
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025
Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth ynghylch rheoleiddio a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal iechyd yng Nghymru.
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW
Trosolwg o’r Bennod
1Trosolwg o Bennod 1
(1)
Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth i gyfyngu ar wneud elw wrth ddarparu gwasanaethau cartrefi gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant (gwasanaethau cartrefi plant), gwasanaethau maethu a gwasanaethau llety diogel (y cyfeirir atynt fel “gwasanaethau plant o dan gyfyngiad”).
(2)
Mae’n gwneud hyn drwy ddiwygio Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“Deddf 2016”) a Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”).
(3)
Mae’r diwygiadau i Ddeddf 2016 yn cynnwys—
(a)
gosod gofyniad ar ddarparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad sydd wedi ei gofrestru ar ôl i’r darpariaethau ddod i rym i gael ei ymgorffori yn “endid nid-er-elw”;
(b)
darparu bod trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur yr ymrwymir iddynt gan endid o’r fath yn dystiolaeth y mae rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddi wrth benderfynu a yw darparwr yn berson addas a phriodol;
(c)
darpariaeth drosiannol ar gyfer darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad sydd wedi ei gofrestru cyn i’r darpariaethau hyn ddod i rym (caniateir i unrhyw ddarparwr o’r fath, sy’n parhau’n gofrestredig ond nad yw wedi ei ymgorffori yn endid nid-er-elw, barhau’n gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau a osodir gan reoliadau).
(4)
Mae’r diwygiadau i Ddeddf 2014 yn gosod gofynion cyfatebol ar awdurdod lleol mewn perthynas â llety a ddarperir gan yr awdurdod i blant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys—
(a)
diwygio dyletswydd bresennol (yn adran 75 o Ddeddf 2014) ar yr awdurdod i gymryd camau i sicrhau bod digon o lety o fewn ei ardal i ddiwallu anghenion plant sy’n derbyn gofal er mwyn ei gwneud yn ofynnol, yn lle hynny, i’r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o lety a ddarperir gan endidau nid-er-elw naill ai o fewn ei ardal neu’n agos iddi i ddiwallu anghenion y plant hynny;
(b)
dyletswydd newydd ar yr awdurdod lleol i gyflwyno cynllun digonolrwydd i Weinidogion Cymru sy’n nodi pa gamau y mae’r awdurdod yn eu cymryd er mwyn bodloni’r gofyniad yn adran 75;
(c)
diwygio dyletswydd bresennol ar yr awdurdod lleol i adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol (adran 144A o Ddeddf 2014) er mwyn adlewyrchu’r ddyletswydd i sicrhau llety a hefyd y cynllun digonolrwydd newydd.
(5)
Mae’r ddyletswydd yn Neddf 2014 ar awdurdod lleol i leoli plentyn, sy’n derbyn gofal ac na all fyw gyda rhiant, mewn cartref plant neu gyda rhieni maeth hefyd wedi ei diwygio fel bod rhaid i’r awdurdod lleol, pan fo’r amgylchiadau hyn yn codi, leoli’r plentyn mewn llety a ddarperir gan endid nid-er-elw, oni bai bod hynny yn anghyson â dyletswyddau’r awdurdod lleol o dan adran 78 o’r Ddeddf honno (dyletswydd i hyrwyddo llesiant plentyn) (ac yn yr achos hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol wneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo lleoliad mewn llety a ddarperir gan ddarparwr nad yw’n bodloni’r gofynion sydd wedi eu gosod o dan Ddeddf 2016).
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant
2Gwasanaethau plant o dan gyfyngiad
Yn Neddf 2016—
(a)
“(ba)
mae Pennod 2 hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar yr endidau a gaiff ddarparu gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu;”;
(b)
“2AYstyr “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad
(1)
At ddibenion y Rhan hon, mae’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn yn “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad”—
(a)
gwasanaeth cartref gofal i’r graddau y mae’r gwasanaeth yn wasanaeth cartref plant;
(b)
gwasanaeth maethu;
(c)
gwasanaeth llety diogel.
(2)
At ddibenion is-adran (1), mae “gwasanaeth cartref plant” yn wasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn un neu ragor o fannau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo neu ynddynt.
(3)
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad.”;
(c)
“(3A)
Ond nid yw ysgol sy’n gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal yn rhinwedd is-baragraff (3) yn gyfystyr â gwasanaeth cartref plant oni bai—
(a)
ei bod wedi darparu mwy o ddiwrnodau o lety i blant sy’n derbyn gofal nag i rai nad ydynt yn blant sy’n derbyn gofal am unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis blaenorol, neu
(b)
ei bod yn bwriadu darparu mwy o ddiwrnodau o lety i blant sy’n derbyn gofal nag i rai nad ydynt yn blant sy’n derbyn gofal am unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis dilynol.
(3B)
Yn is-baragraff (3A), ystyr “plant sy’n derbyn gofal yw plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol fel y’u disgrifir yn adran 74(1) o Ddeddf 2014.”
3Ceisiadau i gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(1A)
Yn achos person, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n dymuno darparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i’r cais hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y person yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”
(3)
“6ACofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad
(1)
Er mwyn cael ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i berson nad yw’n awdurdod lleol fod yn endid nid-er-elw.
(2)
At ddibenion y Rhan hon, mae “endid nid-er-elw” yn berson sy’n bodloni amodau 1 a 2 yn is-adrannau (3) a (4).
(3)
Amod 1 yw bod amcanion neu ddibenion y person yn ymwneud yn anad dim â’r canlynol—
(a)
lles plant, neu
(b)
unrhyw fudd cyhoeddus arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru.
(4)
Amod 2 yw bod y person yn un o’r mathau o ymgymeriad a ganlyn (fel y’u diffinnir yn adran 6B)—
(a)
cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau,
(b)
sefydliad elusennol corfforedig,
(c)
cymdeithas gofrestredig elusennol, neu
(d)
cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.
6BCofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: diffiniadau
(1)
Mae’r diffiniadau a ganlyn yn gymwys at ddibenion adran 6A(4).
(2)
Mae “cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau” yn gwmni—
(a)
sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46) yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
(b)
y mae ei atebolrwydd yn gyfyngedig drwy warant ac nad oes ganddo gyfalaf cyfrannau, ac
(c)
sy’n elusen a gofrestrwyd o dan un neu ragor o’r canlynol—
(3)
Mae “sefydliad elusennol corfforedig” yn sefydliad a gofrestrwyd o dan—
(a)
adran 209, 232 neu 238 o Ddeddf Elusennau 2011 neu reoliadau a wneir o dan adran 234 o’r Ddeddf honno,
(b)
adran 55, 58 neu 60 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005, neu
(c)
adran 111, 114 neu 117 o Ddeddf Elusennau (Gogledd Iwerddon) 2008 neu reoliadau a wneir o dan adran 115 o’r Ddeddf honno.
(4)
Mae “cymdeithas gofrestredig elusennol” yn—
(a)
cymdeithas—
(i)
sy’n “cymdeithas gofrestredig” o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (p. 14), a
(ii)
sy’n elusen o fewn ystyr adran 1(1) o Ddeddf Elusennau 2011,
(b)
cymdeithas—
(i)
sy’n “cymdeithas gofrestredig” o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, a
(ii)
sy’n elusen a gofrestrwyd o dan Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005, neu
(c)
cymdeithas—
(i)
sy’n “cymdeithas gofrestredig” o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1A(1) o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol (Gogledd Iwerddon) 1969 (p. 24), a
(ii)
sy’n elusen a gofrestrwyd o dan Ddeddf Elusennau (Gogledd Iwerddon) 2008.
(5)
Mae “cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau” yn gwmni—
(a)
sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
(b)
y mae ei atebolrwydd yn gyfyngedig drwy warant ac nad oes ganddo gyfalaf cyfrannau, ac
(c)
sy’n gwmni buddiant cymunedol o dan Ran 2 o Ddeddf Cwmnïau (Archwilio, Ymchwiliadau a Menter Gymunedol) 2004 (p. 27).
(6)
Yn is-adrannau (2) a (5)—
(a)
mae i gyfeiriadau at fod atebolrwydd cwmni yn “cyfyngedig drwy warant” yr ystyr a roddir i “limited by guarantee” gan adran 3(3) o Ddeddf Cwmnïau 2006, a
(b)
nid oes gan gwmni gyfalaf cyfrannau os nad oes ganddo bŵer o dan ei gyfansoddiad i ddyroddi cyfrannau.”
4Cofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: trefniadau trosiannol
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“6CCofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: trefniadau trosiannol
Mae Atodlen 1A yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â darparwyr gwasanaethau a gofrestrwyd cyn i adran 6A(1) ddod i rym.”
(3)
“ATODLEN 1AGWASANAETHAU PLANT O DAN GYFYNGIAD: TREFNIADAU COFRESTRU TROSIANNOL AR GYFER DARPARWYR GWASANAETHAU PRESENNOL
Y cyfnod trosiannol mewn cysylltiad â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad
1
(1)
Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, mae cyfeiriadau at y cyfnod trosiannol yn gyfeiriadau at y cyfnod—
(a)
sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r gwasanaeth yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad yn rhinwedd dyfodiad adran 6A(1) i rym mewn perthynas â’r gwasanaeth, a
(b)
sy’n gorffen â’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau at ddibenion y paragraff hwn.
(2)
Caiff rheoliadau a wneir o dan is-baragraff (1)(b) bennu diwrnodau gwahanol ar gyfer—
(a)
mathau gwahanol o wasanaeth plant o dan gyfyngiad;
(b)
disgrifiadau gwahanol o ddarparwr gwasanaeth (er enghraifft, darparwyr gwasanaethau sy’n arbenigo mewn darparu math penodol o wasanaeth plant o dan gyfyngiad).
(3)
Ond nid yw is-baragraff (2) yn cyfyngu ar gymhwyso adran 187 mewn perthynas â rheoliadau a wneir o dan is-baragraff (1)(b).
(4)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
Darparwyr gwasanaethau presennol: esemptiad rhag adran 6A(1)
2
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth, ac eithrio awdurdod lleol, sydd wedi ei gofrestru—
(a)
mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref plant, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;
(b)
mewn cysylltiad â gwasanaeth maethu, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;
(c)
mewn cysylltiad â gwasanaeth llety diogel, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.
(2)
Ac mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth o’r fath yn ystod y cyfnod trosiannol.
(3)
Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas â darparwr, mae cyfeiriadau at y gwasanaeth presennol yn gyfeiriadau at y gwasanaeth y mae’r darparwr wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef fel y’i disgrifir yn is-baragraff (1).
