RHAN 3LL+CCYFFREDINOL

22Darpariaeth ganlyniadol a throsiannolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth o’r fath;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Mae rheoliadau o dan yr adran hon i’w gwneud drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad a gynhwysir mewn deddfwriaeth sylfaenol oni fo drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru, ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(6)Yn is-adran (4), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 mewn grym ar 17.9.2024, gweler a. 23(1)