RHAN 1HYBU A HWYLUSO DEFNYDD O’R GYMRAEG
1Targedau strategaeth y Gymraeg: o leiaf miliwn o siaradwyr a chynnydd mewn defnydd
(1)
Rhaid i’r strategaeth ar hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“strategaeth y Gymraeg”)—
(a)
cynnwys y targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghymru i 1 miliwn, o leiaf, erbyn 2050;
(b)
pennu targedau ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru, gan gynnwys—
(i)
defnydd yn y gweithle;
(ii)
defnydd yn gymdeithasol;
(c)
pennu targedau ar gyfer addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys mewn perthynas ag—
(i)
cynyddu nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n cael addysg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg”;
(ii)
cynyddu nifer yr ysgolion categori “Prif Iaith - Cymraeg”;
(iii)
cynyddu swm yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori “Dwy Iaith” a chategori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”;
(d)
pennu targedau ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg;
(e)
cynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog trosglwyddo’r Gymraeg—
(i)
yn y cartref,
(ii)
rhwng y cenedlaethau, a
(iii)
yn y gymuned;
(f)
cynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog cynnydd mewn defnydd digidol o’r Gymraeg;
(g)
pennu meini prawf i fesur y cynnydd sy’n angenrheidiol i gyflawni’r targedau.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1)(c) er mwyn diwygio’r targedau y mae’n ofynnol i’r strategaeth eu pennu, ychwanegu targedau neu eu dileu.
(3)
Wrth nodi eu cynigion ar gyfer hybu’r Gymraeg a hwyluso’r defnydd ohoni yn strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) i (d).
(4)
Rhaid i’r cynllun a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gynnwys disgrifiad o’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyfrannu at gyflawni’r targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) a (b) (a gweler Rhan 4 mewn cysylltiad â’r targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c) a (d)).
(5)
Yn adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—
(a)
yn is-adran (1), yn lle “(“the Welsh language strategy”)”, mewnosoder “to be known as “the Welsh language strategy” or “strategaeth y Gymraeg””;
(b)
“(1A)
See Part 1 of the Welsh Language and Education (Wales) Act 2025 (asc []) (referred to in Welsh as Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc [])) for further requirements relating to the Welsh language strategy.”;
(c)
yn is-adran (5), yn lle “consult such” rhodder “consult the Welsh Language Commissioner and such other”;
(d)
“(11)
In subsection (5), the reference to the “Welsh Language Commissioner means the commissioner appointed under section 2 of the Welsh Language (Wales) Measure 2011 (nawm 1) (referred to in Welsh as Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)).”
(6)
Yn y Rhan hon—
(a)
ystyr “addysg Gymraeg” yw—
(i)
addysgu’r Gymraeg, a
(ii)
addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,
mewn ysgol a gynhelir, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;
(b)
mae cyfeiriadau at gategorïau ysgol “Prif Iaith - Cymraeg”, “Dwy Iaith” a “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” i’w darllen yn unol â Rhan 3.