1.Maeʼr Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)2024 a basiwyd gan Senedd Cymru ar 16 Gorffennaf 2024 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Medi 2024. Feʼu lluniwyd gan Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig er mwyn cynorthwyoʼr sawl syʼn darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd âʼr Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni. Os ymddengys nad oes angen rhoi unrhyw esboniad neu sylw ar ddarpariaeth yn y Ddeddf, nis rhoddir.
2.Yn y Ddeddf ceir tair Rhan ac Atodlen. Maeʼr Rhan gyntaf yn ymwneud ag ardrethu annomestig, maeʼr ail Ran yn ymwneud âʼr dreth gyngor ac maeʼr drydedd Ran yn cynnwys darpariaethau cyffredinol. Maeʼr Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
3.Mae adran 1 yn rhoi trosolwg oʼr adrannau yn Rhan 1.
4.Maeʼr adran hon yn mewnosod adran 41ZA (Rhestrau ardrethu lleol: Cymru) yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“
5.Cedwir y gofynion presennol ar y swyddog prisio i baratoi rhestrau arfaethedig a rhestrau wedi eu llunio. Rhaid iʼr awdurdod bilio gadw copi ar ffurf electronig oʼr rhestrau arfaethedig aʼr rhestrau wedi eu llunio. Maeʼr gofynion hyn wedi eu moderneiddio, gan ei bod yn ofynnol yn flaenorol i awdurdod bilio adneuo copi oʼr rhestr yn ei brif swyddfa.
6.Rhaid iʼr swyddog prisio gynnal rhestr a lunnir o dan adran 41ZA neu a lunnir ar y dyddiadau a grybwyllir yn adran 41ZA(11)(b) o Ddeddf 1988 cyhyd ag syʼn angenrheidiol at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1988. Y dyddiadau ywʼr rhai yr oedd yn ofynnol i restrau gael eu llunio arnynt o dan adran 41 o Ddeddf 1988 (fel yʼi haddaswyd gan adran 54A). Maeʼr cofnod hwn o ddyddiadau ailbrisio blaenorol yn sicrhau eglurder ynghylch y gofyniad parhaus i gynnal y rhestrau a luniwyd o dan adran 41 o Ddeddf 1988. Ni chyfeirir at restrau lleol a luniwyd ar 1 Ebrill 1995, gan fod y rhestrau a luniwyd ar 1 Ebrill 1996 yn aildrefnu rhestrau 1995 ac yn cael eu trin fel y rhestrau a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1995.
7.Maeʼr adran hon yn mewnosod adran 52ZA (Rhestrau ardrethu canolog Cymru) yn Neddf 1988. Mae adran 52ZA yn nodiʼr trefniadau ar gyfer llunio rhestrau ardrethu annomestig canolog, gan gadw effaith adran 52 o Ddeddf 1988 i raddau helaeth o ran Cymru. Maeʼn ei gwneud yn ofynnol iʼr rhestrau hynny gael eu llunio bob tair blynedd (yn hytrach na phob pum mlynedd). Felly, gan fod rhestr ganolog wedi ei llunio ddiwethaf ar 1 Ebrill 2023, bydd y rhestr nesaf yn cael ei llunio ar 1 Ebrill 2026 (yn hytrach nag ar 1 Ebrill 2028).
8.Cedwir y trefniadau presennol i’r swyddog prisio canolog baratoi rhestrau arfaethedig a rhestrau wedi eu llunio. Rhaid i Weinidogion Cymru gadw copi ar ffurf electronig oʼr rhestrau arfaethedig aʼr rhestrau wedi eu llunio. Maeʼr gofynion hyn wedi eu moderneiddio, gan ei bod yn ofynnol yn flaenorol i Weinidogion Cymru adneuo copi oʼr rhestr yn eu prif swyddfa.
9.Rhaid iʼr swyddog prisio canolog gynnal rhestr a luniwyd o dan adran 52ZA neu a luniwyd ar y dyddiadau a grybwyllir yn adran 52ZA(11)(b) o Ddeddf 1988, cyhyd ag syʼn angenrheidiol at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1988. Bwriad y cofnod o ddyddiadau ailbrisio blaenorol a ddarperir gan adran 52ZA(11)(b) o Ddeddf 1988 yw sicrhau eglurder ynghylch y gofyniad parhaus i gynnal y rhestrau a luniwyd o dan adran 52 o Ddeddf 1988. Yn wahanol i adran 41ZA(11)(b), cyfeirir at y rhestr yr oedd yn ofynnol ei llunio yn 1995 (ac nid yn 1996), gan nad oedd yn angenrheidiol llunio rhestr ganolog newydd yn 1996.
10.Maeʼr adran hon yn mewnosod adran 54AB (Pŵer i ddiwygioʼr flwyddyn ailbrisio: Cymru) yn Neddf 1988, gan roi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau syʼn diwygio blwyddyn ailbrisio aʼr cyfnod rhwng blynyddoedd ailbrisio. Rhaid llunio rhestrau ardrethu lleol a chanolog newydd ar 1 Ebrill mewn blwyddyn ailbrisio. Rhaid i reoliadau a wneir o dan y pŵer hwn nodiʼr un flwyddyn neuʼr un cyfnod mewn perthynas â rhestrau ardrethu lleol a chanolog, er mwyn sicrhau bod ailbrisiadauʼn parhau i ddigwydd ar yr un pryd. Ni chaniateir gwneud rheoliadau o’r fath oni bai bod drafft wedi cael ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi (gweithdrefn gadarnhaol ddrafft.)
11.Mae adran 58 o Ddeddf 1988 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi rheolau gwahanol ar gyfer cyfrifoʼr swm a godir yn ystod cyfnod perthnasol syʼn dechrau âʼr diwrnod y caiff rhestrau ardrethu newydd eu llunio. Maeʼr cyfnod perthnasol yn gyfnod o flynyddoedd syʼn adlewyrchuʼr cyfnod rhwng ailbrisiadau. Mae rheoliadau o dan y pŵer hwn wedi darparu ar gyfer rhyddhad trosiannol yn dilyn ailbrisiadau. Mae adran 54AB(3) o Ddeddf 1988 yn sicrhau, os caiff y cyfnod rhwng blynyddoedd ailbrisio ei ddiwygio, bod rhaid gwneud diwygiad fel bod y pŵer yn adran 58 yn gweithredu mewn perthynas âʼr un cyfnod.
12.Maeʼr adran hon yn diwygio Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988. Maeʼr Atodlenni hyn yn darparu ar gyfer cyfrifoʼr swm o ardrethu annomestig a godir am ddiwrnod y codir swm ynglŷn ag ef, mewn cysylltiad â hereditament, ac yn darparu ar gyfer cymhwyso rhyddhadau rhannol a rhyddhadau llawn rhag ardrethu annomestig. Mae Atodlen 4ZA yn gwneud y ddarpariaeth hon mewn perthynas â hereditamentau a feddiennir ar restr ardrethu leol, mae Atodlen 4ZB yn gwneud y ddarpariaeth hon mewn perthynas â hereditamentau heb eu meddiannu ar restr ardrethu leol, ac mae Atodlen 5A yn gwneud y ddarpariaeth hon mewn perthynas â hereditamentau ar restr ardrethu ganolog.
13.Mae is-adran (2) yn mewnosod Rhan 3A yn Atodlen 4ZA i Ddeddf 1988, mae is-adran (3) yn mewnosod Rhannau 2A a 2B yn Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988, ac mae is-adran (4) yn mewnosod Rhan 2A yn Atodlen 5A i Ddeddf 1988. Mae pob un oʼr Rhannau newydd hyn yn cynnwys pwerau cyfatebol i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau syʼn rhoi ac amrywio rhyddhadau, neuʼn eu tynnuʼn ôl, mewn cysylltiad âʼr hereditamentau y mae pob Atodlen yn gymwys iddynt. Ni chaniateir gwneud rheoliadau o’r fath oni bai bod drafft wedi cael ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi (gweithdrefn gadarnhaol ddrafft.)
14.Ym mhob achos, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer i ragnodi sawl rhyddhad rhannol (gweler paragraffau newydd 8A, 2A a 4A o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988, yn y drefn honno). Caiff pob rhyddhad rhannol fod yn gymwys pan fodlonir yr amodau a ragnodir yn y rheoliadau a rhaid eu gosod ar lefel a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau gan ddefnyddioʼr fformiwla “AxM/C – F”, lle y mae “F” yn dynodi swm y rhyddhad.
