RHAN 3ADDYSG GYMRAEG

Categorïau iaith ysgolion

10Isafswm o ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith‍

(1)

Mae is-adran (2) yn nodi’r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith, fel canran o’r addysg a hyfforddiant a ddarperir dros flwyddyn ysgol yn ystod sesiynau ysgol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol.

(2)

Yr isafswm yw—

(a)

80% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Cymraeg”;

(b)

50% ar gyfer y categori “Dwy Iaith”;

(c)

10% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2) er mwyn newid yr isafswm ar gyfer unrhyw gategori iaith, ond ni chaniateir i’r isafswm fod yn llai na 80% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Cymraeg”, 50% ar gyfer y categori “Dwy Iaith”, a 10% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ydynt am arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg” o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y daw’r adran hon i rym, ac wedi hynny, o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dilyn eu penderfyniad diweddaraf.

(5)

Wrth benderfynu a ydynt am arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried effaith debygol yr isafsymiau ar gyflawni’r targedau a bennir gan strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1.

(6)

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sicrhau bod yr ysgol yn darparu’r isafswm o addysg Gymraeg, o leiaf, ar gyfer y categori iaith a ddynodir i’r ysgol ymhob un o’r blynyddoedd ysgol y mae cynllun cyflawni addysg Gymraeg i gael effaith ar ei chyfer (gweler adrannau 14(3) a 15(5)).‍