RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

Gweithwyr gofal cymdeithasol: cofrestru ac addasrwydd i ymarfer

18Ystyr gweithiwr gofal cymdeithasol: gweithwyr gofal plant

(1)

Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i ychwanegu, at y rhestr o bersonau y gall Gweinidogion Cymru eu heithrio o’r diffiniad o “weithiwr gofal cymdeithasol” at ddibenion y Ddeddf, neu eu cynnwys yn y diffiniad hwnnw, bobl sy’n darparu goruchwyliaeth i blant (ond a all fod yn darparu gofal a chymorth neu beidio yn rhan o’u rôl).

(2)

Yn adran 79 o Ddeddf 2016—

(a)

yn is-adran (3)—

(i)

ym mharagraffau (e) ac (f), yn lle “gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru” rhodder “—

(i)

gofal a chymorth;

(ii)

gofal plant,

i unrhyw berson yng Nghymru”;

(ii)

ar ôl paragraff (l) mewnosoder—“;

(m)

person a gyflogir i ddarparu gofal plant gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) fel darparwr gofal dydd i blant”;

(b)

ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

“(3A)

Yn is-adran (3), ystyr “gofal plant yw gofal a goruchwyliaeth a ddarperir ar gyfer plant.”