(4)
I’r graddau y mae darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol—
(a)
nid yw cofrestriad y darparwr yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) (ac mae unrhyw gyfeiriad at y gofyniad hwnnw i’w ddarllen yn unol â hynny), a
(b)
(o ganlyniad) rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r darparwr ddangos—
(i)
nad yw cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(ii)
nad yw’r amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.
(5)
Ond nid yw is-baragraff (4) yn gymwys at ddibenion cais a wneir gan y darparwr gwasanaeth—
(a)
mewn perthynas â’r gwasanaeth presennol, o dan adran 11(1)(a)(ii);
(b)
mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth arall, o dan adran 11(1)(a)(i).
Rheoliadau ynghylch darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad gan ddarparwyr gwasanaethau presennol
3
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy’n gosod amodau ar ddarparwr gwasanaeth y mae paragraff 2 yn gymwys iddo.
(2)
Caiff amodau a osodir gan reoliadau o dan is-baragraff (1) gynnwys—
(a)
cyfyngiadau ar y math o wasanaeth plant o dan gyfyngiad y caiff y darparwr gwasanaeth ei ddarparu;
(b)
cyfyngiadau ar y disgrifiad o blant sy’n derbyn gofal y caiff y darparwr ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad mewn cysylltiad â hwy, er enghraifft drwy gyfeirio at eu hanghenion gofal a chymorth.
(3)
Mae is-baragraff (4) yn gymwys—
(a)
pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â chydymffurfio ag amodau a osodir gan reoliadau o dan is-baragraff (1), neu
(b)
yn achos darparwr gwasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff 2(1)(b), pan fo’r darparwr yn methu â chydymffurfio â rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014.
(4)
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
arfer eu swyddogaethau o dan adran 13 i amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu’r gwasanaeth neu ddileu man y mae’r gwasanaeth presennol yn cael ei ddarparu ynddo, neu
(b)
arfer eu swyddogaethau o dan adran 15 i ganslo cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol.
(5)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
Darparwyr gwasanaethau presennol: cais i amrywio cofrestriad
4
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth presennol.
(2)
Er gwaethaf paragraff 2(4), caiff darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol fod yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1).
(3)
Ond pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwneud cais o dan adran 11(1)(a)(i) neu (ii) mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac nad hwnnw yw’r gwasanaeth presennol, rhaid i’r darparwr wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol fod yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1).
(4)
Rhaid i gais o dan y paragraff hwn—
(a)
cynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y person yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(b)
bod ar y ffurf ragnodedig.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais o dan y paragraff hwn os ydynt wedi eu bodloni—
(a)
bod y cais—
(i)
yn cynnwys popeth sy’n ofynnol o dan is-baragraff (4)(a), a
(ii)
yn bodloni’r gofynion a ragnodir o dan is-baragraff (4)(b), a
(b)
bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).
(6)
Mewn unrhyw achos arall rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.
(7)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais o dan is-baragraff (5), rhaid i Weinidogion Cymru, i’r graddau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol—
(a)
gosod yr amod yn adran 7(3)(aa) ar gofrestriad y darparwr;
(b)
dangos yn y gofrestr—
(i)
bod cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(ii)
bod yr amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.
(8)
Pan fo amrywiad o dan y paragraff hwn yn cymryd effaith, nid yw paragraffau 2(4) a 3 yn gymwys i’r darparwr gwasanaeth.
(9)
Nid yw amrywiad o dan y paragraff hwn yn cymryd effaith ond os yw gofynion adran 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y maent yn gymwys).
Dehongli
5
Yn yr Atodlen hon—
(a)
ystyr “plant sy’n derbyn gofal” yw plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol fel y’u disgrifir yn adran 74(1) o Ddeddf 2014;
(b)
mae cyfeiriadau at y “cofrestr yn gyfeiriadau at y gofrestr a gynhelir o dan adran 38 o’r Ddeddf hon.”
(4)
Yn adran 45, ar ôl “adran 27 neu 37(2)(a)” mewnosoder “neu o dan baragraff 3(1) o Atodlen 1A”.
5Caniatáu neu wrthod cofrestriad mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(aa)
yn achos cais mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, fod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1);”.
(3)
Yn adran 7(3)—
(a)
ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer “a”;
(b)
“(aa)
rhaid iddo, yn achos cais mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, fod yn ddarostyngedig i amod bod y darparwr gwasanaeth yn hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw amgylchiadau nad yw’r darparwr bellach yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1) odanynt, a”.
6Person addas a phriodol: ystyriaethau perthnasol
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(e)
pan fo’r person yn ddarparwr gwasanaeth—
(i)
sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, a
(ii)
sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1),
a yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y darparwr wedi ymrwymo i drefniant ariannol sy’n dod o fewn adran 9A.”
(3)
“9APrawf person addas a phriodol: trefniadau ariannol sy’n ymwneud â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad
(1)
At ddibenion y prawf person addas a phriodol yn adran 9, mae trefniant ariannol yn dod o fewn yr adran hon os yw’n drefniant gyda neu er lles person perthnasol—
(a)
sy’n afresymol neu’n anghymesur o dan yr holl amgylchiadau, a
(b)
a all (o ganlyniad) danseilio gallu’r darparwr gwasanaeth i ddilyn ei amcanion neu ei ddibenion (ac o ran hynny, gweler adran 6A(3)).
(2)
Wrth benderfynu a ymrwymwyd i drefniant ariannol o’r fath, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)
maint neu werth y trefniant a’i ddiben (gan gynnwys i ba raddau y mae’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad);
(b)
maint neu werth y trefniant o gymharu â faint o incwm y mae’r darparwr gwasanaeth yn ei gael o ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad;
(c)
y gyfran o gyfanswm incwm y darparwr gwasanaeth sy’n dod o ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad;
(d)
llesiant plant sy’n cael gofal a chymorth (yn narpariaeth y gwasanaeth plant o dan gyfyngiad).
(3)
At ddibenion adran 9(7)(e) a’r adran hon—
(a)
mae “ymrwymo i drefniant ariannol” yn cynnwys gwneud taliad neu ddyfarnu unrhyw fudd (uniongyrchol neu anuniongyrchol) sydd â gwerth ariannol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny (ac mae cyfeiriadau at drefniant ariannol i’w darllen fel petaent yn cynnwys cyfres o drefniadau);
(b)
ystyr “person perthnasol” yw unrhyw un o’r canlynol—
(i)
cyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth;
(ii)
person cysylltiedig â chyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth;
(iii)
pan fo’r darparwr gwasanaeth yn rhan o grŵp o bersonau sydd o dan berchnogaeth ar y cyd neu reolaeth ar y cyd, unrhyw berson o fewn y grŵp hwnnw.
9BTrefniadau ariannol sy’n ymwneud â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad: darpariaeth atodol
(1)
Yn adran 9A(3)(b)—
(a)
mae i “cyflogai” a “gweithiwr” yr ystyron a roddir i “employee” a “worker” gan adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18);
(b)
ystyr “swyddog” yw—
(i)
unrhyw gyfarwyddwr, unrhyw reolwr, unrhyw ysgrifennydd neu unrhyw swyddog tebyg arall yn y darparwr gwasanaeth (ac, mewn perthynas â darparwr gwasanaeth y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, ystyr “cyfarwyddwr” yw aelod o’r darparwr gwasanaeth);
(ii)
unrhyw berson arall sydd â rheolaeth gyffredinol dros y darparwr gwasanaeth, ac sy’n rheoli’r darparwr hwnnw,
a, phan fo’r darparwr gwasanaeth yn elusen, mae hyn yn cynnwys unrhyw ymddiriedolwr elusen o fewn ystyr y Deddfau Elusennau.
(2)
At ddibenion adran 9A(3)(b), mae’r canlynol yn gysylltiedig â chyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth—
(a)
ei blentyn, ei riant, ei ŵyr neu ei wyres, ei dad-cu/daid neu ei fam-gu/nain, ei frawd neu ei chwaer;
(b)
ei briod neu ei bartner sifil;
(c)
person sy’n cynnal busnes mewn partneriaeth ag ef neu ag unrhyw berson sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b);
(d)
sefydliad sy’n cael ei reoli—
(i)
ganddo ef neu gan unrhyw berson sy’n dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c), neu
(ii)
gan ddau neu ragor o bersonau sy’n dod o fewn is-baragraff (i), o’u cymryd gyda’i gilydd;
(e)
corff corfforaethol—
(i)
y mae gan y person, neu unrhyw berson cysylltiedig sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c), fuddiant sylweddol ynddo, neu
(ii)
y mae gan ddau neu ragor o bersonau sy’n dod o fewn is-baragraff (i), o’u cymryd gyda’i gilydd, fuddiant sylweddol ynddo.
(3)
Yn is-adran (2)—
(a)
mae “plentyn” yn cynnwys llysblentyn;
(b)
pan na fo dau berson yn briod â’i gilydd, nac yn bartneriaid sifil i’w gilydd, ond yn byw gyda’i gilydd fel pe baent yn gwpl priod neu’n bartneriaid sifil, mae pob un ohonynt i’w drin fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil i’r llall;
(c)
mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “institution” gan adran 9(3) o Ddeddf Elusennau 2011 ac mae person yn rheoli sefydliad os yw’r person yn gallu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sicrhau bod materion y sefydliad yn cael eu cynnal yn unol â dymuniadau’r person;
(d)
mae i gyfeiriadau at berson a chanddo “buddiant sylweddol mewn corff corfforaethol” yr ystyr a roddir i berson a chanddo “substantial interest in a body corporate” gan adran 352 o Ddeddf Elusennau 2011.
(4)
At ddibenion adran 9A(3)(b)(iii), mae grŵp o bersonau i’w drin fel pe bai o dan reolaeth ar y cyd os yw’r grŵp—
(a)
yn grŵp o gyrff corfforaethol sydd wedi eu cydgysylltu,
(b)
yn cynnwys cyrff corfforaethol sydd oll o dan reolaeth un person neu un grŵp o bersonau, neu
(c)
yn cynnwys un neu ragor o gyrff corfforaethol a pherson, neu grŵp o bersonau, sydd â rheolaeth dros y corff corfforaethol hwnnw neu’r cyrff corfforaethol hynny.
(5)
Yn is-adran (4), ystyr “grŵp o gyrff corfforaethol sydd wedi eu cydgysylltu” yw grŵp sy’n cynnwys dau neu ragor o gyrff corfforaethol y mae pob un ohonynt wedi eu cydgysylltu â’i gilydd.
(6)
At ddibenion is-adran (5), mae unrhyw ddau gorff corfforaethol yn rhai sydd wedi eu cydgysylltu—
(a)
os yw un ohonynt yn gorff corfforaethol y mae’r llall yn is-gorff iddo, neu
(b)
os yw’r ddau ohonynt yn is-gyrff i un corff corfforaethol (ac mae “cyrff corfforaethol sydd wedi eu cydgysylltu” i’w ddehongli yn unol â hynny).