15.O dan y pwerau newydd hyn, caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud darpariaeth o ran cyfrifoʼr swm a godir mewn achosion pan fo mwy nag un rhyddhad a ragnodir yn y rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â hereditament. Caiff darpariaeth oʼr fath ei gwneud yn ofynnol i gyfrifoʼr swm a godir gan ystyried un neu ragor oʼr rhyddhadau cymwys.
16.Yn yr un modd, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer i ragnodi sawl rhyddhad llawn a chaiff rhyddhadau oʼr fath fod yn gymwys pan fodlonir yr amodau a ragnodir yn y rheoliadau (gweler paragraffau newydd 8B, 2B a 4B o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988, yn y drefn honno).
17.Mae Atodlenni 4ZA a 5A i Ddeddf 1988 yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion pan fo mwy nag un oʼr rhyddhadau a nodir ym mhob un oʼr Atodlenni hynny yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament. Maeʼr adran hon yn diwygioʼr darpariaethau hyn er mwyn cynnwys rhyddhadau llawn a rhannol a roddir o dan y pwerau newydd i wneud rheoliadau ac yn mewnosod Rhan newydd 2B syʼn gwneud darpariaeth gyfatebol yn Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988. Ym mhob achos, maeʼr adran hefyd yn mewnosod pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygioʼr ddarpariaeth bresennol hon neu wneud darpariaeth bellach drwy reoliadau.
18.Nid yw darpariaethau Atodlenni 4ZA a 5A i Ddeddf 1988 sy’n egluro pa baragraff i’w ddefnyddio i gyfrifo‘r swm a godir mewn achosion lle mae mwy nag un rhyddhad yn gymwys yn cyfeirio at baragraffau 3 o’r Atodlenni hynny yn eu tro, sy’n ymwneud â rhyddhad ardrethi gwelliannau. Mae hyn oherwydd y gall y rhyddhad hwnnw fod yn gymwys yn ychwanegol at unrhyw ryddhad arall a’i fod yn gweithredu mewn ffordd neilltuol, fel addasiad i werth ardrethol yr hereditament cyn cymhwyso’r lluosogydd ac unrhyw ryddhad arall. Caiff paragraffau 3 o Atodlenni 4ZA a 5A, felly, fod yn gymwys yn ychwanegol at unrhyw baragraff arall yn yr Atodlenni hynny, ac nid ydynt yn anghymhwyso, nac yn cael eu hanghymhwyso gan, unrhyw baragraff arall.
19.Caniateir hefyd i unrhyw ryddhadau a roddir drwyʼr rheoliadau gael eu hamrywio neu eu tynnuʼn ôl drwy reoliadau diwygio. Yn ychwanegol, maeʼr adran hon yn mewnosod pŵer newydd ym mhob un o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988 i Weinidogion Cymru i amrywio unrhyw un oʼr rhyddhadau a nodir yn yr Atodlenni hynny eu hunain, neu iʼw tynnuʼn ôl (gweler paragraffau newydd 8C, 2C a 4C o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988, yn y drefn honno).
20.Maeʼr adran hon yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988, syʼn rhagnodi achosion pan foʼr swm a godir am ddiwrnod y codir swm ynglŷn ag ef yn sero (rhyddhad llawn) ar gyfer hereditamentau heb eu meddiannu. Mae paragraff 2(2)(a) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 yn gyfyngedig i Loegr. Maeʼn rhagnodiʼr achos pan foʼr talwr ardrethi yn sefydliad elusennol ac yr ymddengys y bydd y defnydd nesaf oʼr hereditament yn gyfan gwbl neuʼn bennaf at ddibenion elusennol.
21.Mae is-adran (3) yn mewnosod paragraff 2(3) i (8) newydd yn Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988, gan ailddatgan, gyda diwygiadau, yr achosion a ragnodir ym mharagraff 2(2) o ran Cymru. Mae paragraff 2(3) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 yn rhagnodiʼr achos pan foʼr talwr ardrethi yn sefydliad elusennol ac mae’n cynnwys amodau ychwanegol ar gyfer rhyddhadau. Rhaid iʼr awdurdod bilio fod wedi ei fodloni mai rheswm yn ymwneud â dibenion elusennol yr elusen ywʼr rheswm pam nad ywʼr hereditament wedi ei feddiannu, ac y bydd defnydd nesaf yr hereditament yn gyfan gwbl neuʼn bennaf at ddibenion elusennol.
22.Mae paragraff 2(3)(c) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i elusen ddarparu iʼr awdurdod bilio gopi oʼi chyfrifon diweddaraf aʼi hadroddiad blynyddol diweddaraf, os ywʼn ofynnol paratoi un o dan adran 162(1) neu 168(3) o Ddeddf Elusennau 2011. Mae paragraffau 2(4), (5) a (7) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 yn darparuʼr diffiniad ar gyfer cyfrifon elusen, gan adlewyrchuʼr gofynion gwahanol a osodir ar gwmnïau elusennol, elusennau esempt ac unrhyw elusen arall, fel y’u nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.
23.Mae paragraff 2(2)(b) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 yn gyfyngedig i Loegr. Maeʼn rhagnodiʼr achos ar gyfer rhyddhad llawn pan oedd y talwr ardrethi yn glwb chwaraeon amatur cymunedol a phan foʼn ymddangos y bydd y defnydd nesaf oʼr hereditament yn gyfan gwbl neuʼn bennaf at ddibenion y clwb (neu ddau neu ragor o glybiau chwaraeon amatur cymunedol syʼn cynnwys y clwb hwnnw). Mae paragraff 2(8) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 yn ailddatgan y ddarpariaeth hon o ran Cymru, ond wedi ei diwygio er mwyn ei gwneud yn ofynnol iʼr awdurdod bilio fod wedi ei fodloni mewn cysylltiad âʼr defnydd nesaf oʼr hereditament. Ni fewnosodir unrhyw amodau ychwanegol mewn cysylltiad âʼr achos hwn.
24.Maeʼr adran hon yn ehanguʼr diffiniad o adeilad newydd, at ddiben cyflwyno hysbysiad cwblhau gan awdurdod bilio, drwy ddiwygio adran 46A o Ddeddf 1988. Mae adran 46A o Ddeddf 1988 ac Atodlen 4A iddi yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad cwblhau mewn cysylltiad ag adeilad newydd. Maeʼn nodiʼr diwrnod y mae adeilad newydd i gael ei drin fel pe bai wedi ei gwblhau, gydaʼr effaith y gellir wedi hynny ei ychwanegu at y rhestr ardrethu. Mewnosodir is-baragraff newydd (iv), yn adran 46A(6)(b) i gymhwysoʼr un weithdrefn i adeilad sydd wedi ei addasu ac sydd, er ei fod yn cynnwys hereditament neu wedi ei gynnwys mewn hereditament a ddangoswyd yn flaenorol mewn rhestr ardrethu, wedi ei dynnu oddi ar y rhestr. Bydd hyn yn gymwys i adeiladau syʼn methu dros dro â bod yn destun meddiannaeth lesiannol wrth iʼr addasiadau gael eu gwneud.
25.Maeʼr adran hon yn diwygio adran 47 o Ddeddf 1988, syʼn nodiʼr sefyllfaoedd lle y caiff awdurdodau bilio ddyfarnu ac amrywio rhyddhad yn ôl disgresiwn rhag ardrethu annomestig. Mae adran 47(7) o Ddeddf 1988, syʼn darparu na all awdurdod bilio wneud penderfyniad i ddyfarnu nac amrywio rhyddhad oʼr fath fwy na chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, yn cael ei hepgor. Mewnosodir adran newydd 47(6B), fel bod penderfyniad i ddyfarnu neu amrywio rhyddhad yn ôl disgresiwn mewn cysylltiad â hereditament yn benderfyniad annilys, o ran diwrnod, os ywʼr diwrnod yn digwydd cyn 31 Mawrth 2024 a bod y penderfyniad yn cael ei wneud fwy na chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y maeʼr diwrnod yn digwydd ynddi.
