RHAN 3CYFFREDINOL

29Dod i rym

(1)

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

yn Rhan 1—

(i)

adrannau 1, 16, 21 a 22 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 3(b) o Atodlen 1);

(ii)

paragraffau‍ 2(1) a (6), 3(b), 5(1) a (4), 7(1), (3), (4), (14) a (15) o Atodlen 1;

(b)

yn Rhan 2, adrannau 23 a 26;

(c)

y Rhan hon.

(2)

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)

Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.