(1)Daw’r adran hon ac adrannau 1, 16, 21, 22 a 24 a pharagraff 13(3)(b) o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 13(3)(b)) i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddeufis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)adrannau 2, 3, a 4 a Rhan 1 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(b)adran 5;
(c)adran 7;
(d)adran 8 a Rhan 2 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(e)adran 9 a Rhan 3 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(f)adran 13 a Rhan 6 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(g)adran 14 a Rhan 7 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(h)adran 17;
(i)adran 20.
(3)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Ebrill 2025—
(a)adrannau 10 ac 11 a Rhan 4 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(b)adran 6.
(4)Mae’r diwygiadau a wneir gan adran 6 yn cael effaith mewn perthynas â diwrnodau y codir swm ynglŷn â hwy sydd ar 1 Ebrill 2025 neu wedi hynny.
(5)Daw’r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-adran (6) i rym at y dibenion y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol, ond at bob diben arall deuant i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(6)Y darpariaethau a’r dibenion yw—
(a)adran 18(2)(c) at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 6(4C)(b)(ii) a (4D) o Ddeddf 1992 (fel y’i diwygiwyd);
(b)adran 18(5) at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 11E(1), (2)(b), (3), (5) a (7) ac 11F(1) a (7) o Ddeddf 1992 (fel y’i diwygiwyd).
(7)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(8)Caiff gorchymyn o dan is-adran (5) neu (7) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 mewn grym ar 17.9.2024, gweler a. 23(1)