26.Yr effaith yw mai blwyddyn ariannol 2023-24 ywʼr flwyddyn olaf y bydd y cyfyngiad chwe mis presennol ar ddyfarnu rhyddhad yn ôl disgresiwn ar ôl iʼr flwyddyn ddod i ben yn gymwys. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i benderfynu dyfarnu neu amrywio rhyddhad yn ôl disgresiwn rhag y swm a godir fwy na chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y maeʼr penderfyniad yn ymwneud â hi, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2024-25 ymlaen.
27.Maeʼr adran hon yn diwygio Atodlen 5 i Ddeddf 1988, syʼn darparu ar gyfer esemptiadau rhag ardrethu annomestig. Mewnosodir paragraff newydd 20A newydd (Pwerau i roi ac amrywio esemptiad, aʼi dynnuʼn ôl: Cymru) yn Atodlen 5, sy’n darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi eithriadau newydd ac amrywio unrhyw eithriadau sydd yn yr Atodlen honno, neu eu tynnuʼn ôl. Ni chaniateir gwneud rheoliadau o’r fath oni bai bod drafft wedi cael ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi (gweithdrefn gadarnhaol ddrafft.)
28.Mae Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn darparu ar gyfer cyfrifo lluosyddion ardrethu annomestig o ran Cymru. Maeʼr adran hon yn mewnosod Rhan newydd sy’n ailddatgan y darpariaethau a oedd wedi eu cynnwys yn flaenorol yn Rhan 1 ynghyd â darpariaeth newydd syʼn caniatáu i Weinidogion Cymru osod lluosyddion gwahaniaethol drwy reoliadau. Mae adran 11 yn gwneud darpariaeth atodol.
29.Mae Rhan newydd A2 (Lluosyddion ardrethu annomestig: Cymru) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn cynnwys paragraffau A13 i A20. Maeʼr Rhan hon yn nodi fformiwlâu cyffredinol ar gyfer cyfrifoʼr lluosydd ardrethu annomestig o ran blynyddoedd ailbrisio a blynyddoedd eraill (gweler paragraffau A14 ac A15). Yn y ddau achos maeʼr lluosydd ardrethu annomestig yn parhau i fod yn gysylltiedig â’r mynegai prisiau defnyddwyr ond mae Gweinidogion Cymru yn cadwʼr pŵer i gysylltuʼr lluosydd â mynegai gwahanol neu newid cyfrifiad y lluosydd fel arall drwy reoliadau (gweler paragraff A18).
30.Pan fo rheoliadau a wneir o dan baragraff newydd A16 (Cyfrifo lluosyddion gwahaniaethol) yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament, mae lluosydd gwahaniaethol a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau yn gymwys mewn cysylltiad âʼr hereditament hwnnw. Rhaid i luosyddion oʼr fath fod yn gyfran oʼr lluosydd am y flwyddyn yn gyffredinol (fel yʼi cyfrifir o dan baragraff A14 neu A15, yn ôl y digwydd) ond cânt fod yn fwy na 100% oʼr lluosydd hwnnw. Caiff rheoliadau a wneir o dan baragraff A16 bennu lluosyddion gwahaniaethol gwahanol mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o hereditamentau ar y rhestrau lleol neu symiau gwahanol o werth ardrethol a ddangosir yn erbyn enwau personau dynodedig ar y rhestr ganolog. Ni chaniateir gwneud rheoliadau oʼr fath oni bai bod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru, aʼi gymeradwyo drwy benderfyniad (gweithdrefn gadarnhaol ddrafft).
31.Mae paragraff A17 yn cadw effaith rhyddhad ardrethi gwelliannau yn achos yr hereditamentau hynny y maeʼr rhyddhad hwn a lluosydd gwahaniaethol yn gymwys iddynt. Maeʼr paragraff hwn hefyd yn nodiʼr egwyddor maiʼr lluosydd a chanddoʼr gwerth isaf (o blith y rhai syʼn gymwys) sydd iʼw ddefnyddio ar gyfer cyfrifoʼr swm a godir ar gyfer yr hereditament, pan fo mwy nag un lluosydd gwahaniaethol yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament.
32.Mae paragraffau A18 i A20 yn ailddatgan y gofynion presennol a osodir ar Weinidogion Cymru o ran gwneud a rhoi hysbysiad o gyfrifiadauʼr lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer blwyddyn ariannol y codir swm ynglŷn â hi (cymhwysir y gofynion hyn hefyd i unrhyw luosyddion gwahaniaethol a ragnodir o dan baragraff A16).
33.Mae adran 11 yn diwygio darpariaethau yn Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988 er mwyn adlewyrchuʼr pwerau newydd i Weinidogion Cymru i osod lluosyddion gwahaniaethol (gweler adran 10) yn y fformiwlâu ar gyfer cyfrifoʼr swm a godir mewn perthynas â hereditamentau ar y rhestrau lleol a chanolog.
34.Maeʼr adran hon yn cymhwyso i Gymru, gyda diwygiadau, y dyletswyddau darparu gwybodaeth aʼr gyfundrefn gydymffurfio gysylltiedig a ddarperir gan baragraffau 4I i 4M, 5ZC i 5ZF a 5BD i 5BF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988. Maeʼr darpariaethau yn gosod dyletswyddau ar dalwyr ardrethi (neu bersonau a fyddaiʼn dalwyr ardrethi pe bai eu hereditamentauʼn cael eu dangos mewn rhestr ardrethu) i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, system o gosbau am fethu â chydymffurfio, a gweithdrefnau ar gyfer adolygu cosbau ac apelio yn eu herbyn.
35.Mae is-adrannau (2), (3) a (5) yn diwygio paragraffau 4I a 4M(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 er mwyn dileu geiriau syʼn cyfyngu effaith y darpariaethau i Loegr.
36.Mae paragraffau 4I i 4M o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodiʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy i Asiantaeth y Swyddfa Brisio:
Mae paragraff 4I yn darparu bod y dyletswyddauʼn gymwys i bersonau syʼn dalwyr ardrethi ar gyfer hereditament (neu a fyddaiʼn dalwyr ardrethi pe baiʼr hereditament yn cael ei ddangos mewn rhestr ardrethu). Mae hyn yn cynnwys y rhai syʼn derbyn rhyddhad o 100% rhag y swm a godir.
Mae paragraff 4J yn darparu dyletswydd ar y person hwnnw i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy o fewn cyfnod hysbysadwy. Mae gwybodaeth yn hysbysadwy os ywʼn ymwneud â hunaniaeth y talwr ardrethi (neuʼr sawl a fyddaiʼn dalwr ardrethi), neu fodolaeth, maint neu werth ardrethol yr hereditament, ond dim ond pe gellid disgwyl yn rhesymol iʼr person hwnnw wybod y byddai hynnyʼn cynorthwyo Asiantaeth y Swyddfa Brisio i gyflawni ei swyddogaethau. Y cyfnod hysbysadwy ywʼr cyfnod o fewn 60 o ddiwrnodau iʼr newid mewn gwybodaeth hysbysadwy, neu unrhyw gyfnod hirach y gellir ei bennu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn hysbysiad. Mae is-adran (4) yn diwygio paragraff 4J(4) i ddarparu, mewn perthynas â hereditament yng Nghymru, y caniateir iʼr cyfnod hysbysadwy hefyd fod yn unrhyw gyfnod hirach a gytunir gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bydd hyn yn caniatáu i berson ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio roi estyniad iʼr cyfnod hysbysadwy.
Mae paragraff 4K yn datgan bod rhaid iʼr person baratoi cadarnhad blynyddol, o fewn 60 o ddiwrnodau syʼn dechrau ar 30 Ebrill bob blwyddyn, ei fod naill ai wedi darparu gwybodaeth hysbysadwy neu nad oedd yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth oʼr fath.
Mae paragraff 4L yn darparu iʼr wybodaeth gael ei chyflwyno gan ddefnyddio cyfleuster ar-lein a ddarperir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu mewn modd arall y cytunir arno.
Mae paragraff 4M yn ailddatgan pwerau presennol ym mharagraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988, syʼn caniatáu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd ofyn am wybodaeth a fydd yn ei barn hithau yn ei chynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau. Efallai y bydd angen i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ofyn am wybodaeth o hyd gan ddefnyddioʼr pŵer hwn, gan gynnwys ar gyfer eiddo arbenigol a mathau penodol iawn o wybodaeth.