(7)
At ddibenion is-adran (4)(b) ac (c), mae person neu grŵp o bersonau yn rheoli corff corfforaethol os yw’r person neu’r grŵp o bersonau yn gallu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sicrhau bod materion y corff corfforaethol yn cael eu cynnal yn unol â dymuniadau’r person neu’r grŵp o bersonau.
(8)
Yn yr adran hon—
ystyr “y Deddfau Elusennau” (“the Charities Acts”) yw Deddf Elusennau 2011 (p. 25), Deddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005 (dsa 10) a Deddf Elusennau (Gogledd Iwerddon) 2008 (p. 12);
mae i “is-gorff” yr ystyr a roddir i “subsidiary” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46);
mae “person” (“person”) yn cynnwys corff corfforaethol, partneriaeth a chymdeithas anghorfforedig.””
7Darparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad: yr wybodaeth a gynhwysir mewn datganiad blynyddol
Yn Neddf 2016, yn adran 10—
(a)
“(viiia)
unrhyw wybodaeth a ragnodir am dystiolaeth sy’n berthnasol i’r prawf person addas a phriodol;”;
(b)
“(2A)
Yn achos darparwr gwasanaeth, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n darparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i ddatganiad hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).
(2B)
Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys mewn cysylltiad â darparwr nad yw adran 6A yn gymwys iddo yn rhinwedd paragraff 2(4) o Atodlen 1A.”;
(c)
yn is-adran (6)—
(i)
ym mharagraff (b), ar y diwedd hepgorer “neu”;
(ii)
“(ba)
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viiia),”;
(iii)
ym mharagraff (c), ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(iv)
“(d)
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2A),”.
8Amrywio neu ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(4)
Yn achos cais o dan is-adran (1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i’r cais hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”
(3)
Yn adran 12—
(a)
yn is-adran (1), yn lle “is-adran (2)” rhodder “is-adrannau (1A) a (2)”;
(b)
“(1A)
Yn achos cais o dan adran 11(1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, ni chaiff Gweinidogion Cymru ond caniatáu cais os ydynt wedi eu bodloni bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”
(4)
Yn adran 13, yn is-adran (3)—
(a)
ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer “neu”;
(b)
ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, neu”;
(c)
“(c)
os ydynt wedi eu bodloni, pan fo’r gwasanaeth yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad, nad yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”
(5)
“(3A)
Gweler hefyd baragraff 3(4)(a) o Atodlen 1A, mewn cysylltiad ag amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth i ddileu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.”
(6)
Yn adran 15—
(a)
“;
(g)
mae pob un o’r gwasanaethau y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hwy yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad ac nid yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”;
(b)
“(1A)
Gweler hefyd baragraff 3(4)(b) o Atodlen 1A, mewn cysylltiad â chanslo cofrestriad darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.”
9Gwasanaethau plant o dan gyfyngiad: yr wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau
Yn Neddf 2016, yn adran 38—
(a)
yn is-adran (2)—
(i)
“(aa)
a yw unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau hynny yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad;”;
(ii)
“(da)
yn achos darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad—
(i)
bod cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(ii)
bod yr amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;”;
(b)
“(2A)
Gweler hefyd Atodlen 1A, mewn cysylltiad â chofrestriad darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad nad yw’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.”
Swyddogaethau awdurdod lleol mewn cysylltiad â llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
10Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau digon o lety
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Mae adran 75 wedi ei diwygio fel y nodir yn is-adrannau (3) i (6).
(3)
Yn is-adran (1)—
(a)
yn lle “camau sy’n sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol,” rhodder “pob cam rhesymol i sicrhau”;
(b)
ym mharagraff (a)—
(i)
ar ôl “awdurdod,” mewnosoder “neu’n agos iddi,”;
(ii)
ar y diwedd, hepgorer “a”;
(c)
“(aa)
yn achos llety gyda rhiant maeth awdurdod lleol, yn llety gyda rhiant maeth sydd wedi ei awdurdodi felly gan berson a ddisgrifir yn adran 81A(4)(a),
(ab)
yn achos llety mewn cartref plant, yn llety mewn cartref plant y mae person a ddisgrifir yn adran 81A(4)(b) wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef, a”.
(4)
Yn is-adran (2), ym mharagraff (c), yn lle “yn ardal yr awdurdod” rhodder “o fewn ardal yr awdurdod, neu’n agos iddi,”.
(5)
“(a)
sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu’n agos iddi, a
(b)
sy’n gallu diwallu gwahanol anghenion y plant a grybwyllir yn is-adran (2).”
(6)
Yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “ystyr “darparwyr llety”” hyd at y diwedd rhodder “ac yn adran 75A, ystyr ”cartref plant” yw man yng Nghymru y mae gwasanaeth cartref plant (o fewn ystyr adran 2A(2) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) yn cael ei ddarparu ynddo.”.
(7)
Yn adran 197(1), yn y diffiniad o “cartref plant”, ym mharagraff (b), ar y dechrau mewnosoder “ac eithrio yn adrannau 75 a 75A”.
11Dyletswydd i lunio a chyhoeddi cynllun digonolrwydd blynyddol
“75ADyletswydd i sicrhau llety: llunio a chyhoeddi cynllun digonolrwydd blynyddol
(1)
Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi cynllun (“cynllun digonolrwydd blynyddol”) sy’n nodi’r camau y bydd yn eu cymryd yn y flwyddyn honno yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 75(1).
(2)
Rhaid i gynllun digonolrwydd blynyddol—
(a)
bod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau, a
(b)
cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn ei gyhoeddi (gweler adrannau 75B a 75C).
(3)
Rhaid i gynllun digonolrwydd blynyddol gynnwys, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi—
(a)
nifer y plant y mae’r awdurdod yn amcangyfrif—
(i)
y bydd yn gofalu amdanynt, a
(ii)
y bydd yn annhebygol o allu gwneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 81(2);
(b)
asesiad ynghylch faint o lety a ddarperir gan rieni maeth awdurdod lleol a chartrefi plant fydd ar gael i’r awdurdod lleol at ddiben lleoli plant a ddisgrifir ym mharagraff (a) yn unol ag adran 81A(2);
(c)
asesiad ynghylch i ba raddau y mae’r llety hwnnw yn bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1);
(d)
mewn perthynas â cheisiadau y mae’r awdurdod lleol yn rhagweld y bydd yn eu gwneud i gymeradwyo lleoliadau atodol yn unol ag adran 81B—
(i)
amcangyfrif o nifer y ceisiadau a ddisgwylir,
(ii)
y rhesymau pam y mae’r nifer hwnnw o geisiadau yn debygol o gael ei wneud,
(iii)
gwybodaeth i’w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr er elw sy’n darparu llety yng Nghymru ac sy’n debygol o gael eu henwi yn y ceisiadau hynny, a
(iv)
gwybodaeth i’w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr preifat sy’n darparu llety yn Lloegr ac sy’n debygol o gael eu henwi yn y ceisiadau hynny;
(e)
gwybodaeth ynghylch sut y bwriedir i gamau sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol sicrhau bod gan yr awdurdod ddigon o lety sy’n bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1);
(f)
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.
(4)
At ddibenion is-adran (3)(d)(iii) ac adran 81B, ystyr “darparwr er elw” yw—
(a)
mewn perthynas â llety a ddarperir gan rieni maeth awdurdod lleol, darparwr gwasanaeth nad yw’n dod o fewn y disgrifiadau a roddir yn adran 81A(4)(a);
(b)
mewn perthynas â llety a ddarperir gan gartref plant, darparwr gwasanaeth nad yw’n dod o fewn y disgrifiadau a roddir yn adran 81A(4)(b).
(5)
At ddibenion is-adran (3)(d)(iv) ac adran 81B, ystyr “darparwyr preifat” yw—
(a)
mewn perthynas â llety a ddarperir gan rieni maeth awdurdod lleol, person yn Lloegr sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag asiantaeth faethu o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b)
mewn perthynas â llety a ddarperir gan gartref plant, person, ac eithrio awdurdod lleol, sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r cartref plant o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
(6)
Yn yr adran hon ac yn adran 81A, mae i “darparwr gwasanaeth” yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
75BDyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo cynllun digonolrwydd
(1)
Cyn cyhoeddi ei gynllun digonolrwydd blynyddol, rhaid i awdurdod lleol—
(a)
llunio drafft o’r cynllun, a
(b)
cyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.
(2)
Rhaid cyflwyno’r cynllun drafft cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 4 mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
(3)
Rhaid cyflwyno cynlluniau drafft dilynol i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 2 fis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
(4)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o gynllun digonolrwydd blynyddol, rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod lleol am eu penderfyniad.
75CDyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn os nad yw’r cynllun drafft yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o gynllun digonolrwydd blynyddol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan adran 75B.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod lleol gan nodi—
(a)
y rhesymau dros y penderfyniad;
(b)
y cyfnod y mae rhaid i’r awdurdod lleol, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, gyflwyno drafft pellach o’r cynllun i Weinidogion Cymru.
(3)
Rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno drafft pellach o’r cynllun ynghyd ag adroddiad sy’n esbonio sut, wrth lunio’r drafft, y mae’r awdurdod lleol wedi ystyried y rhesymau a nodir yn yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (2).
(4)
Mae adran 75B(4) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft pellach a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 75B.
(5)
Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft pellach a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 75B.”
12Dyletswydd i sicrhau llety: adrodd
“75DDyletswydd i sicrhau llety: adrodd
Mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol y mae cynllun digonolrwydd blynyddol wedi ei wneud ar ei chyfer o dan adran 75A, rhaid i adroddiad blynyddol a lunnir gan awdurdod lleol o dan adran 144A nodi—
(a)
sut y mae camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol honno wedi cynyddu (neu sut y disgwylir iddynt gynyddu) faint o lety sydd ar gael i’r awdurdod sy’n bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1);
(b)
nifer y ceisiadau a wnaeth yr awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol honno am gymeradwyaeth i leoli plant mewn lleoliad atodol yn unol ag adran 81B;
(c)
y rhesymau dros unrhyw wahaniaeth rhwng nifer y ceisiadau a ddarperir o dan baragraff (b) a nifer y ceisiadau yr oedd yr awdurdod lleol wedi amcangyfrif o dan adran 75A(3)(d)(i) y byddai’n eu gwneud yn ystod y flwyddyn.”
