RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

Gweithwyr gofal cymdeithasol: cofrestru ac addasrwydd i ymarfer

19Achosion addasrwydd i ymarfer: pwerau i estyn gorchmynion interim

(1)

Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i roi’r pŵer i banel sy’n gwrando ar achos gorchymyn interim i estyn gorchymyn interi‍m.

(2)

Yn adran 147 o Ddeddf 2016—

(a)

yn is-adran (1), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—“;

(f)

yn achos gorchymyn interim nad yw wedi cael ei estyn gan y tribiwnlys o dan adran 148, estyn y gorchymyn interim.”;

(b)

ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

“(2A)

Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(f) ond—

(a)

os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad yn bodloni un neu ragor o’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2), a

(b)

os nad yw’r estyniad yn arwain at y gorchymyn interim yn cael effaith am gyfnod o fwy na 18 mis.”;

(c)

yn is-adran (3), ar ôl “estyn” mewnosoder “gan banel o dan is-adran (1)(f) neu gan y tribiwnlys”;

(d)

yn is-adran (4), ar ôl paragraff (a)(i) mewnosoder—

“(ia)

gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan banel;”;

(e)

ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

“(5)

Ond nid yw is-adran (4)(a)(i) a (b)(i) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriad at orchymyn interim yn is-adran (1)(f).”