37.Mae is-adrannau (7) ac (8) yn diwygio paragraffau 5A(1) a 5C(2), yn y drefn honno, o Atodlen 9 i Ddeddf 1988, i estyn y dyddiad cau i dalwyr ardrethi ymateb i hysbysiad gwybodaeth a ddyroddir gan awdurdodau bilio (o 56 i 60 o ddiwrnodau) ac apelio yn erbyn hysbysiad cosb am fethu â chydymffurfio (o 28 i 30 o ddiwrnodau). Maeʼr newidiadau hyn yn cynnal amserlenni cyson ar gyfer darparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio aʼr awdurdodau bilio.
38.Mae paragraffau 5ZC i 5ZF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodi system o gosbau am fethiannau i gydymffurfio âʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy:
Mae paragraff 5ZC yn darparu ar gyfer y canlynol:
Cosb sifil pan fo person yn methu â chydymffurfio âʼr dyletswyddau. Pennir y gosb o dan baragraff 5ZD(1).
Trosedd pan fo person yn gwneud datganiad ffug yn fwriadol neuʼn ddi-hid wrth honni ei fod yn cydymffurfio âʼr dyletswyddau. Mae person yn agored ar euogfarn ddiannod i garchar am gyfnod nad ywʼn fwy na 3 mis neu i ddirwy nad ywʼn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol neu iʼr ddau. Er mwyn gosod atebolrwydd troseddol, maeʼr prawf arferol yn gymwys; rhaid iddi fod y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y drosedd wedi ei chyflawni. Fel arall, gellir dal y person yn atebol am gosb sifil am wneud datganiad ffug oʼr un natur (er bod rhaid iddi fod y tu hwnt i amheuaeth resymol o hyd bod y drosedd wedi ei chyflawni). Pennir y gosb sifil o dan baragraff 5ZD(2).
Y trefniadau ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cosb, a chynnwys yr hysbysiadau hynny, pan fo person yn atebol am gosb sifil. Rhaid talu cosb o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad cosb (oni bai bod y cyfnod hwn yn cael ei estyn gan yr amser a gymerir i gwblhau unrhyw adolygiad neu apêl). Os cyflwynir hysbysiad cosb sifil i berson mewn cysylltiad â gwneud datganiad ffug yn fwriadol neuʼn ddi-hid, ni chaniateir cychwyn achos troseddol am yr un drosedd cyn y dyddiad cau ar gyfer taluʼr gosb. Os caiff yr atebolrwydd hwnnw ei ryddhau, yna ni all unrhyw achos troseddol nac euogfarn ddilyn ac ni ellir cyflwyno hysbysiad cosb arall, mewn perthynas â gwneud y datganiad ffug yn fwriadol neuʼn ddi-hid. Os yw person yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd syʼn codi o hysbysiad cosb am fethu â chydymffurfio âʼr dyletswyddau hysbysu ac wedi hynny yn cael ei euogfarnu o drosedd neu yn cael hysbysiad cosb arall wedi ei gyflwyno iddo mewn cysylltiad â datganiad ffug, yna rhaid iʼr ddedfryd neu swm y gosb adlewyrchu swm y gosb a ryddhawyd eisoes.
Mae paragraff 5ZD yn darparu ar gyfer lefel cosb sifil:
Pan foʼr person wedi methu â chydymffurfio â gofyniad hysbysu, y gosb uchaf yw 2% oʼr gwerth ardrethol perthnasol neu £900, pa un bynnag ywʼr mwyaf.
Pan foʼr person wedi gwneud datganiad ffug yn fwriadol neuʼn ddi-hid wrth honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad hysbysu, y gosb uchaf yw cyfanswm 3% oʼr gwerth ardrethol perthnasol a £500.
Pan foʼr person yn atebol am fethu â chydymffurfio â gofyniad hysbysu, byddaiʼn agored i gosb bellach o £60 y dydd pe baiʼn methu â chydymffurfio âʼr gofyniad o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad cosb cysylltiedig. Ni chaiff cyfanswm yr atebolrwydd am gosbau dyddiol pellach fod yn fwy na £1,800.
Mae paragraff 5ZE yn darparu ar gyfer pennu gwerthoedd ardrethol, at ddibenion cyfrifo cosbau pan fo mater syʼn effeithio ar y gwerth ardrethol wedi newid rhwng y diwrnod y dylaiʼr wybodaeth hysbysadwy fod wedi ei darparu a diwrnod yr hysbysiad cosb. Maeʼr darpariaethau hyn yn sicrhau nad ywʼr gosb yn cael ei chynyddu naʼi lleihau oherwydd newidiadau iʼr hereditament ar ôl iʼr atebolrwydd iʼr gosb godi gyntaf.
Mae paragraff 5ZF yn darparu y caiff y swyddog prisio liniaru neu ddileu unrhyw un oʼr cosbau uchod. Bydd hyn yn caniatáu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio weithreduʼr dyletswyddau aʼr cosbau yn deg a chyda sylw dyladwy i amgylchiadau unigol.
39.Mae paragraffau 5BD i 5BF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodiʼr gweithdrefnau ar gyfer adolygu ac apelio yn erbyn cosbau am fethu â chydymffurfio âʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy:
Mae paragraff 5BD yn rhoi 30 o ddiwrnodau i berson i ofyn am adolygiad o hysbysiad cosb. Maeʼr adolygiad yn cael ei wneud gan swyddog adolygu o Asiantaeth y Swyddfa Brisio, syʼn swyddog gwahanol iʼr un a osododd y gosb. Mae natur a maint yr adolygiad yn unol âʼr hyn a ymddengys yn briodol iʼr swyddog adolygu. Rhaid cwblhauʼr adolygiad o fewn 45 o ddiwrnodau, neu fel arall trinnir y gosb fel pe bai wedi ei chadarnhau.
Mae paragraff 5BE yn darparu ar gyfer yr hawl i apelio iʼr tribiwnlys prisio yn erbyn casgliadauʼr adolygiad, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr hysbysiad (neuʼr hysbysiad tybiedig) ynghylch casgliadauʼr adolygiad.
Mae paragraff 5BF yn estyn y cyfnod ar gyfer talu cosb ac yn darparu nad yw achosion o adolygiad neu apêl yn atal rhoi cosb arall, pan foʼr person yn parhau i fethu â chydymffurfio âʼr gofyniad hysbysu. Mae hefyd yn sicrhau y byddai adolygiad neu apêl yn ystyried unrhyw gosb ddyddiol a osodir o dan baragraff 5ZD(3) yn ychwanegol at y gosb a osodir o dan baragraff 5ZC(1).
40.Mae is-adran (6) yn mewnosod is-baragraff newydd (4A) ym mharagraff 5ZC o Ddeddf 1988, i ddarparu bod rhaid i hysbysiad cosb a gyflwynir mewn perthynas â hereditament yng Nghymru gynnwys esboniad o effaith paragraff 5BD(9). O ganlyniad, bydd yr hysbysiad yn egluro y dylid trin y gosb fel pe bai wedi ei chadarnhau, pe baiʼr person yn gofyn am adolygiad, os nad ywʼr swyddog adolygu wedi rhoi hysbysiad oʼi benderfyniad o fewn 45 o ddiwrnodau. Bwriad hyn yw sicrhau ei bod yn eglur i’r person pryd y bydd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau, y caniateir apelio yn erbyn yr hysbysiad cosb yn ystod y cyfnod hwnnw, yn dechrau.
41.Maeʼr adran hon yn mewnosod adrannau 63F i 63M (Gwrthweithio osgoi trethi: Cymru) yn Neddf 1988. Maent yn gwneud darpariaeth ynghylch gwrthweithio manteision syʼn deillio o drefniadau artiffisial i osgoi atebolrwydd am dalu ardrethi annomestig.
42.At ddibenion adrannau 63F i 63M, mae i drefniant artiffisial i osgoi ardrethu annomestig yr ystyr a roddir yn adrannau 63F i 63H.
