RHAN 3ADDYSG GYMRAEG

Categorïau iaith ysgolion

12Asesu cynnydd tuag at gyflawni nodau dysgu Cymraeg

(1)

Caiff trefniadau asesu a wneir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan adran 56 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) wneud darpariaeth at ddiben sicrhau cynnydd disgyblion tuag at gyflawni nod dysgu Cymraeg ysgol.

(2)

At y diben hwn, caiff y trefniadau asesu (ymysg pethau eraill)—

(a)

cyfeirio at fath o ddefnyddiwr Cymraeg neu lefel cyfeirio gyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1;

(b)

cyfeirio at y Cod a lunnir o dan adran 6;

(c)

gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â disgyblion sy’n mynychu ysgol categori “Prif Iaith Saesneg - rhannol Gymraeg” sydd ag esemptiad dros dro o’r gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg o dan adran 18 neu 19.

(3)

Yn adran 7 (cod cynnydd) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

“(1A)

Wrth lunio’r Cod Cynnydd o dan is-adran (1), a’i gadw o dan adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r nodau dysgu Cymraeg a osodir gan adran 11 o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc [ ]).”