RHAN 1LL+CGOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2LL+CDIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

Rhagolygol

Gweithwyr gofal cymdeithasol: cofrestru ac addasrwydd i ymarferLL+C

18Ystyr gweithiwr gofal cymdeithasol: gweithwyr gofal plantLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i ychwanegu, at y rhestr o bersonau y gall Gweinidogion Cymru eu heithrio o’r diffiniad o “weithiwr gofal cymdeithasol” at ddibenion y Ddeddf, neu eu cynnwys yn y diffiniad hwnnw, bobl sy’n darparu goruchwyliaeth i blant (ond a all fod yn darparu gofal a chymorth neu beidio yn rhan o’u rôl).

(2)Yn adran 79 o Ddeddf 2016—

(a)yn is-adran (3)—

(i)ym mharagraffau (e) ac (f), yn lle “gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru” rhodder

(i)gofal a chymorth;

(ii)gofal plant,

i unrhyw berson yng Nghymru;

(ii)ar ôl paragraff (l) mewnosoder— ;

(m)person a gyflogir i ddarparu gofal plant gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) fel darparwr gofal dydd i blant;

(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Yn is-adran (3), ystyr “gofal plant yw gofal a goruchwyliaeth a ddarperir ar gyfer plant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)