43.O ran y cysyniad allweddol o artiffisial (“artificial”), mae adran 63H o Ddeddf 1988 yn darparu bod trefniant yn artiffisial os yw o fath sy’n cael ei bennu gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (a, phan fo Gweinidogion wedi gwneud darpariaeth ar gyfer hyn o dan is-adran (3), na phennwyd i’r gwrthwyneb). Dim ond os na fyddai gwneud trefniant o’r fath yn gam rhesymol mewn perthynas â darpariaethau deddfwriaethol ar gyfer ardrethu annomestig, ar ôl ystyried yn benodol y materion a restrir ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o is-adran (2), y caiff Gweinidogion Cymru bennu bod math o drefniant yn artiffisial. Mae’r materion hyn yn ymdrin â thechnegau sydd wedi eu cynllunio i fanteisio ar ‘fylchau’ canfyddedig yn y ddeddfwriaeth i sicrhauʼr fantais.
44.Bydd rheoliadau a wneir o dan adran 63H(1)(a) o Ddeddf 1988 yn disgrifio’r technegau neu’r ymddygiadau osgoi penodol y bydd y broses a nodir yn yr adrannau canlynol yn mynd i’r afael â hwy. Caiff y rheoliadau hefyd (gweler adran 63H(3)), ddarparu nad yw trefniant penodedig yn artiffisial mewn achos penodol os gwneir penderfyniad i’r perwyl hwnnw gan yr awdurdod bilio perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), wedi ystyried yr holl amgylchiadau. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru, pan fyddant yn gwneud y rheoliadau, i nodi mathau o drefniant y mae’n bosibl nad ydynt yn artiffisial ym mhob achos ac, ar gyfer y mathau hynny o drefniant, i roi disgresiwn i awdurdodau bilio (neu Weinidogion Cymru yn ôl y digwydd) i benderfynu, yn yr amgylchiadau penodol, nad yw’r math hwnnw o drefniant yn artiffisial.
45.Mae adrannau 63I (Atebolrwydd am ardrethi annomestig: rhestrau lleol) a 63J (Atebolrwydd am ardrethi annomestig: rhestrau canolog) yn darparu ar gyfer cymhwysoʼr darpariaethau gwrthweithio osgoi gan awdurdodau bilio a Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â hereditamentau a ddangosir mewn rhestr ardrethu leol neu ganolog, yn y drefn honno. Pan fo trefniant artiffisial i osgoi wedi ei wneud mewn perthynas â hereditament, rhaid iʼr awdurdod bilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) drin y talwr ardrethi (neu berson arall os mai’r person hwnnw a fyddai wedi bod y talwr ardrethi yn absenoldeb y trefniant) fel pe bai’n atebol am dalu’r swm a godir a fyddai wedi bod yn gymwys iʼr hereditament yn absenoldeb y trefniant. Mae hyn yn cael yr effaith, pan fo ymddygiad osgoi penodedig yn parhau ar ôl i reoliadau gael eu gwneud, y bydd yn ofynnol iʼr person daluʼr diffyg mewn atebolrwydd ers yr hwyraf o’r canlynol: y diwrnod y gwneir y trefniant; y diwrnod y dawʼr rheoliadau i rym; neu ddiwrnod a bennir yn y rheoliadau.
46.Mae adran 63K (Atebolrwydd am ardrethu annomestig: hysbysu) o Ddeddf 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod bilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) gyflwyno hysbysiad iʼr person sydd i gael ei drin fel pe baiʼn atebol pan fo trefniant osgoi trethi artiffisial wedi ei nodi, ac yn galluogi’r person i ofyn i’r hysbysiad gael ei adolygu. Bydd yr awdurdod bilio (neu Weinidogion Cymru) naill ai’n cadarnhau’r hysbysiad neu’n ei dynnu’n ôl (os tynnir yr hysbysiad yn ôl ystyrir nad yw’r trefniant a oedd yn destun yr hysbysiad yn drefniant artiffisial i osgoi ardrethi annomestig).
47.Mae adran 63L (Apelau iʼr tribiwnlys prisio) yn galluogi person i apelio yn erbyn hysbysiad a gadarnheir yn dilyn adolygiad. Caiff y tribiwnlys gadarnhauʼr hysbysiad neu ofyn iddo gael ei dynnuʼn ôl.
48.Mae adran 63M (Cosbau) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau’n darparu ar gyfer gosod cosb ariannol pan fo person yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n atebol am dalu ardreth ym methu â thalu swm sy’n ddyledus.
49.Maeʼr adran hon yn mewnosod adran newydd 143A (Gorchmynion a rheoliadau Gweinidogion Cymru) yn Neddf 1988. Mae adran 143A yn ailddatgan adran 143 o Ddeddf 1988, i nodi sut y mae pwerau a roddir i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf 1988 i gael eu harfer aʼr weithdrefn berthnasol sydd iʼw dilyn.
50.Bydd pwerau a roddir i unrhyw bersonau eraill i wneud is-ddeddfwriaeth a all fod yn gymwys i Gymru yn parhau i gael eu harfer yn unol ag adran 143 o Ddeddf 1988. Maeʼr rhain yn cynnwys, er enghraifft, y pwerau a roddwyd i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi gan baragraffau 4F(2), 4G, 5F(1A) a 5FA(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 1988, mewn perthynas âʼr gofynion darparu gwybodaeth perthnasol.
51.Maeʼr adran hon yn cyflwynoʼr Atodlen, syʼn gwneud newidiadau canlyniadol ar adrannau 2, 3, 4, 8, 9, 10, 12, 13 a 14.
52.Mae Rhan 1 (paragraffau 1 i 5) oʼr Atodlen yn gwneud diwygiadau syʼn ymwneud ag adrannau 2 i 4 (Rhestrau ardrethu). Mae paragraff 1 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1988. Mae nifer oʼr diwygiadau yn newid cyfeiriadau at “Secretary of State” yn “appropriate national authority”, pan foʼr ddarpariaeth berthnasol yn gymwys i Gymru a Lloegr. Pan fo darpariaethauʼn gymwys i Gymru yn unig, mae cyfeiriadau at “Secretary of State” yn cael eu newid yn “Welsh Ministers”. Maeʼr diwygiadau hyn yn adlewyrchuʼr trosglwyddiad swyddogaethau a gafodd effaith yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae adran newydd 67(12A) o Ddeddf 1988 yn diffinio “the appropriate national authority”, gan ailddatgan y diffiniadau (syʼn cael eu hepgor) o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A.
53.Mae paragraff 1(2) ac (8) yn hepgor adrannau 41A a 54A o Ddeddf 1988. Maeʼr adrannau hyn wedi eu disbyddu a rhoddir cyfrif am eu heffeithiau mewn darpariaethau a gyflwynir gan y Ddeddf hon.
54.Mae paragraff 1(9)(a) yn ailddatgan adran 55(1) o Ddeddf 1988 o ran Cymru drwy fewnosod adran newydd 55(1A). Maeʼr ailddatganiad yn ystyried y darpariaethau a gyflwynir gan y Ddeddf hon.
55.Mae paragraff 1(9)(c) a (d) yn diwygio adran 55(7A) o Ddeddf 1988 fel ei bod yn gymwys o ran Lloegr yn unig ac yn ailddatgan ei heffaith o ran Cymru yn adran newydd 55(7AA). Maeʼr ailddatganiad yn ystyried y darpariaethau a gyflwynir gan y Ddeddf hon.
56.Mae paragraff 1(10)(d) yn diwygio adran 58(10)(a) o Ddeddf 1988 i adlewyrchuʼr newid yn y cyfnod rhwng blynyddoedd ailbrisio a ddarperir gan y Ddeddf hon.
57.Mae paragraff 1(23)(c) yn diwygio paragraff 8 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel ei fod yn gymwys o ran Lloegr yn unig. Mae paragraff 1(23)(d) yn mewnosod paragraff newydd 8A yn Atodlen 9, syʼn ailddatgan paragraff 8 o ran Cymru, gan ystyried y darpariaethau a gyflwynir gan y Ddeddf hon.
58.Mae paragraff 2 yn hepgor adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a pharagraffau 84 a 86 o Atodlen 16 iddi, a oedd yn mewnosod adran 41A o Ddeddf 1988 (a hepgorir gan y Ddeddf hon) a diwygiadau canlyniadol ar yr adran honno, yn y drefn honno.