13Y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 81—
(a)
yn is-adran (2), yn lle “is-adrannau (4) ac (11)” rhodder “is-adran (4) ac adran 81C(1) a (2)”;
(b)
yn is-adran (5), yn lle’r geiriau o “leoli” hyd at y diwedd rhodder “wneud trefniadau ar gyfer C yn unol ag adran 81A(2), ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 81C(1) a (2)”;
(c)
hepgorer is-adrannau (6) i (13).
(3)
“81AY ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: lleoliadau
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol, yn rhinwedd adran 81(5), leoli plentyn y mae’n gofalu amdano (“C”) mewn llety.
(2)
Pan fo’r adran hon yn gymwys, yn ddarostyngedig i is-adran (4) rhaid i’r awdurdod lleol leoli C yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, yn ei farn ef.
(3)
Yn is-adran (2), ystyr “lleoliad” yw—
(a)
lleoliad gydag unigolyn sy’n berthynas, yn ffrind neu’n berson arall sy’n gysylltiedig ag C ac sydd hefyd yn rhiant maeth awdurdod lleol,
(b)
lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn paragraff (a),
(c)
lleoliad mewn cartref plant, neu
(d)
yn ddarostyngedig i adran 82, lleoliad yn unol â threfniadau eraill sy’n cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon.
(4)
Oni bai na fyddai’n gyson â dyletswyddau’r awdurdod lleol o dan adran 78, gan roi sylw i’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a), rhaid i’r awdurdod sicrhau—
(a)
os yw’n lleoli C mewn lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (b) o is-adran (3), fod y lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol sydd wedi ei awdurdodi felly gan—
(i)
yr awdurdod lleol,
(ii)
awdurdod lleol gwahanol, neu
(iii)
darparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
(b)
os yw’n lleoli C mewn lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (c) o is-adran (3), fod y lleoliad mewn cartref plant y mae un o’r personau a ganlyn wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef—
(i)
yr awdurdod lleol,
(ii)
awdurdod lleol gwahanol, neu
(iii)
darparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
(5)
Wrth benderfynu ar y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Rhan hon, yn enwedig i’w ddyletswyddau o dan adran 78—
(a)
rhoi sylw i’r canlynol—
(i)
a fyddai llety’n cael ei ddarparu i C o fewn ardal yr awdurdod neu a fyddai C fel arall yn cael byw gerllaw cartref C;
(ii)
a fyddai’n amharu ar addysg neu hyfforddiant C;
(iii)
os oes gan C frawd neu chwaer sydd hefyd yn derbyn llety gan yr awdurdod lleol, a fyddai C yn gallu byw gyda’r brawd neu’r chwaer;
(iv)
os yw C yn anabl, a yw’r llety a ddarperir yn addas i anghenion penodol C;
(v)
os yw C eisoes yn cael ei letya mewn lleoliad yn unol ag is-adran (2), a fyddai symud C i leoliad arall yn amharu arno;
(b)
rhoi blaenoriaeth uwch i leoliad sy’n dod o fewn paragraff (a) o is-adran (3) na’r hyn a roddir i leoliadau sy’n dod o fewn paragraffau eraill yr is-adran honno.
(6)
Yn is-adran (4)(a) a (b), mae’r cyfeiriad at awdurdod lleol gwahanol yn cynnwys awdurdod lleol yn Lloegr.
(7)
Rhaid i god a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 145 gynnwys darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan yr adran hon.
81BY ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: cais i gymeradwyo lleoliad atodol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol leoli plentyn y mae’n gofalu amdano (“C”) yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael yn unol ag adran 81A(2),
(b)
pan mai’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, ym marn yr awdurdod lleol, yw lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (b) neu (c) o adran 81A(3), ac
(c)
pan na all yr awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofyniad perthnasol yn adran 81A(4) mewn cysylltiad â’r lleoliad hwnnw.
(2)
Rhaid i’r awdurdod lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i gymeradwyo’r lleoliad.
(3)
Rhaid i gais o dan is-adran (2) gynnwys—
(a)
enw’r darparwr er elw neu’r darparwr preifat (fel y bo’n gymwys),
(b)
telerau’r lleoliad (gan gynnwys telerau o ran talu),
(c)
datganiad sy’n nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod o’r farn y byddai’n gweithredu yn anghyson â’i ddyletswydd o dan adran 78 pe na bai’n lleoli C gyda’r darparwr er elw neu’r darparwr preifat,
(d)
gwybodaeth ynghylch sut y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan adran 81A yn y cod a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 145, ac
(e)
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r lleoliad os ydynt wedi eu bodloni—
(a)
bod y cais a wneir o dan is-adran (2) yn bodloni gofynion is-adran (3),
(b)
yn achos lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (b) o adran 81A(3), nad oes lleoliad amgen—
(i)
sydd yr un mor briodol, a
(ii)
sy’n bodloni’r amod yn adran 81A(4)(a),
(c)
yn achos lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (c) o adran 81A(3), nad oes lleoliad amgen—
(i)
sydd yr un mor briodol, a
(ii)
sy’n bodloni’r amod yn adran 81A(4)(b), a
(d)
bod y lleoliad yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
(5)
Ond os ydynt yn penderfynu nad ydynt wedi eu bodloni yn unol ag is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
hysbysu’r awdurdod lleol,
(b)
rhoi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad hwnnw i’r awdurdod, ac
(c)
cyfarwyddo’r awdurdod lleol i ailystyried, gan roi ystyriaeth i’r rhesymau hynny ac i unrhyw wybodaeth arall a bennir yn y cyfarwyddyd wrth wneud hynny.
(6)
Os yw’r awdurdod lleol yn parhau i fod o’r farn, ar ôl ailystyried yn unol â’r cyfarwyddyd, mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C, rhaid iddo wneud cais pellach i Weinidogion Cymru i gymeradwyo’r lleoliad.
(7)
Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i gais pellach am gymeradwyaeth fel y maent yn gymwys i gais cyntaf am gymeradwyaeth, ac eithrio bod rhaid i gais pellach am gymeradwyaeth gynnwys datganiad gan yr awdurdod lleol sy’n nodi—
(a)
sut y rhoddodd yr awdurdod ystyriaeth i resymau Gweinidogion Cymru dros beidio â bod wedi eu bodloni yn unol ag is-adran (4) wrth ailystyried y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C, a
(b)
y rhesymau pam y mae’r awdurdod yn parhau i fod o’r farn mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C.
(8)
Cyfeirir at leoliad sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon fel “lleoliad atodol”.
81CY ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: darpar fabwysiadwyr
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
(a)
bo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”),
(b)
bo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylai C gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ac yn bwriadu lleoli C i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”),
(c)
bo asiantaeth fabwysiadu wedi dyfarnu bod A yn addas i fabwysiadu plentyn, a
(d)
na fo’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu.
(2)
Rhaid i’r awdurdod lleol leoli C gydag A oni bai y byddai’n fwy priodol yn ei farn—
(a)
i wneud trefniadau er mwyn i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn adran 81(3), neu
(b)
i leoli C mewn lleoliad o ddisgrifiad a grybwyllwyd yn adran 81A(3).
(3)
At ddibenion is-adran (1)—
(a)
mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” gan adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
(b)
nid yw awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny o dan—
(i)
adran 19 o’r Ddeddf honno (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant), neu
(ii)
gorchymyn lleoli a wneir o dan adran 21 o’r Ddeddf honno.
81DY ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: pŵer i ddyfarnu telerau trefniadau lletya
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”).
(2)
Caiff yr awdurdod lleol ddyfarnu—
(a)
telerau unrhyw drefniadau y mae’n eu gwneud o dan adran 81(2) mewn perthynas â phlentyn (gan gynnwys telerau o ran talu), a
(b)
y telerau ar gyfer gosod C gyda rhiant maeth awdurdod lleol o dan adran 81A(2) neu gyda darpar fabwysiadydd o dan adran 81C(2) (gan gynnwys telerau o ran talu ond yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004).”
PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol: cofrestru etc. darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol
14Dyletswydd i gyflwyno a chyhoeddi datganiad blynyddol
(1)
Mae is-adrannau (2) a (3) yn diwygio Deddf 2016—
(a)
i newid y gofyniad yn adran 10 i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad blynyddol a gyflwynir gan ddarparwr gwasanaeth yn ofyniad bod rhaid i’r darparwr gwasanaeth gyhoeddi datganiad o’r fath a rhoi copïau ohono ar gael ar gais, a
(b)
i wneud methiant i gyhoeddi datganiad blynyddol yn drosedd.
(2)
Yn adran 10 o Ddeddf 2016—
(a)
“, ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddi—
(a)
cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru;
(b)
cyhoeddi’r datganiad hwnnw ar ei wefan.”;
(b)
“(1A)
Rhaid i ddarparwr gwasanaeth roi ar gael, ar gais, gopi o ddatganiad blynyddol sydd wedi ei gyhoeddi ar ei wefan.”;
(c)
“(4A)
Rhaid cyhoeddi datganiad blynyddol o fewn y terfyn amser rhagnodedig.
(4B)
Ond os yw datgelu gwybodaeth a gynhwysir yn y datganiad blynyddol wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall, rhaid cuddio’r wybodaeth honno yn y datganiad blynyddol cyn ei gyhoeddi.”;
(d)
hepgorer is-adran (5).
(3)
Yn adran 48 o Ddeddf 2016—
(a)
yn y pennawd, ar ôl “gyflwyno” mewnosoder “neu gyhoeddi”;
(b)
“—
(a)
methu â chyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a ragnodir o dan adran 10(4), neu
(b)
methu â chyhoeddi datganiad blynyddol ar ei wefan o fewn y terfyn amser a ragnodir o dan adran 10(4A).”
15Cais i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth: yr wybodaeth sydd i’w darparu
(1)
Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i roi pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi’r wybodaeth sydd i’w darparu gyda chais y mae darparwr gwasanaeth yn ei wneud i ganslo cofrestriad y darparwr o dan y Ddeddf.
(2)
“(1A)
Rhaid i gais o dan is-adran (1)—
(a)
cynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir gan Weinidogion Cymru;
(b)
bod ar y ffurf ragnodedig.”
16Canslo ac amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth heb gais: y gweithdrefnau hysbysu
(1)
Mae is-adrannau (2) a (3) yn diwygio Deddf 2016 i gymhwyso’r weithdrefn hysbysiad o gynnig (gweler adran 18 o’r Ddeddf honno), yn hytrach na’r weithdrefn hysbysiad gwella (gweler adran 16 o’r Ddeddf honno), wrth amrywio neu ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth gan Weinidogion Cymru o dan amgylchiadau penodol pan na fo unrhyw welliant yn bosibl.
