RHAN 3CYFFREDINOL

22Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)

gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth o’r fath;

(b)

gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)

Mae rheoliadau o dan yr adran hon i’w gwneud drwy offeryn statudol.

(4)

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad a gynhwysir mewn deddfwriaeth sylfaenol oni fo drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru, ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(6)

Yn is-adran (4), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)

Deddf gan Senedd Cymru;

(b)

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.