59.Mae paragraff 3 yn diwygio adran 30(2) o Ddeddf Taliadau Atodol Ardrethi Busnes 2009 i gynnwys cyfeiriad at restrau ardrethu annomestig lleol ar gyfer Cymru a lunnir o dan adran 41ZA(1) newydd o Ddeddf 1988.
60.Mae paragraff 4 yn hepgor adran 30 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013, a oedd yn mewnosod adran 54A o Ddeddf 1988 (a hepgorir gan y Ddeddf hon).
61.Mae paragraff 5 yn hepgor adran 1(4) o Ddeddf Ardrethu Annomestig (Rhestrau) 2021, a oedd yn diwygio adran 54A o Ddeddf 1988 (a hepgorir gan y Ddeddf hon).
62.Mae Rhan 2 (paragraffau 6 a 7) oʼr Atodlen yn gwneud diwygiadau syʼn ymwneud ag adran 8 (Rhyddhad yn ôl disgresiwn: terfyn amser). Mae paragraff 6 yn hepgor paragraff 23 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997, gan fod y diwygiad i Ddeddf 1988 yr oedd yn darparu ar ei gyfer wedi ei hepgor gan y Ddeddf hon. Mae paragraff 7 yn hepgor adran 4(3) o Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023, gan fod yr adran o Ddeddf 1988 yr oedd yn ei diwygio o ran Cymru wedi ei hepgor gan y Ddeddf hon.
63.Mae Rhan 3 (paragraff 8) oʼr Atodlen yn gwneud diwygiadau syʼn ymwneud ag adran 9 (Pwerau i roi ac amrywio esemptiad, a’i dynnuʼn ôl). Mae paragraff 8 yn diwygio paragraff 20 o Atodlen 5 i Ddeddf 1988 fel ei fod yn gymwys o ran Lloegr yn unig.
64.Mae Rhan 4 (paragraffau 9 i 12) oʼr Atodlen yn gwneud diwygiadau syʼn ymwneud ag adran 10 (Cyfrifo lluosyddion ardrethu annomestig). Mae paragraffau 9(2) i (4) yn diwygio darpariaethau penodedig o fewn Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988 fel eu bod yn gymwys o ran Lloegr yn unig, gan fod y Ddeddf hon yn ailddatgan darpariaethau cyfatebol ar gyfer Cymru. Mae paragraff 9(5) yn hepgor Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, gan ei bod yn cael ei hailddatgan gan y Ddeddf hon.
65.Mae paragraff 10 yn hepgor adran 62(2) i (10) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, a oedd yn diwygio darpariaethau yn Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 sy’n cael eu hepgor gan y Ddeddf hon.
66.Mae paragraff 11 yn hepgor adran 154(2) a (3)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd adran 154(2) yn diwygio darpariaethau yn Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 sy’n cael eu hepgor gan y Ddeddf hon. Mewnosododd adran 154(3)(a) gyfeiriad at Weinidogion Cymru yn adran 143(2) o Ddeddf 1988, ac mae’r cyfeiriad hwnnw yn cael ei ddileu gan y Ddeddf hon.
67.Mae paragraff 12 yn hepgor adran 15(3) a (4) o Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023, a oedd yn diwygio darpariaethau yn Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 sy’n cael eu hepgor gan y Ddeddf hon.
68.Mae Rhan 5 (paragraffau 13 i 17) oʼr Atodlen yn gwneud diwygiadau syʼn ymwneud ag adran 12 (Yr wybodaeth iʼw darparu i’r swyddog prisio). Mae paragraff 13(2)(a), (b), (d) i (f), a (i) i (k) yn diwygio paragraffau 5, 5A, 5B, 5C a 5D o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 o ran darparu gwybodaeth i swyddogion prisio, er mwyn hepgor hynny oʼu cwmpas. Maeʼr paragraffau diwygiedig yn parhau i ymdrin â darparu gwybodaeth i awdurdod bilio yng Nghymru aʼr gyfundrefn gosbi gysylltiedig.
69.Mae paragraff 13(2)(c) a (g) yn diwygio’r penawdau o flaen paragraffau 5ZC a 5BD o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 er mwyn dangos bod y gofynion i ddarparu gwybodaeth i swyddogion prisio, aʼr gyfundrefn gydymffurfio gysylltiedig, yn gymwys i Gymru.
70.Mae paragraff 13(2)(h) yn amnewid paragraff 5BE(4) o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 i gynnwys cyfeiriad syʼn gymwys i Gymru yn y diffiniad o “valuation tribunal”, mewn cysylltiad ag apelau yn erbyn hysbysiad cosb am fethu â chydymffurfio âʼr gofynion i ddarparu gwybodaeth i swyddogion prisio.
71.Mae paragraff 13(2)(l) yn diwygio paragraff 5E(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel ei fod yn gymwys o ran Lloegr yn unig, ac yn mewnosod paragraff newydd 5E(1A) o ran Cymru. Mae hyn yn darparu bod unrhyw symiau a dderbynnir gan swyddog prisio drwy gosb o dan y gofynion darparu gwybodaeth o ran Cymru yn cael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru.
72.Mae paragraff 13(2)(o) yn diwygio paragraff 5H o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel nad ywʼn cyfeirio ond at baragraffau syʼn berthnasol i ddarparu gwybodaeth i Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (gan gynnwys swyddog prisio). Mae cyfeiriadau at baragraffau 5 a 5A, a ddiwygir gan y Ddeddf hon fel nad ydynt ond yn ymdrin â darparu gwybodaeth i awdurdodau bilio yng Nghymru, yn cael eu heithrio.
73.Mae paragraff 13(3)(a) yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 11 i Ddeddf 1988 i gynnwys paragraffau 5BB a 5BE o Atodlen 9 o fewn awdurdodaeth tribiwnlysoedd prisio yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau y gall Tribiwnlys Prisio Cymru ymdrin ag apelau yn erbyn hysbysiadau cosb am fethu â chydymffurfio âʼr gofynion i ddarparu gwybodaeth i swyddogion prisio a swyddogion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a gymhwysir i Gymru gan y Ddeddf hon.
74.Mae paragraff 13(3)(b) ac (c) yn mewnosod paragraff newydd 11(1A) yn Atodlen 11 i Ddeddf 1988 er mwyn caniatáu i reoliadau bennu y caniateir gwneud apêl i’r Uwch Dribiwnlys yn dilyn penderfyniad neu orchymyn gan dribiwnlys prisio ynglŷn ag apêl o dan baragraff 5BB, 5BE, 5C neu 6AA o Atodlen 9 i Ddeddf 1988. Mae’r paragraffau hynny yn ymwneud â chydymffurfio â dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi ac awdurdodau lleol.
75.Mae paragraff 14 yn hepgor paragraff 46 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a oedd yn diwygio darpariaethau ym mharagraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 a hepgorir gan y Ddeddf hon.
76.Mae paragraff 15 yn hepgor adran 72(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, a oedd yn diwygio darpariaethau ym mharagraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 a hepgorir gan y Ddeddf hon.
77.Mae paragraff 16 yn hepgor adran 151(2)(a), (c) ac (e), (3)(b)(i) a (6) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a oedd yn diwygio darpariaethau ym mharagraffau 5, 5A a 5D(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 a ddiwygir ymhellach neu a hepgorir gan y Ddeddf hon.
78.Mae paragraff 17 yn hepgor paragraffau 42, 48 a 53(b) oʼr Atodlen i Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023, a oedd yn diwygio darpariaethau yn Atodlen 9 i Ddeddf 1988 a hepgorir neu a ddiwygir ymhellach gan y Ddeddf hon.
79.Mae Rhan 6 (paragraff 18) oʼr Atodlen yn gwneud diwygiadau syʼn ymwneud ag adran 13 (Trefniadau artiffisial i osgoi ardrethu annomestig). Mae paragraff 18(2)(a) yn mewnosod is-baragraff (ba) ym mharagraff 2 o Atodlen 11 i Ddeddf 1988, i gynnwys apelau o dan adran 63L o fewn awdurdodaeth unrhyw dribiwnlys a sefydlir o ran Cymru drwy reoliadau a wneir o dan baragraff 1 oʼr Atodlen honno. Mae paragraff 18(2)(b) yn mewnosod cyfeiriad at adran 63L o Ddeddf 1988 ym mharagraff 11(1A) o Atodlen 11 i Ddeddf 1988 (fel y’i mewnosodir gan baragraff 13(3)(b) o’r Atodlen i’r Ddeddf hon), er mwyn caniatáu i reoliadau bennu y caniateir gwneud apêl i’r Uwch Dribiwnlys yn dilyn penderfyniad neu orchymyn gan dribiwnlys prisio ynglŷn ag apêl o dan adran 63L.