(2)
Yn adran 13 o Ddeddf 2016—
(a)
hepgorer is-adran (2);
(b)
“(ba)
bod yr unigolyn cyfrifol sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â’r man hwnnw, neu unrhyw berson arall, wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef,”;
(c)
“(4A)
At ddibenion is-adran (4)(ba) mae trosedd berthnasol yn drosedd a restrir yn adran 15(2).”
(d)
“yr adran hon—
(a)
yn achos amrywiad o dan is-adran (1), (3)(a) neu (4)(a), oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;
(b)
yn achos amrywiad o dan is-adran (3)(b), (4)(b), (ba) neu (c), oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni.”;
(e)
“(6)
Ond nid oes dim byd yn is-adran (5) sy’n effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad ar frys o dan adran 23.”
(3)
Yn adran 15 o Ddeddf 2016—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
“(ba)
mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’n ei ddarparu;”;
(ii)
ym mharagraff (d), yn lle “mae’r darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol” rhodder “mae unigolyn cyfrifol ac eithrio’r darparwr gwasanaeth (gweler adran 21(2)(a))”;
(b)
yn is-adran (2), yn lle “is-adran (1)(d)” rhodder “is-adran (1)(ba), (d)”;
(c)
“—
(a)
yn achos canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(a), (b) neu (ba), oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;
(b)
yn achos canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(c), (d), (e) neu (f), oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni.”;
(d)
“(4)
Ond nid oes dim byd yn is-adran (3) sy’n effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i ganslo cofrestriad ar frys o dan adran 23.”
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol: gwybodaeth, arolygiadau ac ymchwiliadau
17Gwybodaeth, arolygiadau ac ymchwiliadau
(1)
Mae’r adran hon yn diwygio Pennod 3 o Ddeddf 2016 i wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â phwerau Gweinidogion Cymru i gynnal arolygiadau ac i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu, gan gynnwys mewn cysylltiad ag ymchwilio i droseddau.
(2)
Yn adran 32 o Ddeddf 2016—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
yn lle “Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu unrhyw wybodaeth iddynt” rhodder “Mae is-adrannau (1A) ac (1B) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gall fod gan berson perthnasol wybodaeth”;
(ii)
yn y testun Saesneg, ar ôl “think” mewnosoder “it”;
(b)
“(1A)
Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i berson perthnasol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
(a)
cyflwyno unrhyw ddogfennau—
(i)
a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a
(ii)
sydd ym meddiant y person neu o dan reolaeth y person, a
(b)
cyflwyno’r dogfennau mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.
(1B)
Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i berson perthnasol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
(a)
ateb unrhyw gwestiwn—
(i)
sydd wedi ei ofyn yn yr hysbysiad, a
(ii)
y mae’r ateb iddo yn hysbys i’r person, a
(b)
ateb mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.”
(c)
“—
(a)
os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall;
(b)
pe bai gan y person hawlogaeth i wrthod datgelu’r wybodaeth mewn achos yn yr Uchel Lys ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.”
(d)
“(5)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth gan eu bod yn amau bod trosedd yn cael ei chyflawni neu fod trosedd wedi ei chyflawni—
(a)
ni chânt ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ond os oes ganddynt sail resymol dros amau hynny;
(b)
rhaid iddynt hysbysu’r person, yn ysgrifenedig, at ba ddiben y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu.
(6)
Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at “darparwr gwasanaeth” yn cynnwys person y mae Gweinidogion Cymru yn amau’n rhesymol—
(a)
ei fod yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man nad yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan adran 7, neu
(b)
ei fod wedi darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man nad oedd y person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan adran 7.”
(3)
“32ABraint yn erbyn hunanargyhuddo
(1)
Ni chaniateir i wybodaeth a roddir gan berson (“P”) mewn ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 32(1B) gael ei defnyddio mewn achos troseddol yn erbyn P.
(2)
Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys—
(a)
os yw’r achos am drosedd o dan adran 5 o Ddeddf Anudon 1911 (p. 6) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw);
(b)
yn ystod yr achos—
(i)
os dygir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan P, neu ar ei ran, neu
(ii)
os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan P, neu ar ei ran.”
(4)
Yn adran 33—
(a)
yn is-adran (1)(b), yn lle “o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth” rhodder “o’r ffordd y mae gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn cael eu trefnu, eu rheoli neu eu cydgysylltu”;
(b)
“(1A)
Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “ymchwiliad yn gyfeiriad at ymchwiliad ynghylch a yw person yn cyflawni neu wedi cyflawni trosedd o dan y Rhan hon.”;
(c)
yn is-adran (2), ar y diwedd mewnosoder “neu ymchwiliad”.
(5)
Yn adran 34—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
(ii)
yn lle “ac arolygu” rhodder “i”;
(b)
yn is-adran (2), yn lle “ac arolygu mangre” rhodder “i fangre”;
(c)
yn is-adran (3), ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
(d)
yn is-adran (4), ar y dechrau mewnosoder “Wrth gynnal arolygiad neu ymchwiliad,”.
(6)
Yn adran 35—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
(ii)
hepgorer “yn breifat”.
(b)
“(1A)
Caniateir i arolygydd ei gwneud yn ofynnol i gyfweliad o dan is-adran (1) gael ei gynnal yn breifat.”;
(c)
“o ran arolygydd—
(a)
ni chaiff gyf-weld â pherson sy’n dod o fewn is-adran (3) heb gydsyniad y person, a
(b)
ni chaiff gyf-weld â pherson (“P”) at ddibenion holi a yw P wedi cyflawni trosedd oni bai—
(i)
bod P wedi cael ei hysbysu am ddiben y cyfweliad;
(ii)
y rhoddir y cyfle i P i gael cynrychiolaeth gyfreithiol.”
(d)
yn is-adran (4), ar ôl “Caiff arolygydd” mewnosoder “, at ddibenion cynnal arolygiad,”.
(7)
Yn adran 36—
(a)
yn is-adran (2), ar ôl “adroddiad” mewnosoder “, i’r graddau a ystyrir yn gymesur gan Weinidogion Cymru,”;
(b)
“(3A)
Ond nid yw gofyniad yn is-adran (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyflawni’r gofyniad yn amhriodol gan roi sylw i fudd pennaf person y mae ei ofal a’i gymorth wedi eu hasesu yn yr adroddiad.”
Gweithwyr gofal cymdeithasol: cofrestru ac addasrwydd i ymarfer
18Ystyr gweithiwr gofal cymdeithasol: gweithwyr gofal plant
(1)
Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i ychwanegu, at y rhestr o bersonau y gall Gweinidogion Cymru eu heithrio o’r diffiniad o “weithiwr gofal cymdeithasol” at ddibenion y Ddeddf, neu eu cynnwys yn y diffiniad hwnnw, bobl sy’n darparu goruchwyliaeth i blant (ond a all fod yn darparu gofal a chymorth neu beidio yn rhan o’u rôl).
(2)
Yn adran 79 o Ddeddf 2016—
(a)
yn is-adran (3)—
(i)
“—
(i)
gofal a chymorth;
(ii)
gofal plant,
i unrhyw berson yng Nghymru”;
(ii)
“;
(m)
person a gyflogir i ddarparu gofal plant gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) fel darparwr gofal dydd i blant”;
(b)
“(3A)
Yn is-adran (3), ystyr “gofal plant yw gofal a goruchwyliaeth a ddarperir ar gyfer plant.”
19Achosion addasrwydd i ymarfer: pwerau i estyn gorchmynion interim
(1)
Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i roi’r pŵer i banel sy’n gwrando ar achos gorchymyn interim i estyn gorchymyn interim.
(2)
Yn adran 147 o Ddeddf 2016—
(a)
“;
(f)
yn achos gorchymyn interim nad yw wedi cael ei estyn gan y tribiwnlys o dan adran 148, estyn y gorchymyn interim.”;
(b)
“(2A)
Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(f) ond—
(a)
os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad yn bodloni un neu ragor o’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2), a
(b)
os nad yw’r estyniad yn arwain at y gorchymyn interim yn cael effaith am gyfnod o fwy na 18 mis.”;
(c)
yn is-adran (3), ar ôl “estyn” mewnosoder “gan banel o dan is-adran (1)(f) neu gan y tribiwnlys”;
(d)
“(ia)
gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan banel;”;
(e)
“(5)
Ond nid yw is-adran (4)(a)(i) a (b)(i) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriad at orchymyn interim yn is-adran (1)(f).”
Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol
20Taliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol
(1)
Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2014 er mwyn ychwanegu at y ffyrdd y mae awdurdod lleol yn gallu gwneud taliadau yn uniongyrchol i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan adrannau 35 i 40, 42 a 45 o’r Ddeddf honno, neu mewn cysylltiad â gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20), a hynny drwy ddarparu y gellir gwneud taliadau o’r fath i berson sydd wedi ei enwebu gan y person y gellid fel arall fod wedi gwneud y taliad iddo.
(2)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)
“49ATaliadau uniongyrchol
(1)
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion—
(a)
oedolyn (“A”), o dan adran 35 neu 36;
(b)
plentyn (“C”), o dan adran 37, 38 neu 39;
(c)
gofalwr (“R”), o dan adran 40, 42 neu 45.
(2)
Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni bai—
(a)
pan fo’r taliadau i’w gwneud i ddiwallu anghenion oedolyn o dan adran 35 neu 36, y bodlonir amod 1, 2 neu 3 yn adran 50;
(b)
pan fo’r taliadau i’w gwneud i ddiwallu anghenion plentyn o dan adran 37, 38 neu 39, y bodlonir amod 1 neu 2 yn adran 51;
(c)
pan fo’r taliadau i’w gwneud i ddiwallu anghenion gofalwr o dan adran 40, 42 neu 45, y bodlonir amod 1 neu 2 yn adran 52.
(3)
Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol.”;
(b)
“50Taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion oedolyn
(1)
Mae’r amodau y cyfeirir atynt yn adran 49A(2)(a) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion oedolyn (“A”) o dan adran 35 neu 36 fel a ganlyn.
(2)
Amod 1 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i A,
(b)
bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A, a
(ii)
bod gan A allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)
bod A wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)
Amod 2 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson ar wahân i A (“B”),
(b)
bod yr awdurdod lleol yn credu nad oes gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod B yn berson addas,
(d)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A,
(ii)
bod gan B allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(iii)
y bydd B yn gweithredu er lles pennaf A wrth reoli’r taliadau, ac
(e)
bod y cydsyniad angenrheidiol wedi ei gael i wneud y taliadau i B.
(4)
Amod 3 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan A (“N”),
(b)
bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A, a
(ii)
bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)
bod A wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)
bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.
(5)
At ddibenion is-adran (3)(c), mae B yn “berson addas”—
(a)
os yw B wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth,
(b)
pan na fo B wedi ei awdurdodi fel y crybwyllwyd ym mharagraff (a), os yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn cytuno â’r awdurdod lleol fod B yn addas i gael taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu
(c)
pan na fo B wedi ei awdurdodi fel y crybwyllwyd ym mharagraff (a) ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi felly, os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod B yn addas i gael taliadau o’r math hwnnw.
