Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

Welsh Royal arms

Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

2025 dsc 2

Deddf gan Senedd Cymru i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys drwy bennu targed i gynyddu nifer y siaradwyr i‍ 1 miliwn, o leiaf, erbyn 2050, drwy osod lefelau cyfeirio cyffredin i ddisgrifio gallu, drwy ddarparu ar gyfer fframwaith cenedlaethol a chynlluniau strategol lleol ar gyfer gwella addysg Gymraeg, drwy gyflwyno system o gategoreiddio’r addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion, drwy bennu nodau dysgu Cymraeg i ysgolion anelu atynt drwy gynlluniau cyflawni addysg Gymraeg, a thrwy sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel corff statudol i gefnogi dysgu Cymraeg gydol oes.

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn: