RHAN 3ADDYSG GYMRAEG
Categorïau iaith ysgolion
11Y nodau dysgu Cymraeg ar gyfer pob categori iaith
(1)
Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol, yn ddefnyddwyr Cymraeg hyfedr (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin C1 neu C2), o leiaf.
(2)
Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori “Dwy Iaith” yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol—
(a)
yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, fel nod cychwynnol;
(b)
wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn—
(i)
yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, a
(ii)
yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2, o leiaf, o ran rhyngweithio llafar.
(3)
Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol—
(a)
yn ddefnyddwyr Cymraeg sylfaenol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin A1 neu A2) o leiaf, fel nod cychwynnol;
(b)
wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn tan i’r nod ym mharagraff (c) ddod yn gymwys, yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf;
(c)
wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn—
(i)
yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, a
(ii)
yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2, o leiaf, o ran rhyngweithio llafar.
(4)
Mewn perthynas â’r nodau dysgu Cymraeg ar gyfer ysgol gynradd, tybir bod disgyblion yr ysgol yn parhau ag addysg mewn ysgolion o’r un categori iaith hyd nes iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
(5)
Wrth ystyried y blynyddoedd ysgol a’r grwpiau blwyddyn sydd i’w pennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i effaith debygol y nodau dysgu ar gyflawni’r targedau a bennir gan strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1.
(6)
Yn yr adran hon—
mae i “lefel cyfeirio gyffredin B2 o ran rhyngweithio llafar” (“B2 common reference level for oral interaction”) yr ystyr a roddir—
- (i)
yn y Tabl yn Atodlen 1, gan yr ail frawddeg yn y golofn “Nodweddion cyffredinol” ar gyfer lefel cyfeirio gyffredin B2, i’r graddau y mae’n gymwys i ryngweithio llafar, a
- (ii)
gan unrhyw ddarpariaeth bellach ynghylch y lefel cyfeirio gyffredin honno, a rhyngweithio llafar, yn y Cod a lunnir o dan adran 6;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o ddisgyblion mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.