(6)
At ddibenion is-adran (3)(e), ystyr “cydsyniad angenrheidiol” yw—
(a)
cydsyniad B, a
(b)
pan fo B yn berson addas yn rhinwedd is-adran (5)(b), cydsyniad person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth.
51Taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion plentyn
(1)
Mae’r amodau y cyfeirir atynt yn adran 49A(2)(b) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion plentyn (“C”) o dan adran 37, 38 neu 39 fel a ganlyn.
(2)
Amod 1 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) sef—
(i)
C, neu
(ii)
person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros C,
(b)
pan fo P—
(i)
yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)
yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i gael y taliadau,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C,
(ii)
y caiff llesiant C ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud, a
(iii)
bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)
bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)
Amod 2 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan P (“N”),
(b)
pan fo P—
(i)
yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)
yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C,
(ii)
y caiff llesiant C ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud,
(iii)
y bydd N yn gweithredu er lles pennaf C wrth reoli’r taliadau, a
(iv)
bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)
bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)
bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.
52Taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion gofalwr
(1)
Mae’r amodau y cyfeirir atynt yn adran 49A(2)(c) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofalwr (“R”) o dan adran 40, 42 neu 45 fel a ganlyn.
(2)
Amod 1 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i R,
(b)
pan fo R—
(i)
yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan R alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)
yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan R ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i gael y taliadau,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion R, a
(ii)
bod gan R allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)
bod R wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)
Amod 2 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan R (“N”),
(b)
pan fo R—
(i)
yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan R alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)
yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan R ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion R,
(ii)
pan fo R yn blentyn o dan 16 oed, y bydd N yn gweithredu er lles pennaf R wrth reoli’r taliadau, a
(iii)
bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)
bod R wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)
bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.”;
(c)
“53ATaliadau uniongyrchol: ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
Mae’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynnwys drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac at y diben hwnnw mae Atodlen A1 yn cael effaith.”;
(d)
“ATODLEN A1TALIADAU UNIONGYRCHOL: ÔL-OFAL O DAN DDEDDF IECHYD MEDDWL 1983
Cyffredinol
1
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau mewn cysylltiad â pherson y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer y person o dan yr adran honno.
2
Ond ni chaiff rheoliadau o dan baragraff 1 ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni bai—
(a)
pan fo’r taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad ag oedolyn, y bodlonir amod 1, 2 neu 3 ym mharagraff 4;
(b)
pan fo’r taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad â phlentyn, y bodlonir amod 4 neu 5 ym mharagraff 5.
3
Cyfeirir at daliad o dan yr Atodlen hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.
Taliadau uniongyrchol: gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer oedolyn
4
(1)
Mae’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(a) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad ag oedolyn (“A”) y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer A o dan yr adran honno fel a ganlyn.
(2)
Amod 1 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i A,
(b)
bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a
(ii)
bod gan A allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)
bod A wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)
Amod 2 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson ar wahân i A (“B”),
(b)
bod yr awdurdod lleol yn credu nad oes gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod B yn berson addas,
(d)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(ii)
bod gan B allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(iii)
y bydd B yn gweithredu er lles pennaf A wrth reoli’r taliadau, ac
(e)
bod y cydsyniad angenrheidiol wedi ei gael i wneud y taliadau i B.
(4)
Amod 3 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan A (“N”),
(b)
bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a
(ii)
bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)
bod A wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)
bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.
(5)
At ddibenion is-baragraff (3)(c), mae B yn “berson addas”—
(a)
os yw B wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(b)
pan na fo B wedi ei awdurdodi fel y crybwyllwyd ym mharagraff (a), os yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn cytuno â’r awdurdod lleol fod B yn addas i gael y taliadau, neu
(c)
pan na fo B wedi ei awdurdodi fel y crybwyllwyd ym mharagraff (a) ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi felly, os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod B yn addas i gael taliadau o’r math hwnnw.
(6)
At ddibenion is-adran (3)(e), ystyr “cydsyniad angenrheidiol” yw—
(a)
cydsyniad B, a
(b)
pan fo B yn berson addas yn rhinwedd is-baragraff (5)(b), cydsyniad person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Taliadau uniongyrchol: gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer plentyn
5
(1)
Mae’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(b) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â phlentyn (“C”) y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer C o dan yr adran honno fel a ganlyn.
(2)
Amod 1 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) sef—
(i)
C, neu
(ii)
person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros C,
(b)
pan fo P—
(i)
yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)
yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i gael y taliadau,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at C o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(ii)
y caiff llesiant C ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud, a
(iii)
bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)
bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)
Amod 2 yw—
(a)
bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan P (“N”),
(b)
pan fo P—
(i)
yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P alluedd i gydsynio bod taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)
yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio bod taliadau’n cael eu gwneud,
(c)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at C o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(ii)
y caiff llesiant C ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud,
(iii)
y bydd N yn gweithredu er lles pennaf C wrth reoli’r taliadau, a
(iv)
bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)
bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)
bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.
Darpariaeth bellach ar gyfer taliadau uniongyrchol: ôl-ofal
6
Caiff rheoliadau o dan yr Atodlen hon hefyd wneud darpariaeth, yn benodol, ynghylch y canlynol—
(a)
materion y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, roi sylw iddynt wrth wneud penderfyniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;
(b)
amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu gosod a’r amodau na chaniateir iddo eu gosod, mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;
(c)
camau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu cymryd cyn, neu ar ôl, gwneud penderfyniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;
(d)
cymorth y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei ddarparu neu ei drefnu ar gyfer personau y mae’n gwneud taliadau uniongyrchol iddynt;
(e)
achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol weithredu fel asiant ar ran person y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud iddo;
(f)
amodau y cyflawnir odanynt ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y cyflawnir y ddyletswydd honno drwy wneud taliadau uniongyrchol;
(g)
achosion neu amgylchiadau lle na chaiff awdurdod lleol wneud, neu lle y caniateir iddo beidio â gwneud, taliadau i berson neu mewn perthynas â pherson;
(h)
achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid i berson, neu lle y caiff person, nad yw bellach heb alluedd, neu y mae’r awdurdod lleol yn credu nad yw’r person hwnnw bellach heb alluedd, i gydsynio bod taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud, gael ei drin, serch hynny, at ddibenion paragraffau 4 a 5 fel pe na bai ganddo’r galluedd i wneud hynny;
(i)
achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol adolygu’r arfer o wneud y taliadau hynny;
(j)
achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol—
(i)
terfynu’r arfer o wneud y taliadau hynny;
(ii)
ei gwneud yn ofynnol i’r cyfan neu ran o daliad uniongyrchol gael ei ad-dalu;
(k)
adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol mewn cysylltiad â gwneud taliadau uniongyrchol.
7
Rhaid i reoliadau o dan yr Atodlen hon bennu bod rhaid i daliadau uniongyrchol i dalu’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn cael eu darparu i ddiwallu’r anghenion hynny.
8
Caiff person y mae awdurdod lleol yn gwneud taliad uniongyrchol iddo, yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan yr Atodlen hon, ddefnyddio’r taliad i brynu gwasanaethau ôl-ofal gan unrhyw berson (gan gynnwys, ymhlith eraill, yr awdurdod a wnaeth y taliad).”
21Lletya plant
(1)
Mae is-adrannau (2) a (3) yn diwygio Deddf 2014 er mwyn cyfyngu’r canlynol—
(a)
gallu person a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn i atal rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd heb rieni, neu sydd ar goll neu sydd wedi ei adael, rhag gwrthwynebu i’r plentyn dderbyn gofal mewn llety awdurdod lleol, neu rhag ei symud o lety o’r fath;
(b)
y gofyniad i awdurdod lleol leoli plentyn y mae’n gofalu amdano gyda pherson a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn,
i berson a enwir yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel rhywun y mae’r plentyn i fyw gydag ef, ond nid i unrhyw berson arall a enwir mewn gorchymyn o’r fath.
(2)
“(a)
sydd wedi ei enwi mewn gorchymyn trefniadau plentyn (sydd mewn grym) fel person y mae’r plentyn i fyw gydag ef,”.
(3)
Yn adran 81(3) o Ddeddf 2014, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “yn berson” hyd at y diwedd rhodder “wedi ei enwi yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel person yr oedd y plentyn i fyw gydag ef”.
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
22Gofal cymdeithasol: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Mae Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r darpariaethau yn y Rhan hon.
RHAN 2GOFAL IECHYD
23Trosolwg o Ran 2
(1)
Mae adrannau 24 a 25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer caniatáu gwneud taliadau yn uniongyrchol i glaf neu berson a enwebir gan y claf er mwyn i’r claf sicrhau gwasanaethau neu nwyddau y mae rhaid, neu y caniateir, eu darparu fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) (“Deddf 2006”) neu o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20), ac mewn cysylltiad â chaniatáu gwneud taliadau o’r fath.
(2)
Mae adran 26 yn diwygio adran 47 o Ddeddf 2014 er mwyn darparu na chaiff awdurdod lleol ond darparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau neu gyfleusterau y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiadau iechyd penodol—
(a)
os byddai darparu’r gwasanaethau neu’r cyfleusterau’n gysylltiedig â gwasanaethau gofal a chymorth penodol y caiff yr awdurdod lleol eu darparu, neu y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu darparu, o dan Ddeddf 2014, neu os byddai’n ategol at y gwasanaethau gofal a chymorth penodol hynny, a
(b)
os ydynt o natur y gellir disgwyl i’r awdurdod lleol eu darparu.
24Taliadau uniongyrchol am ofal iechyd
(1)
Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“Direct payments for health care
10BDirect payments for health care
(1)
The Welsh Ministers may, for the purpose of securing the provision to a patient of anything to which subsection (3) applies, make payments to the patient or to a person nominated by the patient.
(2)
Subsection (1) is subject to any provision made by regulations under section 10C.
(3)
This subsection applies to—
(a)
anything that the Welsh Ministers may or must provide under section 2(1) or 3(1);
(b)
anything for which the Welsh Ministers must arrange under paragraph 8 of Schedule 1;
(c)
any vehicles that the Welsh Ministers may provide under paragraph 9 of Schedule 1;
(d)
anything the Welsh Ministers may provide under paragraph 10 of Schedule 1 (including anything for which a grant may be made under paragraph 10(3) of Schedule 1).
(4)
Payments may not be made under subsection (1) unless the patient consents to the making of the payments, subject to any provision made by regulations under section 10C in respect of a patient who lacks capacity or is a child.
