RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW

Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant

4Cofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: trefniadau trosiannol

(1)

Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl adran 6B (fel y’i mewnosodir gan adran 3) mewnosoder—

“6CCofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: trefniadau trosiannol

Mae Atodlen 1A yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â darparwyr gwasanaethau a gofrestrwyd cyn i adran 6A(1) ddod i rym.”

(3)

Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—

“ATODLEN 1AGWASANAETHAU PLANT O DAN GYFYNGIAD: TREFNIADAU COFRESTRU TROSIANNOL AR GYFER DARPARWYR GWASANAETHAU PRESENNOL

(fel y’i cyflwynir gan adran 6C)

Y cyfnod trosiannol mewn cysylltiad â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad

1

(1)

Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, mae cyfeiriadau at y cyfnod trosiannol yn gyfeiriadau at y cyfnod—

(a)

sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r gwasanaeth yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad yn rhinwedd dyfodiad adran 6A(1) i rym mewn perthynas â’r gwasanaeth, a

(b)

sy’n gorffen â’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau at ddibenion y paragraff hwn.

(2)

Caiff rheoliadau a wneir o dan is-baragraff (1)(b) bennu diwrnodau gwahanol ar gyfer—

(a)

mathau gwahanol o wasanaeth plant o dan gyfyngiad;

(b)

disgrifiadau gwahanol o ddarparwr gwasanaeth (er enghraifft, darparwyr gwasanaethau sy’n arbenigo mewn darparu math penodol o wasanaeth plant o dan gyfyngiad).

(3)

Ond nid yw is-baragraff (2) yn cyfyngu ar gymhwyso adran 187 mewn perthynas â rheoliadau a wneir o dan is-baragraff (1)(b).

(4)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

Darparwyr gwasanaethau presennol: esemptiad rhag adran 6A(1)

2

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth, ac eithrio awdurdod lleol, sydd wedi ei gofrestru—

(a)

mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref‍ plant, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;

(b)

mewn cysylltiad â gwasanaeth maethu, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;

(c)

mewn cysylltiad â gwasanaeth llety diogel, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

(2)

Ac mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth o’r fath yn ystod y cyfnod trosiannol.

(3)

Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas â darparwr, mae cyfeiriadau at y gwasanaeth presennol yn gyfeiriadau at y gwasanaeth y mae’r darparwr wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef fel y’i disgrifir yn is-baragraff (1).

(4)

I’r graddau y mae darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo wedi ei gofrestru mewn cysylltiad‍ â’r gwasanaeth presennol—

(a)

nid yw cofrestriad y darparwr yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) (ac mae unrhyw gyfeiriad at y gofyniad hwnnw i’w ddarllen yn unol â hynny), a

(b)

(o ganlyniad) rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r darparwr ddangos—

(i)

nad yw cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a

(ii)

nad yw’r amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

(5)

Ond nid yw is-baragraff‍ (4) yn gymwys at ddibenion cais a wneir gan y darparwr gwasanaeth—

(a)

mewn perthynas â’r gwasanaeth presennol, o dan adran 11(1)(a)(ii);

(b)

mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth arall, o dan adran 11(1)(a)(i).

Rheoliadau ynghylch darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad gan ddarparwyr gwasanaethau presennol

3

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy’n gosod amodau ar ddarparwr gwasanaeth y mae paragraff 2 yn gymwys iddo.

(2)

Caiff amodau a osodir gan reoliadau o dan is-baragraff (1) gynnwys—

(a)

cyfyngiadau ar y math o wasanaeth plant o dan gyfyngiad y caiff y darparwr gwasanaeth ei ddarparu;

(b)

cyfyngiadau ar y disgrifiad o blant sy’n derbyn gofal y caiff y darparwr ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad mewn cysylltiad â hwy, er enghraifft drwy gyfeirio at eu hanghenion gofal a chymorth.

(3)

Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)

pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â chydymffurfio ag amodau a osodir gan reoliadau o dan is-baragraff (1), neu

(b)

yn achos darparwr gwasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff 2(1)(b), pan fo’r darparwr yn methu â chydymffurfio â rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014.

(4)

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

arfer eu swyddogaethau o dan adran 13 i amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu’r gwasanaeth neu ddileu man y mae’r gwasanaeth presennol yn cael ei ddarparu ynddo, neu

(b)

arfer eu swyddogaethau o dan adran 15 i ganslo cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol.

(5)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

Darparwyr gwasanaethau presennol: cais i amrywio cofrestriad

4

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth‍ sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth presennol.

(2)

Er gwaethaf paragraff 2(4), caiff darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo wneud cais i Weinidogion Cymru i‍ gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol fod yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1).

(3)

Ond pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwneud cais o dan adran 11(1)(a)(i) neu (ii) mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac nad hwnnw yw’r gwasanaeth presennol, rhaid i’r darparwr wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol fod yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1).

(4)

Rhaid i gais o dan‍ y paragraff hwn—

(a)

cynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y person yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1), a

(b)

bod ar y ffurf ragnodedig.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais o dan‍ y paragraff hwn os ydynt wedi eu bodloni—

(a)

bod y cais—

(i)

yn cynnwys popeth sy’n ofynnol o dan is-baragraff (4)(a), a

(ii)

yn bodloni’r gofynion a ragnodir o dan is-baragraff (4)(b), a

(b)

bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).

(6)

Mewn unrhyw achos arall rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.

(7)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais o dan is-baragraff (5), rhaid i Weinidogion Cymr‍u, i’r graddau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol—

(a)

gosod yr amod yn adran 7(3)(aa) ar gofrestriad y darparwr;

(b)

dangos yn y gofrestr—

(i)

bod cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a

(ii)

bod yr amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

(8)

Pan fo amrywiad o dan y paragraff hwn yn cymryd effaith, nid yw paragraffau 2(4) a 3 yn gymwys i’r darparwr gwasanaeth.

(9)

Nid yw amrywiad o dan‍ y paragraff hwn yn cymryd effaith ond os yw gofynion adran 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y maent yn gymwys).

Dehongli

5

Yn yr Atodlen hon—

(a)

ystyr “plant sy’n derbyn gofal” yw plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol fel y’u disgrifir yn adran 74(1) o Ddeddf 2014;

(b)

mae cyfeiriadau at y “cofrestr yn gyfeiriadau at y gofrestr a gynhelir o dan adran 38 o’r Ddeddf hon.”

(4)

Yn adran 45, ar ôl “adran 27 neu 37(2)(a)” mewnosoder “neu o dan baragraff 3(1) o Atodlen 1A”.‍