg
14Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion
(1)
Rhaid i gorff llywodraethu ysgol lunio cynllun cyflawni mewn perthynas â’r Gymraeg (“cynllun cyflawni addysg Gymraeg”)—
(a)
sy’n nodi categori iaith ar gyfer yr ysgol (gan ystyried y swm o addysg Gymraeg a ddarperir ar y pryd gan yr ysgol);
(b)
sy’n nodi’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol ar yr adeg y llunnir y cynllun cyflawni;
(c)
sy’n esbonio sut y bydd y corff llywodraethu yn sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni’r ddyletswydd o dan adran 10(6) (darparu’r swm o addysg Gymraeg a bennir ar gyfer categori iaith yr ysgol);
(d)
sy’n nodi’r camau y bydd y corff llywodraethu yn eu cymryd i hybu addysg drochi hwyr yn unol ag adran 23(3);
(e)
sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu—
(i)
ar y swm o addysg Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith, a
(ii)
ar gynnal y swm hwnnw o addysg Gymraeg, a chynyddu’r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;
(f)
sy’n nodi, os yw’r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol—
(i)
y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir ar yr adeg y llunnir y cynllun cyflawni;
(ii)
cynigion y corff llywodraethu ar y swm o addysg feithrin Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano;
(iii)
cynigion y corff llywodraethu ar gynnal y swm hwnnw o addysg feithrin Gymraeg, a chynyddu’r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;
(g)
sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu, at ddiben cyflawni nod dysgu Cymraeg yr ysgol, ar sut y bydd yn—
(i)
hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol;
(ii)
hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr ysgol;
(iii)
hwyluso gwelliant parhaus yn addysg Gymraeg yr ysgol;
(h)
sy’n nodi, os yw’r ysgol yn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu “Dwy Iaith”, gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—
(i)
i gefnogi dysgu eu plant;
(ii)
i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol;
(i)
sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu ar gyfer paratoi am y newid, os yw’n bwriadu cynyddu’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol gyda golwg ar newid ei chategori iaith (gweler adran 17).
(2)
Wrth lunio’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol—
(a)
rhoi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (gweler adran 30);
(b)
ymgynghori â’r canlynol—
(i)
pennaeth yr ysgol (os nad yw’r person hwnnw yn aelod o’r corff llywodraethu);
(ii)
disgyblion cofrestredig yr ysgol;
(iii)
rhieni’r disgyblion cofrestredig;
(iv)
staff yr ysgol;
(v)
yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;
(vi)
unrhyw bersonau eraill a bennir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru.
(3)
Mae pob cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn cael effaith am gyfnod o dair blwyddyn ysgol, ac mae—
(a)
cyfnod y cynllun cyflawni cyntaf yn dechrau â’r flwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a
(b)
cyfnod pob cynllun cyflawni dilynol yn dechrau â’r flwyddyn ysgol sy’n dechrau yn union ar ôl i’r cynllun cyflawni blaenorol ddod i ben.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
diwygio hyd y cyfnod y mae cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn cael effaith amdano;
(b)
gwneud darpariaeth am ffurf a chynnwys cynllun cyflawni.
(5)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i ysgol arbennig gymunedol (ond gweler adran 20).