RHAN 1LL+CGOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1LL+CDARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW

Rhagolygol

Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blantLL+C

5Caniatáu neu wrthod cofrestriad mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiadLL+C

(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 7(1), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn achos cais mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, fod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1);.

(3)Yn adran 7(3)—

(a)ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer “a”;

(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)rhaid iddo, yn achos cais mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, fod yn ddarostyngedig i amod bod y darparwr gwasanaeth yn hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw amgylchiadau nad yw’r darparwr bellach yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1) odanynt, a.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)