Rhagolygol
Yn Neddf 2016—
(a)yn adran 1, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)mae Pennod 2 hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar yr endidau a gaiff ddarparu gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu;”;
(b)ar ôl adran 2 mewnosoder—
(1)At ddibenion y Rhan hon, mae’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn yn “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad”—
(a)gwasanaeth cartref gofal i’r graddau y mae’r gwasanaeth yn wasanaeth cartref plant;
(b)gwasanaeth maethu;
(c)gwasanaeth llety diogel.
(2)At ddibenion is-adran (1), mae “gwasanaeth cartref plant” yn wasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn un neu ragor o fannau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo neu ynddynt.
(3)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad.”;
(c)yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 1(3) mewnosoder—
“(3A)Ond nid yw ysgol sy’n gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal yn rhinwedd is-baragraff (3) yn gyfystyr â gwasanaeth cartref plant oni bai—
(a)ei bod wedi darparu mwy o ddiwrnodau o lety i blant sy’n derbyn gofal nag i rai nad ydynt yn blant sy’n derbyn gofal am unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis blaenorol, neu
(b)ei bod yn bwriadu darparu mwy o ddiwrnodau o lety i blant sy’n derbyn gofal nag i rai nad ydynt yn blant sy’n derbyn gofal am unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis dilynol.
(3B)Yn is-baragraff (3A), ystyr “plant sy’n derbyn gofal yw plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol fel y’u disgrifir yn adran 74(1) o Ddeddf 2014.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)