(5)
Where the Welsh Ministers make payments under subsection (1), they must, having regard to the purposes for which the payments are made, make arrangements for the provision to the patient, payee or their representative of such information, advice or other support, as the Welsh Ministers consider appropriate.
(6)
Regulations may provide that a Local Health Board may, for the purpose of securing the provision to a patient of after-care services that a Local Health Board must provide under section 117 of the Mental Health Act 1983 (c. 20), make payments to the patient or to a person nominated by the patient.
(7)
Regulations under subsection (6) must—
(a)
provide that payments under the regulations cannot be made unless the patient consents to the making of the payments, subject to any provision made by regulations under section 10C in respect of a patient who lacks capacity or is a child;
(b)
make provision in respect of information, advice or other support to be provided by a Local Health Board to patients, payees or their representatives in connection with the payments.
(8)
In section 10C and section 10D, “direct payments” means payments made under subsection (1) or under regulations made under subsection (6).
(9)
In this section and section 10C—
(a)
“child” means a person who has not attained the age of 16;
(b)
references to a person lacking capacity are references to a person lacking capacity within the meaning of the Mental Capacity Act 2005 (c. 9).
10CRegulations about direct payments
(1)
Regulations may make provision about direct payments.
(2)
The regulations may, in particular, make provision about—
(a)
the circumstances in which, and descriptions of persons and services in respect of which, direct payments may, must or must not be made;
(b)
the circumstances in which direct payments may, must or must not be made to a person nominated by the patient;
(c)
the making of direct payments (and, in particular, as to persons to whom payments may or must be made) if the patient lacks capacity to consent to the making of the payments or is a child;
(d)
matters to which the Welsh Ministers or a Local Health Board may or must have regard when making a decision about direct payments;
(e)
conditions that the Welsh Ministers or a Local Health Board may, must or must not attach in relation to direct payments;
(f)
the steps that the Welsh Ministers or a Local Health Board may or must take before, or after, making a decision about direct payments;
(g)
the conditions that the patient or (if different) the payee may or must be required to comply with before, after, or at the time when a direct payment is made;
(h)
the amount of any direct payment or how it is to be calculated;
(i)
the circumstances in which the Welsh Ministers or a Local Health Board may or must stop making direct payments;
(j)
the circumstances in which the Welsh Ministers or a Local Health Board may or must require all or part of a direct payment to be repaid by the patient or (if different) the payee, or otherwise;
(k)
the monitoring of the making of direct payments, of their use by the patient or (if different) the payee, or of services which they are used to secure;
(l)
the review of decisions as to whether a direct payment should be made;
(m)
the arrangements to be made by the Welsh Ministers or Local Health Board for providing patients, payees or their representatives with information, advice or other support in connection with direct payments;
(n)
the extent to which such support is to be treated as a service in respect of which direct payments may be made.
(3)
If the regulations make provision about persons who lack capacity to consent to the making of direct payments, the regulations may also make provision about the cases or circumstances where a person who has lacked that capacity but no longer does so (whether because of fluctuating capacity or regaining or gaining capacity).
(4)
The regulations may provide for a sum which must be repaid to the Welsh Ministers or Local Health Board (as the case may be) by virtue of a condition or other requirement imposed by or under the regulations to be recoverable as a debt due to the Welsh Ministers or Local Health Board (as the case may be).
(5)
The regulations may make provision—
(a)
for a service in respect of which a direct payment has been made under section 10B(1) to be regarded as provided or arranged for by the Welsh Ministers under an enactment mentioned in section 10B(3), only to such extent and subject to such conditions as the regulations may specify;
(b)
displacing functions or obligations of a Local Health Board with respect to the provision of after-care services under section 117 of the Mental Health Act 1983 (c. 20), only to such extent and subject to such conditions as the regulations may prescribe.
(6)
In this section, “service” includes anything in respect of which direct payments may be made.
10DArrangements with other bodies relating to direct payments
(1)
The Welsh Ministers or a Local Health Board may arrange with any person or body to provide assistance in connection with direct payments.
(2)
Arrangements may be made under subsection (1) with voluntary organisations.
(3)
Powers under this section may be exercised on such terms as may be agreed, including terms as to the making of payments by or to the Welsh Ministers or the Local Health Board.”
(3)
Yn adran 203(6A)—
(a)
ar ôl “section 10A(1),” mewnosoder “section 10C(1) (direct payments),”;
(b)
ar ôl “section 82A (pharmaceutical needs assessments)” mewnosoder “or the first regulations under section 10B(6) (direct payments by Local Health Boards)”.
25Taliadau uniongyrchol am ofal iechyd: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Mae Atodlen 2 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol am ofal iechyd.
26Darparu gwasanaethau iechyd gan awdurdodau lleol
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 47(1)—
(a)
daw’r geiriau o “y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig” hyd at y diwedd yn baragraff (a);
(b)
“, a
(b)
y byddai’r gwasanaeth neu’r cyfleuster o dan sylw o natur y gellid disgwyl i’r awdurdod lleol ei ddarparu.”
(3)
Yn adran 47(2)—
(a)
daw’r geiriau o “y byddai gwneud hynny’n gysylltiedig” hyd at y diwedd yn baragraff (a);
(b)
“, a
(b)
y byddai’r gwasanaeth neu’r cyfleuster o dan sylw o natur y gellid disgwyl i’r awdurdod lleol ei ddarparu.”
RHAN 3CYFFREDINOL
27Dehongli cyffredinol
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4);
ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2).
28Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;
(b)
gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
(2)
O ran rheoliadau o dan yr adran hon—
(a)
cânt ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, gan gynnwys y Ddeddf hon;
(b)
maent i’w gwneud drwy offeryn statudol.
(3)
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ac sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(4)
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
(5)
Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
(a)
Deddf gan Senedd Cymru;
(b)
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
29Dod i rym
(1)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
yn Rhan 1—
(i)
adrannau 1, 16, 21 a 22 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 3(b) o Atodlen 1);
(ii)
paragraffau 2(1) a (6), 3(b), 5(1) a (4), 7(1), (3), (4), (14) a (15) o Atodlen 1;
(b)
yn Rhan 2, adrannau 23 a 26;
(c)
y Rhan hon.
(2)
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
30Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025.
ATODLEN 1GOFAL CYMDEITHASOL: MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
RHAN 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)
1
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 82—
(a)
yn is-adran (1), yn lle “adran 81(6)(d)” rhodder “adran 81A(3)(d)”;
(b)
yn is-adran (2), yn lle “adran 81(6)(d)” rhodder “adran 81A(3)(d)”.
(3)
Yn adran 89—
(a)
yn y pennawd, yn lle “adran 81(6)(d)” rhodder “adran 81A(3)(d)”;
(b)
yn is-adran (1), yn lle “adran 81(6)(d)” rhodder “adran 81A(3)(d)”.
(4)
Yn adran 92(2), yn lle “adran 81(11)” rhodder “adran 81C(2)”.
(5)
Yn adran 94A(1)(a), yn lle “adran 81” rhodder “adrannau 81 i 81D”.
(6)
Yn adran 174(3)(e), yn lle “adran 81(11)” rhodder “adran 81C(2)”.
(7)
Yn adran 186(4)(c), yn lle “adran 81” rhodder “adrannau 81 i 81D”.
(8)
“mae i “darparwr er elw” (“for-profit provider”) yr ystyr a roddir gan adran 75A(4);”;
““mae i “darparwr preifat” (“private provider) yr ystyr a roddir gan adran 75A(5);”.
Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2)
2
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(a)
yn achos amrywiad—
(i)
o dan is-adran (1), (3)(a) neu (c) neu (4)(a), neu
(ii)
yn unol â pharagraff 3(4)(a) o Atodlen 1A,
oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;”.
(3)
“(a)
yn achos—
(i)
canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(a), (b), (ba) neu (g), neu
(ii)
canslo yn unol â pharagraff 3(4)(b) o Atodlen 1A,
oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;”.
(4)
“mae i “gwasanaeth cartref plant” (“children’s home service”) yr ystyr a roddir gan adran 2A;”;
““mae i “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad” (“restricted children’s service) yr ystyr a roddir gan adran 2A;”.
(5)
Yn adran 187, yn is-adran (2)—
(a)
“(ca)
adran 6A(3)(b) (rheoliadau sy’n rhagnodi buddion cyhoeddus y mae rhaid i amcanion neu ddibenion person ymwneud yn anad dim â hwy);”;
(b)
“(x)
paragraffau 1(1)(b) a 3(1) o Atodlen 1A (rheoliadau mewn perthynas â’r cyfnod trosiannol ar gyfer gwasanaethau plant o dan gyfyngiad).”
(6)
Yn Atodlen 1—
(a)
ym mharagraff 1(1)—
(i)
yn lle’r geiriau “mewn man” rhodder “,”;
(ii)
ar ôl y geiriau “yng Nghymru” hepgorer “,”;
(b)
“yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal os yw’r llety a’r gofal yn cael eu darparu gan—
(a)
person, ac eithrio awdurdod lleol, sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;
(b)
perthynas i’r plentyn;
(c)
rhiant maeth mewn perthynas â’r plentyn (ond gweler hefyd baragraff 5A(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Plant 1989 (p. 41).”;
(c)
“(6)
Yn is-baragraff (4), mae i “cyfrifoldeb rhiant yr ystyr a roddir i “parental responsibility gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41).”
RHAN 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL ETC.: MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)
3
Yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20), yn adran 117(2C)—
(a)
ym mharagraff (a)(ii)—
(i)
yn lle “sections 50, 51 and 53 of” rhodder “Schedule A1 to”;
(ii)
hepgorer y geiriau mewn cromfachau;
(b)
ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “be provided” hyd at y diwedd rhodder “otherwise be provided under this section”.
Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47)
4
(1)
Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(8H)
A local authority does not make arrangements for another to engage in a regulated activity by virtue of anything the authority does under regulations under section 49A of, or Schedule A1 to, the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (anaw 4);
(8I)
A person (P) who is authorised as mentioned in subsection (5)(a) of section 50 of, or paragraph 4(5)(a) of Schedule A1 to, the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 does not make arrangements for another to engage in a regulated activity by virtue of anything that P does under subsection (5)(b) or (6)(b) of section 50 or paragraph 4(5)(b) or (6)(b) of Schedule A1.”
(3)
Yn adran 30(8), yn lle “sections 50 to 53 of” rhodder “section 49A of, or Schedule A1 to,”.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)
5
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 49(1)(a), yn lle “adrannau 50 i 53” rhodder “adrannau 49A i 53A”.
(3)
Yn adran 53—
(a)
yn lle “50, 51 neu 52”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “49A”;
(b)
yn is-adran (1)(k), yn lle “50” rhodder “49A”;
(c)
yn is-adran (7), yn lle “51” rhodder “49A(1)(b)”;
(d)
hepgorer is-adran (11).