80.Mae Rhan 7 (paragraffau 19 i 21) oʼr Atodlen yn gwneud diwygiadau syʼn ymwneud ag adran 14 (Gorchmynion a rheoliadau o dan Ddeddf 1988). Mae paragraff 15 yn diwygio Deddf 1988 mewn sawl man i gynnwys neu amnewid cyfeiriadau at bwerau Gweinidogion Cymru o dan adran newydd 143A, a fewnosodir gan y Ddeddf hon. Diwygir adran 143 o Ddeddf 1988 fel nad ywʼn ymdrin ond â phwerau nad ydynt yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru, gan gynnwys y rhai y gellir eu harfer o ran Cymru.
81.Mae paragraff 20 yn hepgor adran 84(4)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a wnaeth ddiwygiad i adran 143(3) o Ddeddf 1988 syʼn cael ei wrthweithio gan y Ddeddf hon.
82.Mae paragraff 21 yn hepgor adrannau 151(10) a 152(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a oedd yn mewnosod adran 143(9AZA) a (9AB) (a hepgorir gan y Ddeddf hon).
83.Maeʼr adran hon yn rhoi trosolwg oʼr adrannau yn Rhan 2.
84.Maeʼr adran hon yn diwygio adran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“
85.Cyn y diwygiad, mae ystyr y llythyren “D” yn y ddwy fformiwla wedi ei osod fel y gyfran ar gyfer Band D.
86.Ar ôl y diwygiad, mae is-adran newydd (4B) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i newid y band prisio y cyfeirir ato yn yr ystyr a roddir i “D” gan adrannau 36 a 47. Mae is-adran newydd (4B) hefyd yn ailddatgan, ar gyfer Gweinidogion Cymru, y pwerau presennol o dan is-adran (4) i amnewid cyfran arall mewn perthynas ag is-adran (1A), a bandiau prisio eraill mewn perthynas ag is-adran (3) (syʼn cynnwys y rhestr o fandiau prisio ar gyfer anheddau yng Nghymru). Ac mae is-adran newydd (4C) yn ailadrodd, ar gyfer is-adran newydd (4B), yr eglurhad cyfatebol, mewn cysylltiad ag is-adran (4)(b), yn is-adran (4A).
87.Maeʼr adran hon yn datgymhwyso darpariaethau presennol yn Neddf 1992 ynghylch disgowntiau i’r dreth gyngor mewn perthynas ag anheddau trethadwy yng Nghymru, ac mae’n mewnosod darpariaeth newydd ynghylch disgowntiau o’r fath sy’n gymwys o ran Cymru yn unig.
88.Mae adrannau 6 a 9 o Ddeddf 1992 yn cynnwys darpariaeth ynghylch atebolrwydd am dalu’r dreth gyngor o dan wahanol amgylchiadau. Mae adran 18(2) a (3) yn diwygio’r adrannau hyn i’r graddau y maent yn darparu ar gyfer diystyru personau penodol at ddibenion penderfynu pwy sy’n atebol pan fyddai’r personau hynny fel arall yn atebol ar y cyd ac yn unigol. O dan adrannau 6 a 9 fel y’u diwygir gan adran (18)(2) a (3), diystyrir personau at y dibenion hyn os ydynt yn cael eu diystyru at ddibenion disgownt mewn perthynas ag annedd yng Nghymru o dan adran newydd 11E(5) (gweler isod) ac os ydynt yn cael eu cynnwys mewn disgrifiad a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Mae adran 18(4) yn diwygio adran 11 o Ddeddf 1992 fel ei bod yn parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr yn unig, ac mae adran 18(5) yn mewnosod adran 11E newydd sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer disgowntiau mewn perthynas â Chymru.
89.Mae adran 11E(1) yn darparu pwerau ar gyfer Gweinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau swm y disgownt y gall annedd drethadwy fod yn ddarostyngedig iddo (neu’r dull ar gyfer cyfrifo’r swm hwnnw) pan fo naill ai’r meini prawf a nodir yn adran 11E(2), neu feini prawf eraill a nodir gan reoliadau o dan 11E(3), yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r annedd honno. Mae adran 11E(4) yn egluro y caiff y rheoliadau o dan adran 11E(1) ragnodi swm gwahanol o ddisgownt (neu ddarpariaeth wahanol ar gyfer cyfrifo swm disgownt) mewn perthynas â meini prawf gwahanol. Mae hefyd yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud darpariaeth ynghylch swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn perthynas ag annedd y mae mwy nag un disgownt yn gymwys mewn cysylltiad â hi.
90.Mae’r meini prawf a nodir yn adran 11E(2)(a) yn cyfateb i’r rhai a nodir yn adran 11(1) a (2)(b) o Ddeddf 1992, ond mae adran 11E(2)(b) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu drwy reoliadau ar gyfer amodau neu feini prawf eraill y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i swm y dreth gyngor syʼn daladwy ar annedd drethadwy fod yn ddarostyngedig i ddisgownt o dan adran 11E(1). Mae adran 11E(6) yn darparu y caniateir rhagnodi’r amodau neu’r meini prawf hyn, a hefyd unrhyw amodau neu feini prawf a ragnodir o dan adran 11E(3), drwy gyfeirio at:
y math o anheddau neu eu nodweddion ffisegol, neu faterion eraill sy’n ymwneud ag anheddau;
amgylchiadau unrhyw berson sy’n atebol am dalu swm y dreth gyngor dan sylw, neu faterion eraill sy’n ymwneud â’r person hwnnw.
91.Mae adran 11E(5) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau pwy sy’n cael eu diystyru at ddibenion y disgowntiau a nodir yn adran 11E(2) o Ddeddf 1992. Mae’r pŵer hwn yn disodli’r pŵer yn adran 11(5) o Ddeddf 1992 a fydd yn parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr yn unig.
92.Mae adran 18(5) hefyd yn mewnosod adran 11F newydd yn Neddf 1992. Mae’r adran hon yn disodli adran 12 o Ddeddf 1992, sy’n cael ei hepgor gan adran 18(6). O dan adran 11F(1) a (3), caiff Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, ragnodi dosbarthau o anheddau y mae disgownt o dan adran 11E yn gymwys iddynt drwy gyfeirio at:
y math o anheddau neu eu nodweddion ffisegol, neu faterion eraill sy’n ymwneud ag anheddau;
amgylchiadau unrhyw berson sy’n atebol am dalu swm y dreth gyngor dan sylw, neu faterion eraill sy’n ymwneud â’r person hwnnw.
93.O dan adran 11F(2), ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol y mae dosbarth o anheddau o’r fath yn cael ei ragnodi mewn cysylltiad â hi, caiff awdurdod bilio benderfynu datgymhwyso neu leihau’r disgownt o dan sylw mewn perthynas ag anheddau yn ei ardal (neu ran o’i ardal a bennir gan yr awdurdod).
94.Mae adran 11F(4) i (7) yn gwneud darpariaeth atodol, gan gynnwys gofyniad i unrhyw benderfyniad a wneir gan awdurdod o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi’n electronig.
95.Mae adran 12A ac adran 12B o Ddeddf 1992 yn rhoi pwerau yn ôl eu disgresiwn i awdurdodau bilio i godi symiau uwch oʼr dreth gyngor yn achos anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol.
