Rhagolygol
Yn Neddf 2016, yn adran 10—
(a)yn is-adran (2)(a), ar ôl paragraff (viii) mewnosoder—
“(viiia)unrhyw wybodaeth a ragnodir am dystiolaeth sy’n berthnasol i’r prawf person addas a phriodol;”;
(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Yn achos darparwr gwasanaeth, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n darparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i ddatganiad hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).
(2B)Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys mewn cysylltiad â darparwr nad yw adran 6A yn gymwys iddo yn rhinwedd paragraff 2(4) o Atodlen 1A.”;
(c)yn is-adran (6)—
(i)ym mharagraff (b), ar y diwedd hepgorer “neu”;
(ii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viiia),”;
(iii)ym mharagraff (c), ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(iv)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(d)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2A),”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)