(4)
“—
(a)
i awdurdod lleol sy’n lleoli plentyn mewn llety diogel yn yr Alban o dan adran 25 o Ddeddf Plant 1989, na
(b)”.
(5)
Yn adran 187(2), yn lle “adran 50 neu 51” rhodder “adran 49A nac Atodlen A1”.
(6)
Yn adran 189—
(a)
yn is-adran (5)(a)(ii), yn lle “adran 50 neu 52” rhodder “adran 49A(1)(a) neu (c)”;
(b)
yn is-adran (7)(b), yn lle “adran 50 neu 52” rhodder “adran 49A(1)(a) neu (c)”.
Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2)
6
(1)
Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(d)
Schedule A1 to the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (anaw 4) (direct payments for after-care made by local authorities);
(e)
regulations under section 49A of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (direct payments for care and support) where the payment is made towards the cost of meeting the needs of an adult or a carer who is an adult.”
Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2)
7
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 1, ym mharagraff (c), ar y diwedd mewnosoder “ac ymchwiliadau”.
(3)
Yn adran 16, yn is-adran (1)—
(a)
ym mharagraff (a), yn lle “adran 15” rhodder “adran 15(1)(c), (d), (e) neu (f)”;
(b)
ym mharagraff (b), yn lle “adran 13(3) neu (4)” rhodder “adran 13(3)(b) neu (4)(b), (ba) neu (c)”.
(4)
Yn adran 18, yn is-adran (1)—
(a)
ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “neu”;
(b)
ym mharagraff (c)(ii), yn lle “adran 13(3) neu (4), 23(1)(b) neu 25(2)(a).” rhodder “adran 13(3)(b) neu (4)(b), (ba) neu (c), 23(1)(b) neu 25(2)(a), neu”;
(c)
“(d)
canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth ac eithrio o dan adran 15(1)(c), (d), (e) ac (f).”
(5)
Ym mhennawd Pennod 3, yn lle’r geiriau “ac arolygiadau” rhodder “, arolygiadau ac ymchwiliadau”.
(6)
Ym mhennawd adran 33, ar ôl y gair “arolygiadau” mewnosoder “, ymchwiliadau”.
(7)
Ym mhennawd adran 34, yn lle “ac arolygu mangreoedd” rhodder “i fangreoedd”.
(8)
Ym mhennawd adran 50, ar y diwedd mewnosoder “ac ymchwiliadau”.
(9)
Yn adran 144, yn is-adran (6), yn lle’r geiriau “; gweler adran 148 (estyn gorchymyn interim gan y tribiwnlys)” rhodder “gan y tribiwnlys o dan adran 148”.
(10)
Yn adran 146, yn is-adran (9), ym mharagraff (a) hepgorer “gan y tribiwnlys”.
(11)
Yn adran 149, yn is-adran (4)(a), yn lle “gan y tribiwnlys” rhodder “(pa un ai gan banel neu gan y tribiwnlys)”.
(12)
Yn adran 161, yn is-adran (6)(b), yn lle “neu amrywio” rhodder “, amrywio neu estyn”.
(13)
Yn adran 163, yn is-adran (1)(d), yn lle “neu a amrywir” rhodder “, a amrywir neu a estynnir”.
(14)
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 15(3)(d), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru”.
(15)
Yn y darpariaethau a ganlyn, ym mhob lle y maent yn ymddangos, yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”—
(a)
adran 10(6);
(b)
adran 27(5);
(c)
adran 41(4);
(d)
adran 42(5);
(e)
adran 186(4), (5) a (6);
(f)
adran 187(2) a (3);
(g)
Atodlen 2, paragraffau 15(3)(d) ac 16(4)(b).
Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413 (Cy. 131))
8
(1)
Mae Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer—
(a)
rheoliad 2(5);
(b)
rheoliad 253.
ATODLEN 2TALIADAU UNIONGYRCHOL AM OFAL IECHYD: MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)
1
(1)
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 117(2C)—
(a)
ar ddiwedd paragraff (a)(ii) hepgorer “or”;
(b)
ar ddiwedd paragraff (a)(iii), yn lle “and” rhodder “or”;
(c)
“(iv)
regulations under section 10B(6) of the National Health Service (Wales) Act 2006, and”.
Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (p. 33)
2
(1)
Mae Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(ab)
in hospital accommodation in Wales or in England in respect of the provision of which direct payments are made under section 10B(1) of the National Health Service (Wales) Act 2006, or”.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)
3
(1)
Mae Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 184—
(a)
yn is-adran (2)—
(i)
ym mharagraff (b), ar ôl “local NHS bodies” mewnosoder “, direct payment service providers”;
(ii)
ym mharagraff (c), ar ôl “local NHS bodies” mewnosoder “or direct payment service providers”;
(iii)
ym mharagraff (d), ar ôl “local NHS bodies” mewnosoder “or direct payment service providers”;
(iv)
ym mharagraff (e), ar ôl “local NHS body” mewnosoder “or a direct payment service provider”;
(v)
ym mharagraff (f), ar ôl “local NHS body” mewnosoder “or a direct payment service provider”;
(b)
“(3A)
For the purposes of subsection (2) and section 186, “direct payment service provider in relation to an overview and scrutiny committee of a local authority means a person who provides services to any person residing in the authority’s area in respect of which direct payments have been made under section 10B(1), or under regulations made under section 10B(6).”
(3)
Yn adran 186(3)—
(a)
ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer “or”;
(b)
“(ab)
by adding any description or other provision in connection with a direct payment service provider or services provided by, or under arrangements made by, a direct payment service provider, or”.
(4)
Yn adran 187—
(a)
yn is-adran (2)—
(i)
ym mharagraff (a), o flaen “health service body” mewnosoder “direct payment service provider,”;
(ii)
ym mharagraff (ca), o flaen “health service body” mewnosoder “direct payment service provider,”;
(b)
““direct payment service provider means a person who provides services to any person in respect of which direct payments have been made under section 10B(1), or under regulations made under section 10B(6),”.
(5)
“direct payment service provider
section 187(3)”
Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47)
4
(1)
Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(8F)
The Welsh Ministers do not make arrangements for another to engage in a regulated activity by virtue of anything the Welsh Ministers do under section 10B, or under regulations under section 10C, of the National Health Service (Wales) Act 2006.
(8G)
A Local Health Board does not make arrangements for another to engage in a regulated activity by virtue of anything it does under regulations under section 10B(6) of the National Health Service (Wales) Act 2006.”
Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2)
5
(1)
Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(ba)
section 10B of the National Health Service (Wales) Act 2006 (c. 42) (direct payments for health care);
(bb)
regulations under section 10B(5) of the National Health Service (Wales) Act 2006 (direct payments for after-care made by Local Health Boards);”.
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)
6
(1)
Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 1(5)—
(a)
ym mharagraff (a), yn lle “a darparwyr gofal lliniarol” rhodder “, darparwyr gofal lliniarol a darparwyr gwasanaethau taliadau uniongyrchol”;
(b)
ym mharagraff (b), yn lle “a gofal lliniarol” rhodder “, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”;
(c)
ym mharagraff (c), yn lle “y materion gofal cymdeithasol a gofal lliniarol” rhodder “y materion sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”;
(d)
ym mharagraff (d), yn lle “a gofal lliniarol” rhodder “, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”;
(e)
ym mharagraff (e), yn lle “a gofal lliniarol” rhodder “, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”.
(3)
Ym mhennawd Rhan 5, yn lle “a gofal lliniarol” rhodder “, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”.
(4)
Yn adran 42—
(a)
“(d)
camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau taliadau uniongyrchol.”;
(b)
yn is-adran (6)—
(i)
yn lle “64” rhodder “64A”;
(ii)
““darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol” (“direct payment service provider”);”;
“““gwasanaeth taliadau uniongyrchol” (“direct payment service);”.
(5)
Yn adran 47(2)—
(a)
ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu”;
(b)
“, neu
(e)
darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol.”
(6)
“64AYstyr “gwasanaeth taliadau uniongyrchol” a “darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol”
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)
Ystyr “gwasanaeth taliadau uniongyrchol” yw gwasanaeth a ddarperir yng Nghymru neu yn Lloegr y mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu gwneud mewn cysylltiad ag ef o dan adran 10B(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42), neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 10B(6) o’r Ddeddf honno.
(3)
Ystyr “darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol” yw person sy’n darparu gwasanaethau taliadau uniongyrchol, ond nid yw’n cynnwys unigolyn—
(a)
sydd yn cyflawni gweithgaredd sy’n ymwneud â darparu gofal cartref yng Nghymru neu yn Lloegr y mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu gwneud mewn cysylltiad ag ef o dan adran 10B(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 10B(6) o’r Ddeddf honno,
(b)
sydd yn cyflawni’r gweithgaredd heblaw mewn partneriaeth ag eraill,
(c)
nad yw’n cael ei gyflogi gan gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig i’w gyflawni,
(d)
nad yw’n cyflogi unrhyw berson arall i gyflawni’r gweithgaredd, ac
(e)
sydd yn darparu neu’n trefnu i ddarparu gofal cartref i lai na phedwar o bobl.
(4)
Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol os ydynt yn cael eu cymryd gan—
(a)
person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,
(b)
person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu
(c)
person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.
(5)
Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol—
(a)
os yw’r darparwr hwnnw yn darparu gwasanaethau taliadau uniongyrchol drwy drefniant gyda pherson arall, a
(b)
os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.”
(7)
Yn adran 71(1)(d)(i), yn lle “neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol” rhodder “, darparwr gofal lliniarol annibynnol neu ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol”.
(8)
“mae i “darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol” (“direct payment service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 64A(3);”;
“mae i “gwasanaeth taliadau uniongyrchol” (“direct payment service) yr ystyr a roddir gan adran 64A(2);”.
(9)
Yn adran 79—
(a)
“(g)
yn gyn-ddarparwyr gwasanaethau taliadau uniongyrchol.”;
(b)
“(7A)
Ystyr “cyn-ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol” yw person—
(a)
a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaethau taliadau uniongyrchol o ddisgrifiad penodol, a
(b)
sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â gwneud hynny (pa un a yw’r person wedi dechrau gwneud hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).”
(10)
Yn Atodlen 1—
(a)
ym mharagraff 6(1)(f), yn lle “neu’n ddarparwr gofal lliniarol annibynnol;” rhodder “, yn ddarparwr gofal lliniarol annibynnol neu’n ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol;”;
(b)
ym mharagraff 15(7)(a), yn lle “neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol” rhodder “, darparwr gofal lliniarol annibynnol neu ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol”.