96.Mae adran 18(7) yn diwygio adran 12A o Ddeddf 1992, sy’n gwneud darpariaeth i awdurdodau bilio bennu bod swm y dreth gyngor sy’n daladwy yn cael ei gynyddu hyd at 300 y cant. Fel y’i diwygiwyd, ni fydd adran 12A bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod bilio ddatgymhwyso’r disgownt pan nad oes preswylydd yn yr annedd fel rhan o’i benderfyniad i gynyddu’r dreth gyngor o dan adran 12A (oherwydd bod y disgownt pan nad oes preswylydd yn yr annedd wedi cael ei ddiddymu yng Nghymru). Yn hytrach, mae adran 12A yn cael ei diwygio fel bod rhaid i’r awdurdod gyfrifo swm y dreth gyngor sy’n daladwy drwy, yn gyntaf, ychwanegu’r cynnydd ar ffurf canran, ac wedyn tynnu unrhyw ddisgownt sy’n gymwys (gweler adran 12A(1)). Bydd disgownt ym gymwys at y dibenion hyn os yw wedi cael ei ragnodi gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol ag adran 11E(3), ac nad yw wedi cael ei ddatgymhwyso gan yr awdurdod bilio o dan adran 11F(2)(a). Swm y disgownt y mae’r awdurdod bilio yn ei dynnu fydd swm y disgownt a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir o dan adran 11E(1) neu, os yw’n llai, y swm a bennir gan yr awdurdod bilio o dan adran 11F(2)(b). Mae adran 18(8) yn gwneud yr un diwygiad i adran 12B o Ddeddf 1992 mewn perthynas ag anheddau a feddiennir yn gyfnodol.
97.Mae is-adrannau (9) i (11) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau eraill yn Neddf 1992.
98.Mae adran 19(2) oʼr Ddeddf yn diwygio adran 13 o Ddeddf 1992, o ran pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhagnodi o dan ba amodau ac amgylchiadau y mae person yn gymwys ar gyfer gostyngiad i’r dreth gyngor, drwy ei newid yn ddyletswydd i wneud rheoliadau o’r fath.
99.Mae adran 19 hefyd yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 13A o Ddeddf 1992 syʼn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio wneud cynllun gostyngiadauʼr dreth gyngor, ac yn gwneud amryw ddiwygiadau canlyniadol – gan gynnwys hepgor Atodlen 1B i Ddeddf 1992, a oedd yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadauʼr dreth gyngor yn unol â rheoliadau o dan adran 13A.
100.Mae adran 19(6) yn diwygio adran 66(2) o Ddeddf 1992, sy’n rhestru materion yn y Ddeddf honno na chaniateir eu cwestiynu ond drwy adolygiad barnwrol, drwy ychwanegu materion mewn rheoliadau a wneir o dan adran 13 at y rhestr hon.
101.Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer llunio rhestrau prisio newydd bob pum mlynedd ar gyfer y dreth gyngor, gan ddechrau yn 2028 , drwy ddiwygio adran 22B o Ddeddf 1992.
102.Cyn y diwygiad, caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy orchymyn, y flwyddyn y mae rhestr brisio treth gyngor newydd i gael ei llunio. Nid oes gofyniad i lunio rhestr newydd ar gyfnodau rheolaidd.
103.Diwygir adran 22B(3) o Ddeddf 1992 fel na all Gweinidogion Cymru ond arfer eu pŵer i wneud gorchymyn i bennu blwyddyn heb fod yn hwyrach na 2027 . Mae adran 20(1)(b) oʼr Ddeddf yn mewnosod is-adrannau newydd (3A) i (3C) yn adran 22B. Maeʼr rhain yn nodiʼr trefniadau newydd ar gyfer llunio rhestrau prisioʼr dreth gyngor ar ôl 2029:
mae adran 22B(3A) yn darparu bod rhaid i swyddog rhestru mewn awdurdod bilio yng Nghymru lunio rhestr newydd ar 1 Ebrill yn y flwyddyn ailbrisio;
mae adran 22B(3B) yn pennu 2028 a phob pumed flwyddyn wedyn yn flwyddyn ailbrisio;
mae adran 22B(3C) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru drwy orchymyn i ddiwygio blwyddyn ailbrisio, neuʼr cyfnod rhwng blynyddoedd prisio.
104.Mae adran 20(1)(d) oʼr Ddeddf yn mewnosod is-adran (7A) yn adran 22B o Ddeddf 1992. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, mewn gorchymyn, y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i swyddogion rhestru anfon copi oʼr rhestr brisio arfaethedig at eu hawdurdodau bilio. Os na fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn oʼr fath, y dyddiad cau fydd 1 Medi cyn y dyddiad y maeʼr rhestr i gael ei llunio arno.
105.Mae adran 20(1)(e), (f) ac (g) yn newid y system o adneuo rhestrau prisio yng Nghymru, ar gyfer rhestrau yn y dyfodol, drwy ddatgymhwyso adran 22B(10) o Ddeddf 1992 a mewnosod is-adrannau newydd (8) a (10A). Ar ôl y diwygiad, rhaid i awdurdod bilio yng Nghymru:
gadw, yn electronig, gopi o restr a gynigir gan swyddog prisio a chymryd camau i roi hysbysiad ohoni;
adneuo, yn ei brif swyddfa, gopi o restr a lunnir o dan adran 22B(3);
cadw, yn electronig, gopi o restr a lunnir o dan adran 22B(3A).
106.Mae is-adran (10) o adran 22B o Ddeddf 1992 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwygiad mewn perthynas ag unrhyw restr ar gyfer Cymru a adneuwyd cyn i adran 19 ddod i rym (yn sgil adrannau 34 a 37 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019). Mae hyn yn golygu bod cyfeiriadau at restr a adneuwyd o dan is-adran (10) (“a list deposited under subsection (10)”) syʼn ymddangos mewn lleoedd eraill yn Neddf 1992 (er enghraifft, yn adran 24(9)) yn parhau i gynnwys rhestrau ar gyfer Cymru a adneuwyd yn flaenorol o dan yr is-adran honno.
107.Mae’r adran hon yn diffinio cyfeiriadau at y Deddfau sy’n cael eu diwygio gan y Ddeddf.
108.Maeʼr adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaethau deilliadol, atodol, canlyniadol, trosiannol neu ddarpariaethau arbed mewn perthynas âʼr darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf hon.
109.Maeʼr adran hon yn nodi sut y bydd darpariaethauʼr Ddeddf hon yn dod i rym. Daw adrannau 1, 16, 21, 22 a 24 a pharagraff 13(3)(b) o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 13(3)(b)) i rym drannoeth y diwrnod y Cydsyniad Brenhinol.
110.Daw adrannau 2, 3, 4 a Rhan 1 oʼr Atodlen (ac adran 15 iʼr graddau y maeʼn ymwneud âʼr Rhan honno oʼr Atodlen), 5, 7, 8 a Rhan 2 oʼr Atodlen (ac adran 15 iʼr graddau y maeʼn ymwneud âʼr Rhan honno oʼr Atodlen), 9 a Rhan 3 oʼr Atodlen (ac adran 15 iʼr graddau y maeʼn ymwneud âʼr Rhan honno oʼr Atodlen), 13 a Rhan 6 o’r Atodlen (ac adran 15 iʼr graddau y maeʼn ymwneud âʼr Rhan honno oʼr Atodlen), 14 a Rhan 7 o’r Atodlen (ac adran 15 iʼr graddau y maeʼn ymwneud âʼr Rhan honno oʼr Atodlen) 17, a 20 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddeufis syʼn dechrau â diwrnod y Cydsyniad Brenhinol.
111.Daw adrannau 6, 10, 11 a Rhan 4 oʼr Atodlen (ac adran 15 iʼr graddau y maeʼn ymwneud âʼr Rhan honno oʼr Atodlen) i rym ar 1 Ebrill 2025.
112.Daw adran 18(2)(c) a (5) i rym drannoeth y diwrnod y Cydsyniad Brenhinol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 6(4C)(b)(ii) a (4D) ac adran 11E(1), (2)(b), (3), (5) a (7) ac adran 11F(1) a (7) o Ddeddf 1992 (fel y’i diwygiwyd). At bob diben arall deuant i rym ar y diwrnod (neu’r diwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru.
113.Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru. Caiff gorchymyn yn hyn o beth wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
114.Mae’r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024.
115.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiau ar gyfer pob cofnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 20 Tachwedd 2023 |
Cyfnod 1 Cyfarfod Llawn– Dadl | 16 Ebrill 2024 |
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – Ystyried y gwelliannau | 13 Mehefin 2024 |
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – Ystyried y gwelliannau | 9 Gorffennaf 2024 |
Cyfnod 4 Cyfarfod Llawn - Cymeradwywyd gan y Senedd | 16 Gorffennaf 2024 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 16 Medi 2024 |