- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Rhaid i’r strategaeth ar hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“strategaeth y Gymraeg”)—
(a)cynnwys y targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghymru i 1 miliwn, o leiaf, erbyn 2050;
(b)pennu targedau ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru, gan gynnwys—
(i)defnydd yn y gweithle;
(ii)defnydd yn gymdeithasol;
(c)pennu targedau ar gyfer addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys mewn perthynas ag—
(i)cynyddu nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n cael addysg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg”;
(ii)cynyddu nifer yr ysgolion categori “Prif Iaith - Cymraeg”;
(iii)cynyddu swm yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori “Dwy Iaith” a chategori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”;
(d)pennu targedau ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg;
(e)cynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog trosglwyddo’r Gymraeg—
(i)yn y cartref,
(ii)rhwng y cenedlaethau, a
(iii)yn y gymuned;
(f)cynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog cynnydd mewn defnydd digidol o’r Gymraeg;
(g)pennu meini prawf i fesur y cynnydd sy’n angenrheidiol i gyflawni’r targedau.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1)(c) er mwyn diwygio’r targedau y mae’n ofynnol i’r strategaeth eu pennu, ychwanegu targedau neu eu dileu.
(3)Wrth nodi eu cynigion ar gyfer hybu’r Gymraeg a hwyluso’r defnydd ohoni yn strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) i (d).
(4)Rhaid i’r cynllun a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gynnwys disgrifiad o’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyfrannu at gyflawni’r targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) a (b) (a gweler Rhan 4 mewn cysylltiad â’r targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c) a (d)).
(5)Yn adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—
(a)yn is-adran (1), yn lle “(“the Welsh language strategy”)”, mewnosoder “to be known as “the Welsh language strategy” or “strategaeth y Gymraeg””;
(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A)See Part 1 of the Welsh Language and Education (Wales) Act 2025 (asc []) (referred to in Welsh as Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc [])) for further requirements relating to the Welsh language strategy.”;
(c)yn is-adran (5), yn lle “consult such” rhodder “consult the Welsh Language Commissioner and such other”;
(d)ar ôl is-adran (10) mewnosoder—
“(11)In subsection (5), the reference to the “Welsh Language Commissioner means the commissioner appointed under section 2 of the Welsh Language (Wales) Measure 2011 (nawm 1) (referred to in Welsh as Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)).”
(6)Yn y Rhan hon—
(a)ystyr “addysg Gymraeg” yw—
(i)addysgu’r Gymraeg, a
(ii)addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,
mewn ysgol a gynhelir, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;
(b)mae cyfeiriadau at gategorïau ysgol “Prif Iaith - Cymraeg”, “Dwy Iaith” a “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” i’w darllen yn unol â Rhan 3.
(1)O leiaf unwaith pob 5 mlynedd, rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys yn yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ddadansoddiad o sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru gan gynnwys—
(a)asesiad o nifer, a chyfrifiad o ganran, y siaradwyr Cymraeg sydd yn ardal pob awdurdod lleol, gan gynnwys drwy gyfeiriad at eu hoedran;
(b)asesiad o nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn ardal pob awdurdod lleol sy’n cael addysg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg”, a chyfrifiad o’r nifer hwnnw fel canran o’r disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n cael addysg mewn ysgolion a gynhelir yn yr ardal;
(c)mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol—
(i)asesiad o nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn ardal pob awdurdod lleol sy’n cael addysg mewn ysgolion arbennig cymunedol sy’n darparu swm o addysg Gymraeg sy’n cyfateb i’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg”, a
(ii)cyfrifiad o’r nifer hwnnw fel canran o’r disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n cael addysg mewn ysgolion arbennig cymunedol yn yr ardal;
(d)asesiad o’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru;
(e)asesiad o’r tebygolrwydd y bydd y targedau y cyfeirir atynt yn adran 1(1)(a) i (d) yn cael eu cyflawni drwy gyfeirio at y meini prawf a bennir gan y strategaeth;
(f)gwybodaeth am y newid, yn ystod y cyfnod ers yr asesiad blaenorol, yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn ardal pob awdurdod lleol.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dod i’r casgliad nad yw targed yn debygol o gael ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, datganiad.
(3)Rhaid gosod a chyhoeddi’r datganiad cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad sy’n cynnwys y dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (1) gerbron Senedd Cymru (o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).
(4)Rhaid i’r datganiad—
(a)esbonio pam nad yw’r targed yn debygol o gael ei gyflawni, a
(b)nodi’r camau pellach y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, i gyflawni’r targed.
(1)At ddibenion adrannau 1 a 2, mae nifer y siaradwyr Cymraeg i’w gyfrifo ar sail data a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, ond wrth gyfrifo nifer y siaradwyr rhaid ystyried unrhyw ddata perthnasol sy’n deillio o gyfrifiad a gynhelir yn unol â Deddf Cyfrifiad 1920 (p. 41).
(2)At ddibenion adrannau 1 a 2, mae pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg i’w benderfynu—
(a)o ran personau sy’n 17 oed a throsodd, ar sail hunanasesiad;
(b)o ran plant sydd o dan 17 oed, ar sail hunanasesiad neu asesiad rhiant neu ofalwr y plentyn.
(3)O ran plant sydd o dan 17 oed, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)pennu dull o benderfynu pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg at ddibenion adrannau 1 a 2, a
(b)pennu a yw’r dull hwnnw i’w ddefnyddio yn ogystal â’r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b) neu yn lle’r asesiadau hynny.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi canllawiau ar asesiadau o dan is-adran (2)(a) a (b).
(5)Wrth lunio canllawiau o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r Cod a lunnir o dan adran 6.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (4)—
(a)wrth i’r data y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu casglu, a
(b)wrth i’r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(a) a (b) gael eu cyflawni.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r safonau a bennir o dan adran 26 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) gyda golwg ar benderfynu a oes angen diwygio—
(a)un neu ragor o’r safonau sy’n ymwneud â gwella neu asesu sgiliau’r gweithlu o ran y Gymraeg er mwyn—
(i)hwyluso cyflawni targed a bennir o dan y Rhan hon, neu
(ii)adlewyrchu’r Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6;
(b)un neu ragor o safonau hybu’r Gymraeg er mwyn hwyluso cyflawni targed a bennir o dan y Rhan hon.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn rhan o’r adolygiad yn is-adran (1);
(b)cwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cyhoeddi’r Cod o dan adran 7 am y tro cyntaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: