RHAN 3CYFFREDINOL
23Dod i rym
(1)
Daw’r adran hon ac adrannau 1, 16, 21, 22 a 24 a pharagraff 13(3)(b) o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 13(3)(b)) i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddeufis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
adrannau 2, 3, a 4 a Rhan 1 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(b)
adran 5;
(c)
adran 7;
(d)
adran 8 a Rhan 2 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(e)
adran 9 a Rhan 3 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(f)
adran 13 a Rhan 6 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(g)
adran 14 a Rhan 7 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(h)
adran 17;
(i)
adran 20.
(3)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Ebrill 2025—
(a)
adrannau 10 ac 11 a Rhan 4 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen);
(b)
adran 6.
(4)
Mae’r diwygiadau a wneir gan adran 6 yn cael effaith mewn perthynas â diwrnodau y codir swm ynglŷn â hwy sydd ar 1 Ebrill 2025 neu wedi hynny.
(5)
Daw’r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-adran (6) i rym at y dibenion y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol, ond at bob diben arall deuant i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(6)
Y darpariaethau a’r dibenion yw—
(a)
adran 18(2)(c) at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 6(4C)(b)(ii) a (4D) o Ddeddf 1992 (fel y’i diwygiwyd);
(b)
adran 18(5) at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 11E(1), (2)(b), (3), (5) a (7) ac 11F(1) a (7) o Ddeddf 1992 (fel y’i diwygiwyd).
(7)
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(8)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (5) neu (7) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.